Mae’r adran hon o’r wefan yn cynnwys gwybodaeth i ddangos cyflwr presennol Parc Cenedlaethol Eryri.

Caiff y data o fewn yr adran yma ei adolygu a’i ddiweddaru’n barhaus, a mae’n ffurfio sylfaen dystiolaeth i adroddiadau a strategaethau y Parc Cenedlaethol megis ‘Cynllun Eryri‘.

Nid yw’r data a ddarperir yn dangos y sefyllfa bresennol yn unig. Mae’n cyflwyno y cyfleoedd a sialensiau posibl y dyfodol y mae’r Parc Cenedlaethol yn eu hwynebu, boed o ran yr amgylchedd, cynhyrchu ynni, strwythur oedran a rheoli poblogaeth neu ymwelwyr.

Os ydych yn gweld unrhyw fylchau data neu yn gwybod am wybodaeth yr hoffech ei weld wedi ei gynnwys yna cysylltwch â’r Tim Partneriaethau ar angela.jones@eryri.llyw.cymru.

Lawrlwytho’r Adroddiad fel PDF