Daeareg a Phriddoedd

Mae gan y Parc Cenedlaethol gymeriad daearegol unigryw a gweladwy sy’n rhan sylfaenol o’i dirwedd ragorol a golygfeydd a ffurfiwyd ac a ail-siapiwyd gan brosesau cymhleth fel tectoneg platiau, rhewlifiannau, hindreuliad ac erydiad. Chwaraeodd Eryri ran bwysig yn natblygiad y gwyddorau daear, gyda llawer o ddaearegwyr nodedig yn ymweld i wneud gwaith maes. Mae’n cynnwys cyfoeth o nodweddion daearegol a geomorffolegol sy’n bwysig yn genedlaethol ac yn lleol, ac mae yn Eryri ystod eang o fathau o bridd sy’n cael eu dylanwadu gan y ddaeareg sylfaenol a mathau o graig a hefyd yr arferion rheoli tir/ gweithgarwch.

Dros amser sylweddol, mae gweithredu dynol wedi effeithio mewn gwahanol ffyrdd ar adnoddau daearegol a phridd drwy weithgareddau megis chwarelydda; clirio coetiroedd brodorol ar gyfer amaethyddiaeth; draenio corsydd yr ucheldir; coedwigo masnachol ac erydiad o ganlyniad i weithgareddau hamdden a gorbori.

LANDMAP

Mae LANDMAP yn arf er mwyn helpu gwneud penderfyniadau cynaliadwy a chynllunio adnoddau naturiol at amrywiaeth o lefelau, o leol i genedlaethol. Mae yna bump set ddata gofodol yn cael eu cynnwys yn hyn, sef:

  • Tirweddau Daearegol
  • Cynefinoedd Tirwedd
  • Gweledol a Synhwyraidd
  • Tirweddau Hanesyddol
  • Tirweddau Diwylliannol

Mae’r ddelwedd isod yn dangos canran o ardaloedd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri sydd wedi derbyn gradd o uchel neu ragorol o fewn eu categoriau perthnasol.

Safleoedd Geoamrywiaeth o Bwysigrwydd Rhanbarthol (RIGS)

Dynodwyd y RIGS fel Safleoedd Daearegol/ Geomorffolegol sy’n Bwysig yn Rhanbarthol o ran Gwarchod Natur yn y DU “Earth Science Conservation in Great Britain: A Strategy (1990), ac sydd o safon sy’n haeddu cydnabyddiaeth a gwarchodaeth fel safleoedd anstatudol, i gyd-fynd â’r SoDdGA a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol sydd o dan warchodaeth statudol. Bellach gelwir safleoedd RIGS yng Nghymru yn Safleoedd Geoamrywiaeth Rhanbarthol.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyfrannu at archwiliad Cymru gyfan o RIGS drwy gymorth ariannol a thechnegol. Yr archwiliad a ddechreuodd yn 2003 yw’r asesiad cenedlaethol cynhwysfawr cyntaf o safleoedd ail-haen yng Nghymru. Fe’i cynhaliwyd i raddau helaeth gan grwpiau RIGS lleol a Gwyddonwyr Daear Cyfoeth Naturiol Cymru gyda’r mwyafrif o’r cyllid yn dod o Gronfa Gynaliadwyedd yr Ardoll Agregau, ond gyda chyfraniad ariannol gan Gyfoeth Naturiol Cymru at y prosiect yng Ngogledd Cymru. Arweiniodd yr archwiliad at safoni’r ddogfennaeth safle, digideiddio ffiniau’r safle i fformat cyffredin a sicrhau bod y tirfeddianwyr ac awdurdodau cynllunio yn cael eu hysbysu o’r RIGS.

Roedd datblygu cronfa ddata GIS ar gyfer y prosiect yn fewnbwn sylweddol gan Gyfoeth Naturiol Cymru, lle y gwelwyd pob un o’r 600 neu fwy o safleoedd a gofrestrwyd hyd yn hyn yn cael eu digideiddio gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Ar hyn o bryd Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n cynnal y data GIS hwn.

Mae 47 o RIGS yn y Parc Cenedlaethol.

Safleoedd RIGS yn Eryri

Lleoliad Safleoedd Mwynau sy’n Gweithio yn Eryri

Braich Ddu
Nwyddau: Gwastraff Llechi
Math arall o fwynau: Cerrig Adeiladu
Grid Cenedlaethol Dwyreiniad: 271970
Grid Cenedlaethol Gogleddiad: 338440

Craig y Tan
Nwyddau: Craig Igneaidd a Metamorffig
Math arall o fwynau : Cerrig Adeiladu
Grid Cenedlaethol Dwyreiniad: 271349
Grid Cenedlaethol Gogleddiad: 336224

Ty’n-y-Coed
Nwyddau: Gwastraff Llechi
Math arall o fwynau: Agregau Eilaidd
Grid Cenedlaethol Dwyreiniad: 265030
Grid Cenedlaethol Gogleddiad: 315275

Safleoedd Mwynau sy’n Gweithio (Ffynhonnell: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri)

Priddoedd Mawn a Storio Carbon

Dal a storio carbon yw lle mae carbon deuocsid atmosfferig yn cael ei dynnu allan drwy brosesau naturiol neu artiffisial a’u storio. Mae priddoedd mawn yng Nghymru yn darparu storfa garbon sylweddol. Yr amcangyfrif presennol8 o faint y priddoedd mawn dwfn (≥0.5m ddyfnder) yng Nghymru yw 90,995ha, tua 4% o gyfanswm arwynebedd y tir. Maent yn darparu’r storfa ddaearol ecosystem fwyaf o garbon yng Nghymru, oddeutu 157mt.

Amcangyfrifir petaent yn cael eu dychwelyd i gyflwr bron yn naturiol, byddau eu potensial lliniaru newid yn yr hinsawdd yn 300,000 tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn. Mae hyn yn fras yn cyfateb i 5% o’r holl allyriadau sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth yng Nghymru.

Ceir tua 30% o gorsydd mawn Cymru o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri. Er mwyn cael asesiad mwy cywir, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi comisiynu mapio a gwerthuso mawn, cynefinoedd mawndir, gwasanaethau ecosystem cysylltiedig, a blaenoriaethau adfer yn Eryri. Bydd allbynnau’r gwaith hwn yn cynnwys:

  • rhestr sy’n seiliedig ar GIS o ddyddodion mawn dwfn (>0.5m) yn ac o fewn byffer amrywiol ffin y Parc Cenedlaethol;
  • amcangyfrif o stociau carbon mewn mawn, yn seiliedig ar ddyfnder mawn a morffoleg mawndir i nodi safleoedd storio carbon â blaenoriaeth o fewn ardal y prosiect;
  • map a gwerthusiad o orchudd cynefinoedd a chyflwr mawndiroedd o fewn ac ar gyrion y Parc Cenedlaethol ar lefel gymunedol planhigion fel NVC a/neu Rhan I. Gorchudd cynefin i gael eu grwpio i mewn i gyfres o ddosbarthiadau sy’n adlewyrchu cyflwr y cynefin eang; cynhyrchu mapiau a thablau maint gorchudd cynefin, sy’n dangos i ba raddau y ceir gorgyffyrddiad o’r dosbarthiadau gorchudd cynefin cyffredinol hyn ar fawn;
  • map yn dangos nodweddion draenio (ffosydd) ar fawn dwfn yn ardal yr astudiaeth yn dilyn methodoleg a ddatblygwyd gan Arolwg Daearegol Prydain;
  • map o “fannau problem” o ran allyriadau a blaenoriaethau adfer drwy draws fapio ffactorau allyriadau i gategorïau gorchudd cynefin diffiniedig i roi allbynnau wedi’u mapio o allyriadau yn ôl dosbarthiadau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw;
  • nodi cyfleoedd allweddol lle gellid ffocysu gwaith adfer i leihau allyriadau. Bydd hyn yn golygu casglu tystiolaeth yn ymwneud â chymeriad a chyflwr cynefin, topograffi (llethr yn bennaf) ac agosrwydd at afonydd a llynnoedd i nodi safleoedd blaenoriaeth ar gyfer adfer. Mae trydydd haen GIS i gael ei datblygu sy’n adlewyrchu ‘brys adfer’ yn seiliedig ar ba mor agored yw’r safleoedd tir mawn i niwed pellach ac i golli carbon (e.e. safleoedd sydd wedi’u herydu’n ddifrifol);

Bydd canlyniadau’r gwaith hwn, gyda rhai ohonynt yn cael eu hymgorffori yn y ddogfen hon pan ddônt ar gael, yn galluogi’r Awdurdod i ddatblygu strategaeth mawndir i helpu llywio gwaith adfer yn y dyfodol fel elfen o reoli tir yn gynaliadwy ac i helpu i feintioli rhai o’r prif fuddiannau gwasanaeth ecosystem sy’n gysylltiedig â gwaith adfer. Mae’r map isod yn dangos hyd a lled y priddoedd mawn yn Eryri.

Map showing areas of peatland within Snowdonia National Park

Mae’r map uchod yn arddangos ardaloedd mawndir o fewn Parc Cenedlaethol Eryri (amlinelliad gwyrdd). Mae’r ardaloedd a arddangoswyd yn biws yn dangos yr ardaloedd mawndir.

Canran mawn o fewn Parc Cenedlaethol Eryri 
Cyfanswm Ardal: 213,969 ha
Ardal Mawn: 25,460 ha
% mawn: 12%

Cyfanswm stoc carbon ym mhriddoedd man a priddoedd di-fawn o fewn Parc Cenedlaethol Eryri.

Mawn Stoc C (t): 16,968,000
Cyfartaledd stoc mawn (t/ha): 666
Di-fawn stoc (t): 15,735,000
Cyfartaledd C di-fawn (t/ha): 83

8 Cipolwg ar Gyflwr Adnoddau Naturiol Cymru, 2015

Coetiroedd

Hyd a lled y Gorchudd Coetiroedd

Cymru yw un o’r gwledydd lleiaf coediog yn Ewrop gydag amcangyfrif o ardal goetir o 303,500ha ar 31 Mawrth 2010. Mae hyn yn 14.3% o gyfanswm arwynebedd y tir o’i gymharu â chyfartaledd yr UE o 37% y cant. Cyfoeth Naturiol Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru, sy’n rheoli 37% o’r coetir yng Nghymru, sy’n cyfateb i 114,000 hectar. Mae 190,000 ha pellach mewn perchnogaeth breifat.

Mae’r pren o goetiroedd conwydd Cymru yn cael ei ddefnyddio yn bennaf mewn adeiladu, ffensio a phecynnu.

Mae’r gorchudd coetir ym Mharc Cenedlaethol Eryri tua 18%, sy’n cyfateb i tua 38,000ha (12.5% o orchudd coetir Cymru). Er y byddai ardaloedd helaeth o Eryri unwaith wedi bod yn goedwigoedd o goed llydanddail brodorol, mae gweithrediadau dynol wedi gostwng hyn dros sawl mileniwm, fel mai dim ond tua 5% o orchudd coetir y Parc Cenedlaethol sydd bellach yn goetiroedd brodorol, yn cyfateb i (11,000ha).

Mae’r Rhestr o Goetiroedd Hynafol (AWI) yn nodi coetiroedd a fu â gorchudd coetir di- dor ers rhai canrifoedd. Dengys astudiaethau fod y coetiroedd hyn fel arfer yn fwy bioamrywiol ac o werth cadwraeth natur uwch na’r rhai a ddatblygwyd yn ddiweddar neu’r rhai lle bu gorchudd coetir ar y safle yn ysbeidiol. Gall y coetiroedd hyn hefyd fod yn bwysig yn ddiwylliannol. Mae’r rhestr newydd sydd wedi’i diweddaru (AWI 2011) yn dangos bod yna tua 95,000ha o goetiroedd hynafol yng Nghymru.

  • Coetir Hynafol Lled-naturiol (ASNW) – coetiroedd llydanddail yn cynnwys rhywogaethau o goed a llwyni brodorol yn bennaf, y credir eu bod wedi bod mewn bodolaeth ers dros 400 mlynedd
  • Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS) – safleoedd y credir eu bod wedi bod yn goediog yn barhaus ers dros 400 mlynedd ac sydd ar hyn o bryd â gorchudd canopi o fwy na 50% o rywogaethau coed conwydd anfrodorol
  • Safleoedd Coetir Hynafol wedi’u Hadfer (RAWS) – coetiroedd sydd yn goed llydanddail yn bennaf yn awr, y credir eu bod wedi bod yn goediog yn barhaus ers dros 400 mlynedd. Bydd y coetiroedd hyn wedi mynd drwy gyfnod pan yr oedd y gorchudd canopi yn fwy na 50% o rywogaethau coed conwydd anfrodorol ond sydd yn awr â gorchudd canopi o fwy na 50% o goed llydanddail9
  • Safle Coetir Hynafol o Gategori Anhysbys (AWSU) – coetiroedd a all fod yn ASNW, RAWS neu PAWS. Mae’r ardaloedd hyn yn bennaf yn y cyfnod pontio ac mae’r gorchudd coed presennol yn cael ei ddisgrifio fel ‘llwyni’, ‘coed ifanc’, ‘coed wedi’u torri’ neu ‘dir a baratowyd ar gyfer plannu’.

Coetir hynafol a safle o gategori anhsybys
Cymru: 713.4 ha
Eryri: 5444.1 ha

Coetir hynafol lled-naturiol
Cymru: 41,786.53 ha
Eryri: 3854.37 ha

Planhigfa ar safle coetir hynafol
Cymru: 25,748.89 ha
Eryri: 3033.07 ha

Coetir hynafol wedi’i adfer
Cymru: 21,961.58 ha
Eryri: 1986.66 ha

Cyfanswm
Cymru: 94,941.1 ha
Eryri: 9,578.5 ha

Amcangyfrifir bod dal a storio carbon ar hyn o bryd gan goed yng Nghymru yn dod i tua 1.42 Mt yn flynyddol (tua.3.8% o gyfanswm yr allyriadau carbon deuocsid) ac mae’r Cod Carbon Coetiroedd yn helpu i wella hyn. Mae statws Cymru fel suddfan net ar gyfer carbon yn ganlyniad i ddigwyddiadau isel o newid defnydd tir ac adnodd coedwig gymharol ifanc.

Coniffer Prydain 
Coesynnau: 189
Arall: 51
Cyfanswm: 340

Coniffer Cymru
Coesynnau: 23
Arall: 18
Cyfanswm: 41

Llydanddail Prydain 
Coesynnau: 109
Arall: 136
Cyfanswm: 245

Llydanddail Cymru
Coesynnau: 14
Arall: 17
Cyfanswm: 31

Cyfanswm Prydain a Chymru
Prydain: 534
Cymru: 72

Data o McKay et al, (2003) a gyfrifwyd gan dybio fod 50% o’r biomas yn C; yn eithrio gwreiddiau mân a deiliant llydanddail (collddail tybiedig); yn eithrio coedwigoedd sydd mewn eiddo preifat <2ha.

Crynodeb o stociau carbon (MtCO2) mewn biomas coed sy’n sefyll mewn coetiroedd ym Mhrydain Fawr a Chymru.

Ni chyhoeddwyd ffigyrau ar wahân ar gyfer y stoc carbon mewn coed yn y Parc Cenedlaethol; fodd bynnag, fel man cychwyn, gellir gwneud brasamcan yn seiliedig ar ddau gyfrifiad, yn gyntaf y dosraniad (12.5%) o gyfanswm Cymru o 72 MtCO2 i Eryri ac yna cymhwyso’r ffigyrau amcangyfrifiedig o 300 a 500 tCO2ha-1 yn y drefn honno ar gyfer lleiniau sbriws Sitka a derw i’r c27,000 ha o blanhigfeydd sbriws Sitka a c11,000 o goetiroedd derw yn y Parc Cenedlaethol.10

Byddai stociau carbon amcangyfrifiedig ym miomas coetiroedd Eryri o fewn yr ystod 9 – 13.6 MtCO2

Amcangyfrif o gydrannau a chyfrannau stociau mewn coedwig Coedwigaeth Cymru (MtCO2)

Dengys y diagram bod priddoedd, yn enwedig y gleiau mawnog lle plannwyd y rhan fwyaf o goedwigoedd Eryri, yn cyfrif am y mwyafrif helaeth o stociau carbon mewn coetiroedd.

Byddai hyn yn cyfateb i tua 25.13 MtCO2 mewn priddoedd coetir yn Eryri.

Mae’r Cytundeb Coetiroedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri/ Comisiwn Coedwigaeth yn anelu at gynyddu’r ardal o goetir brodorol o fewn y Parc Cenedlaethol o 50% erbyn 2050 a sicrhau fod y coedlannau presennol yn cael eu rheoli’n briodol o fewn yr un cyfnod (Ffynhonnell: Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Eryri).

Ffynhonnell: peat-executive-summary.pdf

Mae’r Cytundeb Coetiroedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri/ Comisiwn Coedwigaeth yn anelu at gynyddu’r ardal o goetir brodorol o fewn y Parc Cenedlaethol o 50% erbyn 2050 a sicrhau fod y coedlannau presennol yn cael eu rheoli’n briodol o fewn yr un cyfnod (Ffynhonnell: Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Eryri).

 

 

9 Nid yw ffynonellau gwybodaeth yn nodi p’un a yw coed llydanddail yn frodorol i safle penodol, felly gwnaed rhagdybiaeth eu bod yn frodorol. Mae’r ymadrodd ‘adfer coetir hynafol’ yn disgrifio coetir sy’n ymddangos, gyda’r defnydd o dechnegau synhwyro o bell, fel eu bod wedi dychwelyd i gyflwr mwy naturiol. Nid yw’r dynodiad rhestr eiddo yn golygu bod y coetir wedi cael ei adfer yn llawn, na’i fod mewn cyflwr ecolegol da. Efallai’n wir y bydd angen gwaith adfer gweithredol i atgyfnerthu’r gwelliannau o ran cyflwr.

10 Mae’r ffigyrau yn deillio o “Understanding the carbon and greenhouse gas balance of forests in Britain.” Comisiwn Coedwigaeth 2012.

 

Amaethyddiaeth

Mae’r hinsawdd arforol tymherus llaith yn bennaf wedi’i gyfuno â thopograffi Cymru yn golygu bod amaethyddiaeth yn canolbwyntio’n bennaf ar fagu da byw ar gyfer cig a chynhyrchu llaeth. Mae’r gyfran fwyaf yn ymwneud â chynhyrchu cig coch (defaid, gwartheg, moch), tua 43% o gyfanswm Allbwn Amaethyddol Cymru. Mae tyfu cnydau âr neu arddwriaethol a magu dofednod neu foch yn sectorau llai.

Mae ffermydd defaid neu wartheg yr ucheldir yn cynnwys 31% o’r cyfanswm, gyda 4% yn llaeth. Ar hyn o bryd, mae tua 9.7m o ddefaid yng Nghymru (tua chwarter cyfanswm defaid y DU) ac oddeutu 1.1 miliwn o wartheg.

Mae’r dynodiad Ardaloedd Llai Ffafriol (ALFf) yn cwmpasu 76% o arwynebedd tir amaethyddol yng Nghymru. Diffinnir yr ardaloedd hyn fel tir lle y cyfyngir ar gynhyrchiant amaethyddol oherwydd cyfyngiadau topograffig a hinsoddol megis llethrau serth, priddoedd gwael a llawer o law. Dangosodd Ystadegau Amaethyddol Cymru 2012-2013 fod 63,366 ha o goetir (20% o holl goetiroedd Cymru) ar ddaliadau amaethyddol yn 2013, a leolir yn bennaf yn yr Ardaloedd Llai Ffafriol.

Mae’r Awdurdod yn cydnabod pwysigrwydd amaethyddiaeth i Eryri trwy gael staff ymroddedig i weithio ochr yn ochr â ffermwyr i gyflenwi Pwrpasau’r Parc Cenedlaethol. Mewn blynyddoedd diweddar, bu’r Adran Amaethyddiaeth yn allweddol wrth dynnu i lawr arian Ewropeaidd er mwyn galluogi ffermwyr i ymgymryd â nifer o brosiectau rheoli tir.

Yn ychwanegol at gyflwyno grantiau i reoli tir, mae’r adran hefyd yn darparu cyngor polisi/cymorth technegol ac yn penderfynu ar geisiadau (cynllunio) caniataol datblygiadol am amaethyddiaeth yn y Parc Cenedlaethol.

Dosbarthiad Tir Amaethyddol

Mae’r system Dosbarthiad Tir Amaethyddol yn darparu mecanwaith ar gyfer asesu ansawdd tir amaethyddol i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â’i ddefnydd yn y dyfodol. Mae’r dosbarthiad yn seiliedig ar y cyfyngiadau tir ffisegol tymor hir i ddiben defnydd amaethyddol. Ffactorau sy’n effeithio ar y radd yw: nodweddion hinsawdd, safle a phridd a’r rhyngweithiadau pwysig rhyngddynt. Yn Ffigwr 6 gweler fap sy’n dangos y dosbarthiadau tir o fewn y Parc Cenedlaethol. Mae’r tir wedi’i raddio’n 3 (da/ cymedrol) ac is.

 

Ffigwr 6: Dosbarthiad Tir Amaethyddol ar gyfer y Parc Cenedlaethol (Ffynhonnell: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, 2008)