Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

Mae’r Ddeddf Rhydd Gwybodaeth 2000 yn rhoi’r hawl i chi gael gwybodaeth gennym mewn dwy ffordd:

  • Trwy’r Cynllun Cyhoeddi a’r Canllaw i Wybodaeth, sef dogfennau sy’n dangos y math o wybodaeth a gyhoeddir gan yr Awdurdod a ffurf y wybodaeth.
  • Gwneud cais penodol am wybodaeth.

Sut i wneud Cais

Mae’n rhaid i geisiadau fod yn ysgrifenedig. Dylech nodi eich enw a’ch manylion cyswllt ynghyd â pha wybodaeth yr hoffech ei weld.

Ffurf y Wybodaeth

Byddwn yn ceisio darparu’r wybodaeth i chi yn y ffurf y gofynnwyd amdano, os yw hynny’n rhesymol.

Eithriadau

Mae gennych yr hawl i ofyn am gael gweld unrhyw wybodaeth sy’n cael ei gadw gan yr Awdurdod. Fodd bynnag, gellir gwrthod rhyddhau gwybodaeth os yw un o’r eithriadau a geir o dan y Deddf yn berthnasol. Ceir eithriadau llwyr neu eithriadau amodol. Cyn defnyddio eithriad amodol mae’n rhaid i ni ystyried a yw er lles y cyhoedd i ddatgelu’r wybodaeth ai peidio.

Amser

Fel rheol, mae gennym 20 diwrnod gwaith i ymateb i’ch cais ond fe allwn ymestyn hyn os oes angen ystyried eithriadau sy’n destun prawf lles y cyhoedd.

Ffioedd

Mae gennym yr hawl i godi ffi arnoch ond mae’n rhaid i ni roi gwybod i chi ymlaen llaw os ydym yn bwriadu gwneud hyn.

Trefn Gwyno

Os nad ydych yn fodlon gyda’r ymateb yr ydych wedi ei dderbyn, mae gennym drefn gwyno ffurfiol i’w dilyn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Cyflwyno Cwyn.

Cyflwyno Cwyn

Cysylltu â Ni

Cyfeiriwch eich cais am wybodaeth os gwelwch yn dda at:

Pennaeth Gweinyddol a Gofal Cwsmer
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Swyddfa’r Parc Cenedlaethol
Penrhyndeudraeth
Gwynedd. LL48 6LF

Ebost: Bethan.Hughes@eryri.llyw.cymru

Cynllun Cyhoeddi enghreifftiol y Comisiynydd Gwybodaeth

Ers y 1af o Ionawr 2009, mae’n rhaid i bob awdurdod cyhoeddus fabwysiadu cynllun enghreifftiol y Comisiynydd Gwybodaeth ynghyd â pharatoi Canllaw Gwybodaeth i fynd gyda’r cynllun.

Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol (PDF)