Os ydych chi’n dueddol o wneud defnydd cyson o feysydd parcio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, gallwch ystyried prynu trwydded i hwyluso eich ymweliad ag Eryri.

Mae’r drwydded yn caniatáu i chi barcio ym meysydd parcio talu ac arddangos Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ddi-dâl.

Bydd y drwydded yn ddilys am gyfnod o flwyddyn rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth bob blwyddyn. Bydd angen adnewyddu eich trwydded yn flynyddol.

Dim ond mewn meysydd parcio dan reolaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a ganiateir defnydd o’r drwydded. Mae rhai meysydd parcio yn y Parc Cenedlaethol dan reolaeth endidau eraill megis Cyfoeth Naturiol Cymru neu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Nid yw’r drwydded yn ddilys mewn meysydd parcio dan reolaeth endidau eraill.

Bydd y drwydded parcio yn caniatáu defnydd o’r meysydd parcio canlynol:

  • Betws y Coed
  • Ogwen
  • Nant Peris
  • Cwellyn
  • Pont Bethania
  • Beddgelert
  • Rhyd Ddu
  • Llyn Tegid
  • Morfa Dyffryn
  • Tŷ Nant
  • Dol Idris
  • Llangywer
  • Capel Curig

Nid yw’r drwydded yn caniatáu parcio yn y meysydd parcio canlynol:

  • Pen y Pass
  • Cae Llan (Betws y Coed)

Nid yw’r drwydded yn caniatáu parcio yn y meysydd parcio canlynol:

  • Pen y Pass – mae’n rhaid rhagarchebu lle ar gyfer parcio ym Mhen y Pass
  • Cae Llan – maes parcio arhosiad byr dros ffordd i orsaf drên Betws y Coed

Mae trwydded blynyddol sy’n rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth yn costio £120 waeth be fo’r cerbyd.

Mae’r pris hwn yn cynnwys TAW ar y raddfa safonol o 20%.

  • Sicrhewch eich bod chi’n arddangos eich trwydded yn glir pan fyddwch yn parcio er mwyn i ofalwyr y maes parcio fedru ei ddarllen yn hawdd.
  • Nid yw’r drwydded yn gwarantu lle parcio i chi ymlaen llaw.
  • Rhaid parcio oddi fewn y baeau parcio priodol.
  • Ni ddylech lungopïo neu newid eich trwydded neu adael i rhywun arall wneud hynny.
  • Bydd tâl o £10 yn cael ei godi i ail argraffu trwydded

 

Archebu trwydded

Gallwch archebu trwydded drwy gwblhau’r ffurflen trwyddedau parcio blynyddol.

Lawrlwytho Ffurflen Drwydded Blynyddol

Wedi i chi gwblhau’r ffurflen, dylech ei danfon i’r cyswllt canlynol.

Adain Eiddo
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Swyddfa’r Parc Cenedlaethol
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6LF

property@snowdonia.gov.wales

Ffôn: 01766 772 511