Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi ymrwymo i ddelio’n effeithiol ag unrhyw bryderon neu gwynion sydd gennych am ein gwasanaeth.

Ein nod yw egluro unrhyw faterion nad ydych yn sicr yn eu cylch. Os yw’n bosibl, byddwn yn cywiro unrhyw gamgymeriadau yr ydym efallai wedi’u gwneud. Os ydym wedi gwneud rhywbeth yn anghywir, byddwn yn ymddiheuro ac os yw’n bosibl byddwn yn ceisio gwneud iawn am hynny. Rydym hefyd yn ceisio dysgu o’n camgymeriadau ac yn defnyddio’r wybodaeth a gawn i wella ein gwasanaethau.

Pryd y dylid defnyddio’r polisi hwn

Pan fyddwch yn mynegi eich pryderon neu’ch cwyn wrthym, byddwn fel arfer yn ymateb yn y ffordd sy’n cael ei disgrifio isod.  Fodd bynnag, weithiau efallai y bydd gennych hawl statudol i apelio, er enghraifft yn erbyn gwrthod rhoi caniatâd cynllunio i chi, yn hytrach nag ymchwilio i’ch pryder, byddwn yn egluro wrthych sut i apelio.  Weithiau, efallai y byddwch yn pryderu am faterion nad ni sy’n penderfynu arnynt a byddwn yn rhoi gwybod i chi wedyn sut mae gwneud eich pryderon yn hysbys.

Datrys anffurfiol

Os yw’n bosibl, credwn ei bod yn well delio â phethau ar unwaith yn hytrach na cheisio’u datrys yn ddiweddarach.  Os oes gennych bryder, codwch ef gyda’r sawl yr ydych yn delio ag ef.  Bydd ef neu hi yn ceisio datrys y mater i chi yn y fan a’r lle.  Os oes gwersi i’w dysgu o roi sylw i’ch pryder, bydd yr aelod staff yn eu dwyn i’n sylw. Os na all yr aelod staff helpu, bydd yn egluro pam a gallwch chi wedyn ofyn am ymchwiliad ffurfiol.

Sut mae mynegi cwyn yn ffurfiol

Gallwch fynegi’ch cwyn mewn unrhyw un o’r ffyrdd isod.

  • Gallwch lenwi’r Ffurflen Gwyno.
  • Gallwch gysylltu â’n pwynt cyswllt canolog i gwynion ar 01766 772530, os hoffech gwyno dros y ffôn.
  • Gallwch anfon e-bost atom i parc@eryri.llyw.cymru
  • Gallwch ysgrifennu llythyr atom a’i anfon i’r cyfeiriad canlynol:
    Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
    Swyddfa’r Parc Cenedlaethol
    Penrhyndeudraeth
    Gwynedd
    LL48 6LF

Ein nod yw bod ffurflenni cwyno ar gael ym mhob un o’n canolfannau gwasanaeth a’n hardaloedd cyhoeddus.

Lawrlwytho Ffurflen Gwyno

Delio â’ch cwyn

  • Byddwn yn cydnabod eich cwyn yn ffurfiol o fewn 5 diwrnod gwaith ac yn rhoi gwybod i chi sut y bwriadwn ymdrin ag ef.
  • Byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym sut yr hoffech i ni gyfathrebu â chi ac yn gweld a oes gennych unrhyw ofynion penodol – er enghraifft, os ydych yn anabl.
  • Byddwn yn delio â’ch cwyn mewn ffordd agored a gonest.
  • Byddwn yn gwneud yn siŵr na fyddwch yn wynebu anfantais wrth ddelio â ni yn y dyfodol am eich bod wedi mynegi pryder neu wneud cwyn.

Os ydych yn cwyno ar ran rhywun arall, bydd angen eu cytundeb nhw arnom i chi weithredu ar eu rhan.

Ymchwilio

Byddwn yn dweud wrthych pwy yr ydym wedi gofyn iddo ymchwilio i’ch cwyn.  Os yw’ch cwyn yn un syml, fel arfer byddwn yn gofyn i’r Pennaeth Gwasanaeth ymchwilio i’r mater a dod yn ôl atoch.  Mewn achosion eraill, gofynnwn i Gyfarwyddwr y Gwasanaeth ymchwilio i’r gŵyn.

Byddwn yn ceisio datrys cwynion mor gyflym â phosibl a byddwn yn disgwyl delio â’r mwyafrif helaeth o fewn 15 diwrnod gwaith.  Bydd y sawl sy’n ymchwilio i’ch cwyn yn ceisio sefydlu’r ffeithiau yn gyntaf.

Mewn rhai achosion, efallai y gofynnwn am gael cwrdd â chi i drafod eich cwyn.

Byddwn yn edrych ar dystiolaeth berthnasol.  Gallai hyn gynnwys ffeiliau, nodiadau o sgyrsiau, llythyron, negeseuon e-bost neu beth bynnag a fydd yn berthnasol i’ch cwyn neilltuol chi.  Os bydd rhaid, byddwn yn siarad â’r staff neu eraill sy’n gysylltiedig â’r mater ac yn edrych ar ein polisïau ac ar unrhyw hawl gyfreithiol a chanllawiau.

Y canlyniad

Os byddwn yn ymchwilio yn ffurfiol i’ch cwyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yr ydym wedi’i ganfod.  Byddwn yn egluro sut a pham y daethom i’n casgliadau.

  • Os canfyddwn mai ni oedd ar fai, byddwn yn dweud wrthych beth a ddigwyddodd a pham.
  • Os canfyddwn fod diffyg yn ein systemau neu’r ffordd yr ydym yn gwneud pethau, byddwn yn dweud wrthych beth yw’r diffyg hwnnw a sut y bwriadwn newid pethau i’w rwystro rhag digwydd eto.
  • Os oeddem ni ar fai, byddwn bob amser yn ymddiheuro.

Yr Ombwdsmon

Os na lwyddwn i ddatrys eich cwyn, gallwch gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.  Mae’r Ombwdsmon yn annibynnol ar bob corff y llywodraeth a gall ymchwilio i’ch cwyn os ydych yn credu eich bod chi’n bersonol, neu’r sawl yr ydych yn cwyno ar ei ran:

  • wedi cael eich trin/ei drin yn annheg neu wedi cael gwasanaeth gwael oherwydd rhyw ddiffyg ar ran y corff a oedd yn ei ddarparu
  • wedi wynebu anfantais yn bersonol oherwydd methiant yn y gwasanaeth neu wedi cael eich trin/ei drin yn annheg.

Mae’r Ombwdsmon yn disgwyl i chi ddwyn eich cwyn i’n sylw ni yn gyntaf a rhoi’r cyfle i ni gywiro pethau.  Gallwch gysylltu â’r Ombwdsmon fel hyn:

Ffôn: 0845 601 0987

Ebost: ask@ombudsman-wales.org.uk

Gwefan: www.ombudsman-wales.org.uk

Ysgrifennu: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed CF35 5LJ

Yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gennych chi

Credwn fod gan bob achwynydd yr hawl i gael ei glywed, i gael ei ddeall ac i gael ei barchu.  Fodd bynnag, rydym yn credu hefyd fod gan ein staff ni yr un hawliau.  Rydym, felly, yn disgwyl i chi fod yn gwrtais a moesgar yn eich ymwneud â ni.  Ni fyddwn yn goddef ymddygiad ymosodol na sarhaus, gofynion afresymol na dyfalbarhad afresymol.