Rheolaeth Tirwedd a Thir

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn cwmpasu ardal o 213,400 hectar, gyda ffin o 362.29 cilomedr ac arfordir sy’n ymestyn am 60km. Mae’n ymgorffori ardaloedd mawr o goedlannau / goetiroedd (rhai collddail a rhai heb fod yn gollddail), a dros 96,000 hectar o rostir.

Mae tirwedd unigryw ac amrywiol Eryri o ansawdd eithriadol ac fel y cyfryw mae’n un o’i asedau gorau ac yn un sydd wedi ffurfio’r prif reswm dros ei ddynodi’n barc cenedlaethol. Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn cael ei adnabod gan gymeriad ac ansawdd y dirwedd, sy’n cael ei werthfawrogi am ei harddwch naturiol, bioamrywiaeth nodedig, adnoddau daearegol amrywiol, treftadaeth ddiwylliannol, cymeriad gwledig a llonyddwch heb ei ddifetha.

Mae’r dirwedd yn y Parc Cenedlaethol wedi’i ffurfio gan filiynau o flynyddoedd o esblygiad naturiol drwy adeiladu mynyddoedd ac effeithiau erydol rhewlifiant, gwynt a glaw. Ond mae gweithgaredd dynol hefyd yn ddylanwad sylweddol gyda dros filoedd o flynyddoedd o arferion rheoli tir sydd wedi arwain at gysylltiadau cymdeithasol- ddiwylliannol agos yn cael eu creu rhwng dyn a’r dirwedd. Mae cymeriad gwledig traddodiadol aneddiadau yn ar wahanol i’r Parc Cenedlaethol ac mae’n ffurfio rhan o’i gymeriad tirwedd hanesyddol. Mae’r dirwedd a’r drefwedd, felly, yn chwarae rhan sylfaenol yn y diwydiant twristiaeth, ac felly yr economi leol.

Asesiad Cymeriad Tirwedd Eryri

Ers yr Adolygiad o Gyflwr y Parc diwethaf fe wnaeth APCE gomisiynu ymgynghorwyr i gynnal asesiad o dirlun Eryri a nodi Ardaloedd Cymeriad cydlynol. Fe wnaeth yr Asesiad o Gymeriad y Dirwedd o ganlyniad i hynny ddefnyddio gwybodaeth LANDMAP11 fel rhan o’i sylfaen tystiolaeth, ynghyd ag ystod eang o wybodaeth arall sy’n disgrifio rhinweddau naturiol, diwylliannol ac esthetig / canfyddiadol y Parc Cenedlaethol.

Yn dilyn asesiad pen desg – a oedd yn cynnwys adolygiad o’r wybodaeth LANDMAP a data gofodol eraill – fe ymgymerwyd ag ymarferiad gwirio maes er mwyn cadarnhau’r terfynau a’r wybodaeth a ddarperir ar gyfer y 25 o Ardaloedd Cymeriad Tirlun (ACT) a adnabuwyd. Mae’r Ardaloedd Cymeriad Tirwedd wedi’u cynllunio i gynrychioli ardaloedd daearyddol ar wahanol o dirwedd y Parc Cenedlaethol sy’n cael eu cydnabod am eu natur unigryw leol ac ymdeimlad o le. Byddant yn ffurfio fframwaith gofodol defnyddiol i ddisgrifio’r tirlun ac i gynorthwyo yn y pen draw wrth wneud penderfyniadau ynghylch sut y dylid ei gynllunio a’i reoli i gynnal neu wella ei nodweddion arbennig.

Mae gosodiad yr Asesiad wedi’i strwythuro gyda phob ACT yn cael eu disgrifio ar wahân, fel a ganlyn:

  • Crynodeb o leoliad a ffiniau yr ACT, gan gynnwys map a lluniau cynrychioliadol;
  • Nodweddion allweddol;
  • Grymoedd dros newid sy’n effeithio ar gymeriad y dirwedd;
  • Strategaeth tirwedd ar gyfer y dyfodol;
  • Canllawiau ar gyfer rheoli newid yn y dirwedd yn y dyfodol.

Mae’r ddogfen Asesu Cymeriad Tirwedd i’w weld yn y ddolen ganlynol, sy’n eich arwain at dudalen Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) APCE. Fe’i rhestrir fel CCA 7.

Canllawiau Cynllunio Atodol

Map o Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Parc Cenedlaethol

Yn y dyfodol fe allai’r fframwaith a ddarperir gan yr Ardaloedd Cymeriad Tirwedd wasanaethu fel sail ar gyfer monitro newid yn y dirwedd yn fwy manwl. Mae gwaith pellach wedi ei fireinio o’r gwaith hwn yn cynnwys yr Asesiad o Sensitifrwydd a Chapasiti y Dirwedd.

 

 

11 MAe LANDMAP yn system gwybodaeth daearyddol ar gyfer Cymru gyfan sydd wedi ei seilio ar adnoddau tirwedd ble mae nodweddion, ansawdd a dylanwadau ar y dirwedd wedi eu recordio a’u dadansoddi mewn i ddata cyson ar gyfer y wlad. Mae’n cynnwys pum elfen sef; Tirwedd Daearyddol, Tirwedd Cynefin, Landscape Habitats, Gweledol a Synhwyrol, Tirwedd Hanesyddol a Thirwedd Diwyllianol.

 

Asesu Morweddau Parc Cenedlaethol Eryri

Ochr yn ochr â datblygiad yr Asesiad o Gymeriad Tirwedd fe wnaeth APCE hefyd gydweithio mewn prosiect ar y cyd gyda Chyngor Sir Ynys Môn a Chyfoeth Naturiol Cymru i gynhyrchu Asesiad o Gymeriad Morluniau. Mae Asesiad Cymeriad Morluniau yn ddatblygiad o’r broses sefydledig o asesu cymeriad tirwedd. Mae’n rhannu’r ardal astudiaeth i mewn i Ardaloedd Cymeriad Morlun (ACM); ardaloedd daearyddol ar wahanol gydag ymdeimlad unigryw o le, sy’n cynnwys cyfuniadau o wahanol Fathau o Gymeriad Morlun (MCM), sy’n diffinio mathau o amgylchedd drwy gyfrwng cymeriad unffurf neu bennaf yn hytrach na chwmpas daearyddol.

Mae’r Asesiad o Gymeriad Morlun wedi’i strwythuro dipyn yn wahanol i’r Asesiad Cymeriad Tirwedd. Mae proffiliau yn cael eu darparu ar gyfer pob un o’r Asesiadau Cymeriad Morlun (sy’n cael eu henwi yn ôl eu lleoliad daearyddol) yn disgrifio’r hyn a ganlyn:

  • Lleoliad a chyd-destun;
  • Disgrifiad cryno;
  • Y Mathau o Gymeriad Morlun cyfansoddol;
  • Nodweddion allweddol;
  • Buddion a gwasanaethau diwylliannol;
  • Dylanwadau a safleoedd naturiol; dylanwadau a safleoedd diwylliannol;
  • Rhinweddau canfyddiadol;
  • Grymoedd dros newid a;
  • Sensitifrwydd cynhenid.

Mae’r ddogfen Asesiad o Gymeriad Morluniau i’w weld yn y ddolen ganlynol, sy’n eich arwain at dudalen Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) APCE. Fe’i rhestrir fel CCA 7.

 

Canllawiau Cynllunio Atodol

Sensitifrwydd y Dirwedd ac Asesu Capasiti

Comisiynwyd yr astudiaeth hon gan Gyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Y bwriad oedd darparu sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio, llywio datblygiad Canllawiau Cynllunio Atodol, gan helpu i warchod tirweddau sensitif a nodedig rhag datblygiad amhriodol ac annog agwedd gadarnhaol at ddatblygiad yn y lleoliad cywir ac ar raddfa briodol. Rhoddodd yr astudiaeth ystyriaeth benodol i’r pum math o ddatblygiad a ganlyn yn ogystal â chyfeirio’n fyr â datblygiadau ynni dŵr.

  • Ynni Gwynt (canolbwyntio ar ddatblygiadau ar raddfa lai)
  • Ynni Solar PV ar Raddfa Maes (heb ei ystyried yn APCE)
  • Llinell Uwchben 400 kV (Isadeiledd Trawsyrru Trydan) (heb ei hystyried yn APCE)
  • Mastiau Symudol (Isadeiledd Telathrebu)
  • Meysydd Carafanau Sefydlog/Chalet ac Estyniadau (Twristiaeth)

Mae derbynioldeb datblygiad ar raddfa fawr yn y dirwedd wledig yn bwnc emosiynol ac yn un lle mae angen cyfaddawd yn aml. Er y cydnabyddir yn gyffredinol y dylid gwarchod y tirweddau mwyaf gwerthfawr, mae rhai ardaloedd lle gellir cynnwys datblygiad, er mewn modd rheoledig i leihau effeithiau andwyol. Nod yr astudiaeth hon oedd deall ble a sut orau i gynnwys y gwahanol fathau o ddatblygiadau a nodir yn y briff.

Mae’n bwysig nodi mai astudiaeth strategol yw hon ac nad yw’n rhagnodol ar lefel safle unigol. Nid yw’n disodli’r angen am asesiad o geisiadau cynllunio unigol nac am asesiad penodol o’r effaith weledol a’r dirwedd leol fel rhan o Asesiad ffurfiol o’r Effaith Amgylcheddol (AEA). Nid yw’r asesiad yn cymryd i ystyriaeth ystyriaethau treftadaeth naturiol a diwylliannol eraill (ac eithrio lle maent yn ymwneud â chymeriad y dirwedd ac ystyriaethau gweledol), ffactorau technegol neu’r angen canfyddedig am y datblygiad.

Mae’r Asesiad o Sensitifrwydd a Chapasiti Tirwedd i’w weld yn y ddolen ganlynol, sy’n mynd â chi i dudalen nodiadau Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) APCE. Fe’i rhestrir fel CCA 13:

Canllawiau Cynllunio Atodol

Ardaloedd Tawel ac Awyr Dywyll

O fewn y Parc Cenedlaethol mae’r ardaloedd tawel yn cael eu pennu trwy ddefnyddio dull gweithredu sy’n cynnwys meini prawf lluosog, ac maent yn gorfod gorwedd o leiaf:

  • 4km oddi wrth y gorsafoedd pŵer mwyaf
  • 2km oddi wrth brif gefn ffyrdd ac ymylon trefi
  • 1km oddi wrth ffyrdd sy’n ganolig o ran aflonyddwch a rhai rheilffyrdd prif linell, ardaloedd lle mae chwareli yn weithredol, meysydd milwrol a meysydd awyr sifil, ffyrdd aflonyddol isel, llinellau pŵer 400kv a 275kv

Mae’r Map o Ardaloedd Tawel a Llonydd (gweler Ffigwr 7) wedi cael ei gynhyrchu gan gymryd i ystyriaeth effaith gyffredinol sŵn ar yr amgylchedd ac effaith sŵn a llygredd golau o ardaloedd adeiledig.

Maint yr ardaloedd tawel a llonydd yn y Parc cenedlaethol 143,692ha

Canran o’r Parc cenedlaethol sy’n cael ei gategoreiddio fel tawel a llonydd 67%

Gwarchodfa Awyr Dywyll Eryri

Mae dynodiad Gwarchodfa Awyr Dywyll yn wobr fawreddog a roddir gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (IDA) i ddewis cyrchfannau sydd wedi profi bod ansawdd yr awyr yn y nos yn rhagorol a bod ymdrechion go iawn wedi cael eu gwneud i leihau llygredd golau. Fe wnaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gais i’r Gymdeithas Awyr Dywyll am statws Gwarchodfa Awyr Dywyll yn ystod yr haf 2015. Roedd hyn yn dilyn misoedd o waith arolwg a wnaed gan wirfoddolwyr a aeth allan i fesur ansawdd yr awyr yn y nos yn Eryri.

Drwy ennill statws Gwarchodfa ym mis Hydref 2015 bydd Eryri yn gallu manteisio ar fuddion eraill sy’n deillio o’r dynodiad. Mewn ardaloedd eraill sydd wedi cael eu dynodi, megis Bannau Brycheiniog a Galloway yn Yr Alban, mae’r amgylchedd, yr economi, lles, twristiaeth a bywyd gwyllt wedi elwa, sydd yn ei dro, wedi cyfrannu at leihau ôl troed carbon am fod llai o drydan a thanwydd ffosil yn cael eu defnyddio.

O ganlyniad i ddynodiad Gwarchodfa Awyr Dywyll, rhagwelir y :

  • Bydd bywyd gwyllt yr ardal yn elwa;
  • Y bydd ansawdd amgylchedd yr ardal yn cael ei wella;
  • Y bydd gan Eryri nodwedd naturiol ychwanegol i ddenu ymwelwyr newydd i’r ardal yn ystod cyfnodau tawelach o’r flwyddyn;
  • Y bydd yn rhoi hwb i’r economi leol ac
  • Y bydd awyr dywyll Eryri yn cael ei diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.