Eleni, bydd y gwaith o adolygu Cynllun Eryri, Cynllun Rheolaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yn cychwyn. Mae Cynllun Eryri yn Gynllun Partneriaeth, wedi’i gyd-gynhyrchu gyda’r bobl a’r sefydliadau sy’n helpu i ofalu am Eryri.
Pam fod angen Cynllun?
Mae’r Parc Cenedlaethol yn le arbennig iawn, ac mae’n rhaid bod yn hynod o bwyllog a gofalus wrth reoli’r ardal ddaearyddol eang yma sydd â chymaint o ofynion sy’n gwrthdaro. Dyna pam rydym angen y Cynllun hwn. Mae’n amlinellu sut y byddwn ni a’n partneriaid yn cydweithio er mwyn cydbwyso’r ystyriaethau pwysig hyn a gwarchod yr ardal a’i Rinweddau Arbennig. Mae’n nodi sut y byddwn ni gyd yn cydweithio i gyflawni Pwrpasau’r Parc Cenedlaethol.
Gallwch ddarllen am Rinweddau Arbennig y Parc Cenedlaethol ar ein gwefan.
Gallwch hefyd ddarllen pwrpasau’r Parc Cenedlaethol ar ein gwefan.
Cychwyn arni gyda darlun cyflawn
Llynedd, fe ddatblygom blatfform ar-lein ar gyfer Adroddiad Cyflwr y Parc, sef catalog o’r da sydd ar gael er mwyn dadansoddi a mesur y sefyllfa gyfredol yn Eryri. Mae hefyd yn cyflwyno cyfleoedd a heriau posib sy’n wynebu’r Parc Cenedlaethol yn y dyfodol, boed hynny yn ymwneud â’r amgylchedd, cynhyrchu ynni, poblogaeth neu reolaeth ymwelwyr. Bydd data Cyflwr y Parc yn ffurfio’r sail ar gyfer trafodaethau wrth adolygu Cynllun Eryri.
Gallwch ddarllen adroddiad Cyflwr y Parc ar ein gwefan.
Fodd bynnag, mae’n amlwg bod yr isod yn brif flaenoriaethau er mwyn sicrhau dyfodol iach i’r Parc Cenedlaethol yn cynnwys:
- Gweithio mewn Partneriaeth er mwyn cynyddu amrywiaeth a sicrhau digonedd natur a gwella gwydnwch ecolegol yn Eryri .
- Cydweithio ar draws y Parc Cenedlaethol er mwyn cefnogi cymunedau gwydn sy’n ffynnu.
- Ymateb i’r argyfwng hinsawdd gyda dyfeisgarwch ac uchelgais.
- Annog mynediad diogel a chyfrifol at natur a llesiant ar gyfer trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.
- Sicrhau parhad bywiogrwydd yr iaith Gymraeg, diwylliant a threftadaeth yr ardal.
Y Cynllun ar waith…
Mae’r Cynllun yn amlinellu gweledigaeth hirdymor ar gyfer yr ardal. Mae hefyd yn amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Bydd yn cael ei ddefnyddio yn y ffyrdd canlynol:
- I ddod â phartneriaid ynghyd er mwyn cyflawni’r Cynllun
- Fel sail ar gyfer gosod Cynllun Corfforaethol Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Rhaglen Waith Corfforaethol a thrwy’r rhain, Rheolaeth Perfformiad
- I ddatblygu polisïau’r Parc Cenedlaethol ar bynciau penodol
- I gynorthwyo i wneud penderfyniadau
- Er mwyn sicrhau nawdd i gyflawni’r deilliannau a’r gweithrediadau a adnabuwyd
- I fonitro cynnydd yn erbyn y dangosyddion a osodwyd
Gweithio mewn partneriaeth
Gan gydnabod y realiti gwleidyddol rydym yn byw ynddo a’r dyfodol ansicr sydd o’n blaenau, mae partneriaeth gref wedi’i ffurfio drwy Fforwm Eryri i gyd-greu Cynllun Partneriaeth ar gyfer y dyfodol.
Gallwch ddarllen mwy am Fforwm Eryri ar ein gwefan
Edrych yn ôl: Cynllun Eryri 2020–2025
I weld y Cynllun o 2020-25, edrychwch ar y rhestr o ddogfennau isod.
I weld yr hyn a gyflawnwyd gennym yn y fersiwn gyntaf o Gynllun Eryri (2020–2025), gweler yr ‘Adroddiad Terfynol’ yn y rhestr o ddogfennau isod.
Cymryd rhan
Rydym am roi’r cyfle i bawb sydd â diddordeb mewn gofalu am Eryri i fod yn rhan o greu’r strategaeth gorau posibl ar gyfer yr hyn yr ydym am ei gyflawni. Os hoffech fod yn rhan o hynny, gallwch lenwi’r holiadur byr yma
Llenwch yr holiadur i roi eich barn
neu cysylltwch â ni dros e-bost: cynllun@eryri.llyw.cymru.