Ansawdd Aer

Oherwydd ei leoliad daearyddol ar gyrion gogledd-orllewin Ewrop a’r prifwyntoedd de- orllewinol a geir am y rhan fwyaf o’r flwyddyn, mae ansawdd yr aer yn Eryri yn gyffredinol yn dda iawn. O bryd i’w gilydd, fodd bynnag, mewn amodau tywydd sefydlog gyda gwasgedd uchel dros y DU, gall gwyntoedd dwyreiniol ddod â llygryddion o ardaloedd mwy diwydiannol ac o ganlyniad gall lefelau rhai llygryddion godi.

Gellir dangos ansawdd aer yng Nghymru drwy ddefnyddio mapiau wedi’u modelu o grynoadau cefndirol o gyfres o lygryddion yn yr awyr. Gan ddefnyddio modelu gwasgariad, cyfrifir crynodiadau o ddata’r Rhestr Allyriadau Atmosfferig Cenedlaethol (NAEI). Caiff allbwn model ei galibro trwy ddefnyddio canlyniadau a gafwyd o’r rhwydweithiau monitro ar draws Cymru gyda’r mapiau yn cael eu dilysu yn erbyn data monitro awdurdodau lleol.

Mae Strategaeth Ansawdd Aer y DU yn nodi Amcanion Safon Ansawdd Aer ar lefel risg isafswm neu sero. Maent yn cael eu gosod mewn perthynas â thystiolaeth wyddonol a meddygol ar effeithiau llygrydd penodol ar iechyd, neu, yn y cyd-destun priodol, ar yr amgylchedd ehangach.

Ers 1990 bu gostyngiad mewn allyriadau o’r saith llygrydd ansawdd aer â blaenoriaeth. Mae cyfradd y dirywiad gronynnau (Pm2.5, Pm10) ocsidiau nitrogen (NOx), cyfansoddion organig anweddol di-fethan (VOCs), sylffwr deuocsid (SO2) a charbon monocsid (CO) yn debyg. Bu gostyngiad llawer mwy sylweddol mewn allyriadau plwm (Pb) rhwng 1990 a 2000 o ganlyniad i ddiddymu’r gwerthiant o betrol plwm. Nid yw allyriadau amonia (NH3), yn bennaf o ffynonellau amaethyddol, wedi gostwng mor gyflym â llygryddion eraill.

The background concentratons of Nitrogen Dioxide, Ozone, PM10 and PM2.5 illustrated maps of Wales.

Ffynhonnell: www.welshairquality.co.uk

Ansawdd aer yw’r prif achos o faich amgylcheddol o afiechyd yn Ewrop. Ym mis Chwefror 2016 adroddwyd bod 40,000 o farwolaethau ychwanegol y flwyddyn yn gallu cael eu cysylltu i ansawdd aer gwael (Coleg Brenhinol Ffisigwyr), gyda cost iechyd o £20 biliwn y flwyddyn.

O’r diagram uchod, mae’n amlwg bod ansawdd aer ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn dda iawn o’i gymharu ag ardaloedd megis gogledd neu ddwyrain Cymru.

Mae NRW yn rheoleiddio allyriadau i aer o weithrediadau diwydiannol mawr (Rhan A1 o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol), megis gorsafoedd pŵer, purfeydd a llosgyddion er mwyn bodloni gofynion Cyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol 2010. Yn gynhenid yn hyn, mae’r angen i atal neu leihau’r allyriadau o’r safleoedd mae CNC yn eu rheoleiddio drwy gymhwyso’r safonau cenedlaethol ac Ewropeaidd a osodir i amddiffyn iechyd a’r amgylchedd. Mae hefyd yn ofynnol i CNC gynhyrchu Rhestr Llygredd blynyddol ar gyfer allyriadau. O dan Ddeddf Yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae gan CNC hefyd ddyletswydd i adrodd ar gyflwr ansawdd aer yng Nghymru fel rhan o Adroddiad Cyflwr Adnodd Naturiol (SoNaRR) ac i ystyried blaenoriaethau amgylcheddol lleol yn y Datganiadau Ardal.

Mae ansawdd aer yng Nghymru wedi gwella, gyda rheolaethau allyriadau statudol a gostyngiad sylfaen ddiwydiannol yn arwain at ostyngiad mewn allyriadau diwydiannol. Fodd bynnag, mae targedau ansawdd aer amgylchynol ar gyfer nitrogen deuocsid, deunydd gronynnol, nicel a hydrocarbonau aromatig polycyclic yn dal i gael eu torri yng Nghymru.