Poblogaeth

Mae data o’r Cyfrifiad 2011 yn dangos, yn y 10 mlynedd diwethaf, bod poblogaeth Cymru wedi cynyddu 5.5%. Yn yr un cyfnod mae poblogaeth Parc Cenedlaethol Eryri wedi cynyddu 0.86%.

Mae gan Eryri boblogaeth fechan o’i gymharu â’i ardal, gan adlewyrchu ei nodweddion gwledig. Mae gan y boblogaeth lefelau is o bobl ifanc a chyfrannau uwch o drigolion hŷn a thrigolion di-Gymraeg nac ar gyfer Cymru yn ei chyfanrwydd. Mae rhai dangosyddion allweddol ar gyfer poblogaeth y Parc Cenedlaethol yn dod o amcangyfrifon canol blwyddyn Gyfrifiad Cenedlaethol 2011 a 2013.

Cyfrifiad 2011- Ystadegau Poblogaeth

Poblogaeth Parc Cenedlaethol Eryri: 25,702
Poblogaeth Cymru: 3,063,456

Canran Gwrywod Parc Cenedlaethol Eryri: 49.8%
Canran Gwrywod Cymru: 49.1%

Canran Menywod Parc Cenedlaethol Eryri: 50.2%
Canran Menywod Cymru: 50.9%

Cyfrifiad 2001- Ystadegau Poblogaeth

Poblogaeth Parc Cenedlaethol Eryri: 25,482
Poblogaeth Cymru: 2,903,085

Canran Gwrywod Parc Cenedlaethol Eryri: 49.0%
Canran Gwrywod Cymru: 48.4%

Canran Menywod Parc Cenedlaethol Eryri: 51%
Canran Menywod Cymru: 51.6%

Amcangyfrifon Canol Blwyddyn

Gydag amcangyfrifon canol blwyddyn 2013 gwelwyd ffigurau arbrofol yn cael eu llunio ar gyfer ardal y Parc Cenedlaethol. Mae’r tabl isod yn dangos y canlyniadau ar gyfer y Parc Cenedlaethol yn ogystal ag ar lefel y DU, Cymru, Gwynedd a Chonwy.

Pob oedran
Prydain: 64,105,700
Cymru: 3,082,400
Gwynedd: 121,900
Conwy: 115,800
Eryri: 25,502

Plant 0−15 mlwydd oed
Prydain: 12,058,700
Cymru: 555,200
Gwynedd: 20,900
Conwy: 19,000
Eryri: 3,733

Oed Gweithio 16−64
Prydain: 40,915,200
Cymru: 1,926,600
Gwynedd: 74,300
Conwy: 67,100
Eryri: 14,804

Dros 65
Prydain: 11,131,800
Cymru: 600,600
Gwynedd: 26,700
Conwy: 29,800
Eryri: 6,965

Mudo
Mewnfudo ac Allfudo yng Ngwynedd and Chonwy (2015/2016)

0–29 mlwydd oed
Symud i’r ardal: 5,550
Symud allan o’r ardal: 5,810

30–34 mlwydd oed
Symud i’r ardal: 1,590
Symud allan o’r ardal: 1,490

45–64 mlwydd oed
Symud i’r ardal: 2,100
Symud allan o’r ardal: 1,340

Strwythur Oedran

Eryri
0–18 mlwydd oed: 17.2%
18–24 mlwydd oed: 6.4%
25–29 mlwydd oed: 4.4%
30–44 mlwydd oed: 15.4%
45–59 mlwydd oed: 22.2%
60–64 mlwydd oed: 9.1%
65+ mlwydd oed: 25.2%

Cymru
0–18 mlwydd oed: 20.6%
18–24 mlwydd oed: 9.7%
25–29 mlwydd oed: 6.1%
30–44 mlwydd oed: 18.6%
45–59 mlwydd oed: 19.9%
60–64 mlwydd oed: 6.7%
65+ mlwydd oed: 12.3%

Cyfartaledd Oed
Eryri: 44 mlwydd oed
Cymru: 38.6 mlwydd oed

Mae gan Gymru boblogaeth sy’n heneiddio gyda disgwyliad i’r sawl dros 65 gynyddu i 26% erbyn 2033. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer Eryri.

Mae’r diagram isod yn dangos strwythur oedran poblogaeth y Parc Cenedlaethol yn ôl cyfrifiad 2001 a 2011. Mae yna nifer o newidiadau sydd i’w gweld rhwng strwythur oedran cyfrifiad 2001 a chanlyniadau o arolwg 2011.

Strwythur Oedran

Erbyn 2011, roedd cynnydd yn nifer y bobl hŷn sy’n byw yn y Parc Cenedlaethol.

Roedd canran y plant rhwng 0-4 oed (4.6%) yn llai nag yn 2001, a hefyd yn llai na chanran Cymru o 5.8%. Roedd yna hefyd ostyngiad yng nghanran y bobl 30-44 oed erbyn y cyfrifiad yn 2011.

Ar y cyfan roedd canran y bobl dros 60 oed, yn uwch yng nghyfrifiad 2011 nag yn 2001.

Gweithgaredd Economaidd

Mae’r inffograffeg isod yn cynnig crynodeb o rai o wybodaeth economaidd allweddol at gyfer ardal y Parc Cenedlaethol.

Mae canran y bobl sy’n economaidd weithgar yn y Parc Cenedlaethol sy’n hunangyflogedig yn 10.2% yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae’r duedd hon hefyd yn wir ar gyfer y ganran o bobl sydd wedi ymddeol o fewn y Parc. Mae hyn yn 4.4% yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol ac mae hefyd yn 2.3% yn uwch na’r cyfrifiad 2001. Mae gan y Parc Cenedlaethol ganran is o bobl sydd â swyddi llawn amser o gymharu â’r ganran genedlaethol hefyd. Mae’r tabl sydd isod yn arddangos canlyniadau cyfrifiad 2011 yn nhermau gweithgaredd economaidd a hefyd yn arddangos cymhariaeth rhwng ffigyrau 2001 a hefyd canrannau cenedlaethol.

Gweithgaredd Economaidd o fewn y Parc Cenedlaethol

Yn economaidd weithredol: Gweithiwr: Rhan-amser
Gwir nifer: 2,547
APCE – Cyfrifiad 2001: 13.5%
APCE – Cyfrifiad 2011: 11.6%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 11.3%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 13.9%

Yn economaidd weithredol: Gweithiwr : Llawn-amser
Gwir nifer: 5,660
APCE – Cyfrifiad 2001: 30%
APCE – Cyfrifiad 2011: 29%
Cymru – Cyfrifiad 2001: 36.2%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 35.6%

Yn economaidd weithredol: Hunan-gyflogedig
Gwir nifer: 3,557
APCE – Cyfrifiad 2001: 18.8%
APCE – Cyfrifiad 2011: 17.7%
Cymru – Cyfrifiad 2001: 7.7%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 8.6%

Yn economaidd weithredol: Di-waith
Gwir nifer: 583
APCE – Cyfrifiad 2001: 3.1%
APCE – Cyfrifiad 2011: 3.5%
Cymru – Cyfrifiad 2001: 3.5%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 4.3%

Yn economaidd weithredol: Myfyrwyr llawn-amser
Gwir nifer: 356
APCE – Cyfrifiad 2001: 1.9%
APCE – Cyfrifiad 2011: 1.4%
Cymru – Cyfrifiad 2001: 2.3%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 3.3%

Yn economaidd anweithredol: Wedi ymddeol
Gwir nifer: 3,881
APCE – Cyfrifiad 2001: 20.5%
APCE – Cyfrifiad 2011: 18.2%
Cymru – Cyfrifiad 2001: 14.8%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 16.1%

Yn economaidd anweithredol: Myfyrwyr (gan gynnwys myfyrwyr llawn-amser)
Gwir nifer: 674
APCE – Cyfrifiad 2001: 3.6%
APCE – Cyfrifiad 2011: 3.8%
Cymru – Cyfrifiad 2001: 6.4%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 6%

Yn economaidd anweithredol: Yn gofalu am y cartref neu deulu
Gwir nifer: 573
APCE – Cyfrifiad 2001: 3%
APCE – Cyfrifiad 2011: 5.8%
Cymru – Cyfrifiad 2001: 9.2%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 3.8%

Yn economaidd anweithredol: Arall
Gwir nifer: 369
APCE – Cyfrifiad 2001: 2%
APCE – Cyfrifiad 2011: 3.1%
Cymru – Cyfrifiad 2001: 3.5%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 2%

Di-waith: Oed 16 hyd 24
Gwir nifer: 166
APCE – Cyfrifiad 2001: 0.9%
APCE – Cyfrifiad 2011: 0.7%
Cymru – Cyfrifiad 2001: 1%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 1.4%

Di-waith: Oed 50 hyd 74
Gwir nifer: 146
APCE – Cyfrifiad 2001: 0.8%
APCE – Cyfrifiad 2011: 1%
Cymru – Cyfrifiad 2001: 0.6%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 0.7%

Di-waith: Erioed wedi gweithio
Gwir nifer: 59
APCE – Cyfrifiad 2001: 0.3%
APCE – Cyfrifiad 2011: 0.2%
Cymru – Cyfrifiad 2001: 0.3%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 0.7%

Di-waith hirdymor
Gwir nifer: 220
APCE – Cyfrifiad 2001: 1.2%
APCE – Cyfrifiad 2011: 1.3%
Cymru – Cyfrifiad 2001: 1.1%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 1.7%

Diwydiant

Mae’r inffograffeg isod yn cymharu’r 6 diwydiant cyflogaeth mwyaf yn Eryri, gyda rhai Cymru

Oherwydd newidiadau categori yn y diwydiant cwestiwn a ofynnwyd yn y cyfrifiad yn 2011 oedd (o’i gymharu â’r yng nghyfrifiad 2001) felly dim ond ffigurau 2011 a ddangosir yma.

Diwydiant Cyflogaeth

Pob categori: 12,074

A – Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
Gwir Nifer: 870
APCE – Cyfrifiad 2011: 7.2%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 1.7%

B – Mwyngloddio / chwarelydda a chloddio
Gwir Nifer: 36
APCE – Cyfrifiad 2011: 0.3%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 0.2%

C – Gweithgynhyrchu
Gwir Nifer: 689
APCE – Cyfrifiad 2011: 5.7%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 10.5%

D – Cyflenwi trydan, nwy, stem ac aerdymheru
Gwir Nifer: 111
APCE – Cyfrifiad 2011: 0.9%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 0.8%

E – Cyflenwi dŵr; carthffosiaeth, rheoli gwastraff a gweithgareddau adfer
Gwir Nifer: 146
APCE – Cyfrifiad 2011: 1.2%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 0.9%

F –Adeiladu
Gwir Nifer: 1,199
APCE – Cyfrifiad 2011: 9.9%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 8.2%

G – Masnach cyfanwerthu a manwerthu; atgyweirio cerbydau modur a beiciau modur
Gwir Nifer: 1,532
APCE – Cyfrifiad 2011: 12.7%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 15.6%

H – Cludiant a storio
Gwir Nifer: 352
APCE – Cyfrifiad 2011: 2.9%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 3.9%

I – Gweithgareddau lletai a gwasanaethau bwyd
Gwir Nifer: 1,399
APCE – Cyfrifiad 2011: 11.6%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 6.2%

J – Gwybodaeth a chyfathrebu
Gwir Nifer: 176
APCE – Cyfrifiad 2011: 1.5%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 2.3%

K – Gweithgareddau ariannol ac yswiriant
Gwir Nifer: 146
APCE – Cyfrifiad 2011: 1.2%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 3.1%

L – Gweithgareddau eiddo tiriog
Gwir Nifer: 154
APCE – Cyfrifiad 2011: 1.3%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 1.2%

M – Gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol
Gwir Nifer: 473
APCE – Cyfrifiad 2011: 3.9%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 4.3%

N – Gweithgareddau gwasanaethau gweinyddol a chefnogaeth
Gwir Nifer: 447
APCE – Cyfrifiad 2011: 3.7%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 4.0%

O – Gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn; nawdd cymdeithasol gorfodol
Gwir Nifer: 624
APCE – Cyfrifiad 2011: 5.2%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 7.9%

P – Addysg
Gwir Nifer: 1,448
APCE – Cyfrifiad 2011: 12%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 10.1%

Q – Gweithgareddau gwaith cymdeithasol ac iechyd pobl
Gwir Nifer: 1,546
APCE – Cyfrifiad 2011: 12.8%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 14.5%

R, S, T, U – Arall
Gwir Nifer: 726
APCE – Cyfrifiad 2011: 6%
Cymru – Cyfrifiad 2011: 4.5%

Mae rhai o’r canrannau a welir o fewn Parc Cenedlaethol Eryri yn cyfateb i’r canrannau cenedlaethol, er bod llawer llai o bobl a gyflogir o fewn meysydd ‘gweithgynhyrchu’ yn y Parc na’r cyfartaledd cenedlaethol.

Mae rhai diwydiannau yn fwy pwysig i Barc Cenedlaethol Eryri, o’u cymharu â chyfartaleddau cenedlaethol, fel ‘Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota’ a ‘Gweithgareddau Llety a gwasanaethau bwyd’. Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd y diwydiannau amaethyddol a’r rhai sy’n gysylltiedig â thwristiaeth i’r ardal a’i rôl wrth gefnogi cyflogaeth leol.

Iechyd

Mae’r inffograffeg uchod yn dangos y gwahaniaeth rhwng y rhai a adroddodd iechyd da/da iawn yng Nghymru a’r rhai a wnaeth hynny o fewn y Parc Cenedlaethol. Gellir gweld bod canran fwy o bobl yn Eryri yn ystyried fod ganddynt iechyd da/da iawn o’u cymharu a Chymru gyfan. Yn ogystal mae yna ganran llai o bobl wedi’u dosbarthu fel rhai sy’n rhy drwm neu’n ordew yng Ngwynedd a Chonwy o’i gymharu a Chymru gyfan.

Mae’r tabl isod yn dangos yr holl ganlyniadau yn ymwneud a iechyd a gasglwyd yng Nghyfrifiad 2011. Roedd gan Barc Cenedlaethol Eryri ganran ychydig yn uwch o drigolion gydag iechyd da iawn o’i gymharu â Chymru (+ 1.1%), ac yn y Parc roedd yna lai o drigolion gydag iechyd ‘gwael’ neu ‘wael iawn’ (-2.0% a -0.7% yn y drefn honno).

Iechyd a Darparu Gofal Heb Dalu Amdano

Pob categori: Problem iechyd tymor hir neu anabledd
Gwir nifer: 25,702

Gweithgareddau dydd i ddydd yn cael eu cyfyngu lawer
Gwir nifer: 2,410
APCE:  9.4%
Cymru: 11.9%

Gweithgareddau dydd i ddydd yn cael eu cyfyngu ychydig
Gwir nifer: 3,086
APCE: 12%
Cymru: 10.8%

Gweithgareddau dydd i ddydd ddim yn cael eu cyfyngu
Gwir nifer: 20,206
APCE: 78.6%
Cymru: 77.3%

Gweithgareddau dydd i ddydd yn cael eu cyfyngu lawer: Oedran 16 to 64
Gwir nifer: 913
APCE: 3.6%
Cymru: 5.3%

Gweithgareddau dydd i ddydd yn cael eu cyfyngu ychydig: Oedran 16 to 64
Gwir nifer: 1,257
APCE: 4.9%
Cymru: 5.5%

Gweithgareddau dydd i ddydd ddim yn cael eu cyfyngu : Oedran 16 to 64
Gwir nifer: 13,192
APCE: 51.3%
Cymru: 52.7%

Iechyd da iawn
Gwir nifer: 12,255
APCE: 47.7%
Cymru: 46.7%

Iechyd da
Gwir nifer: 8,419
APCE: 32.8%
Cymru: 31.1%

Iechyd gweddol
Gwir nifer: 3,752
APCE: 14.6%
Cymru: 14.6%

Iechyd gwael
Gwir nifer: 983
APCE: 3.8%
Cymru: 5.8%

Iechyd gwael iawn
Gwir nifer: 293
APCE: 1.1%
Cymru: 1.8%

Fodd bynnag, roedd gan y Parc ganran ychydig yn uwch o drigolion lle’r oedd eu gweithgareddau beunyddiol (dydd i ddydd) yn cael eu cyfyngu ychydig, o’i gymharu â chanrannau cenedlaethol (+ 1.2%) Oherwydd categoreiddio newidiadau rhwng cyfrifiadau 2001 a 2011, ni all cymhariaeth ddibynadwy gael ei gwneud.

Disgwyliad Oes

Mae’r tabl isod yn dangos beth yw’r disgwyliad oes (hynny ydi pa mor hir y disgwylir i bobl fyw) ar gyfer gwrywod a menywod newydd-anedig yng Ngwynedd a Chonwy. Cynhaliwyd yr arolwg rhwng 2011 a 2013.

Gwynedd
Gwrywod: 79.6 years
Menywod: 83.7 years

Conwy
Gwrywod: 79.1 years
Menywod: 82.9 years

Yn anffodus, dim ond hyd at lefel y Cyngor Sir yn unig y mae’r data hwn ar gael, ond mae’n rhoi rhyw syniad o beth fyddai disgwyliad oes trigolion y Parc Cenedlaethol. O ran disgwyliad oes dynion mae Gwynedd yn y 5ed uchaf yng Nghymru gyda Chonwy y 7fed uchaf. Mae disgwyliad oes menywod Gwynedd yn 4ydd yng Nghymru gyda Chonwy y 7fed uchaf.

Iechyd Meddwl

 

Tai

Ail Dai a Prisiau Tai a Werthwyd

Yn ôl data a dderbyniwyd o Gronfa Ddata Prisiau a Dalwyd y Gorfrestrfa Tir, gwerthwyd 413 o dai ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn 2016.

Categoriau Tai a Werthwyd 2016
Nifer a werthwyd: 413
Nifer o dai ‘sengl’ a werthwyd: 162
Nifer o dai ‘pâr’ a werthwyd: 78
Nifer o ‘fflatiau’ a werthwyd: 13
Nifer o dai ‘teras’ a werthwyd: 138
Arall: 22

Roedd hyn ychydig yn uwch na’r ffigwr a welwyd yn 2015 sef 406. Pris tŷ ar gyfartaledd yn 2016 oedd £178,331, tra’r cyfartaledd ar gyfer 2015 oedd £174,931

Categoriau Tai a Werthwyd 2015
Nifer a werthwyd: 406
Nifer o dai ‘sengl’ a werthwyd: 182
Nifer o dai ‘pâr’ a werthwyd: 78
Nifer o ‘fflatiau’ a werthwyd: 13
Nifer o dai ‘teras’ a werthwyd: 120
Arall: 3

Roedd ardal deheuol y Parc (ardal sydd yn cynnwys Llangelynin, Bryn-crug / Llanfihangel, Corris/Mawddwy, Tywyn, Aberdyfi) â’r cyfartaledd pris tai a werthwyd uchaf o fewn y Parc yn 2016 a hynny’n £217,177. Mae hyn yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd ar gyfer yr ru’n un ardal yn 2015, sef £184,554.

Fforddiadwyedd

Asesiad Lles PSB Gwynedd a Môn 2017

Mae canolrif pris eiddo Gwynedd o £144,000 ychydig yn uwch na chanolrif Cymru, sydd yn £141,000. Mae incwm cyfartalog aelwydydd yng Ngwynedd yn £22,240, ond mae angen £27,714 er mwyn fforddio eiddo ar bris lefel mynediad y farchnad. Mae hyn yn golygu fod 60% o aelwydydd wedi eu prisio allan o’r farchnad. Mae’r canran yn amrywio o le i le, o’r canran uchaf ym Mhen Llyn, ble mae 73% wedi eu prisio allan o’r farchnad, i’r isaf yn Ffestiniog sydd yn 42%.

Asesiad Llesiant Lleol 2017 – PSB Conwy a Sir Ddinbych

Ym mis Ebrill 2016, y pris cyfartalog ar gyfer ty yng Nghonwy oedd £145,450. Mae hyn yn 6.1 gwaith yr incwm cartref cyfartalog o £23,750. Mae hyn yn awgrymu bod cael mynediad i’r farchnad dai fel perchennog cartref allan o gyrraedd yr aelwyd cyffredin.

Cyd Astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai Parc Cenedlaethol Eryri

2012/13
Nifer a gwblhawyd: 57
Unedau fforddiadwy *: 37

2013/14
Nifer a gwblhawyd: 28
Unedau fforddiadwy *: 10

2014/15
Nifer a gwblhawyd: 58
Unedau fforddiadwy *: 27

2015/16
Nifer a gwblhawyd: 18
Unedau fforddiadwy *: 3

2016/17
Nifer a gwblhawyd: 20
Unedau fforddiadwy *: 9

*Rhan o’r cyfanswm

Fel y gwelir o’r tabl uchod mae nifer y tai a gwblhawyd yn y Parc Cenedlaethol yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn felly mae’n anodd penderfynu ar un duedd penodol. Mae’r nifer isel o unedau fforddiadwy a gwblhawyd rhwng 2015 a 2017 yn adlewyrchu’r nifer isel o dai a gwblhawyd o fewn yr ru’n cyfnod. Rhesymau posib am y nifer isel o dai a gwblhawyd yw yr amgylchedd fenthyca anodd a’r gostyngiad graddol parhaol yn y grant tai cymdeithasol. Mae’r Awdurdod yn monitro Cynllun Datblygu Lleol Eryri yn flynyddol ac yn y broses o adolygu’r polisïau tai i sicrhau bod digon o dir ar gael i’w ddatblygu.

Perchnogaeth

Pob categori: Perchnogaeth
Eryri: 11,944
Arfordir Penfro: 10,227
Bannau Brycheiniog: 14,579
Cymru: 1,302,676

Yn berchen arno: Perchnogaeth cyfan gwbl
Eryri: 49.6%
Arfordir Penfro: 48.6%
Bannau Brycheiniog: 44.4%
Cymru: 35.4%

Yn berchen arno: Perchnogaeth gyda morgais neu fenthyciad
Eryri: 22.7%
Arfordir Penfro: 22.7%
Bannau Brycheiniog: 26.3%
Cymru: 32%

Cynllun rhan-berchnogaeth (yn berchen arno’n rhannol ac yn ei rentu’n rhannol)
Eryri: 0.4%
Arfordir Penfro: 0.3%
Bannau Brycheiniog: 0.3%
Cymru 0.3%

Llety cymdeithasol a rentir: Ei rentu gan y cyngor (Awdurdod Lleol)
Eryri: 4.9%
Arfordir Penfro: 8.2%
Bannau Brycheiniog: 8%
Cymru: 9.8%

Llety cymdeithasol a rentir: Arall
Eryri: 6.3%
Arfordir Penfro: 3.2%
Bannau Brycheiniog: 5.7%
Cymru: 6.6%

Llety preifat a rentir: Landlord preifat neu asiantaeth gosod tai
Eryri: 10.9%
Arfordir Penfro: 12.3%
Bannau Brycheiniog: 10.7%
Cymru: 12.7%

Llety preifat a rentir: Arall
Eryri: 2.3%
Arfordir Penfro: 2%
Bannau Brycheiniog: 2.4%
Cymru: 1.5%

Byw yn ddi rhent
Eryri: 2.8%
Arfordir Penfro: 2.7%
Bannau Brycheiniog: 2.1%
Cymru: 1.6%

Parc Cenedlaethol Eryri oedd â’r canran uchaf o aelwydydd oedd a pherchogaeth cyfan gwbl (49.6%). Roedd hyn ychydig yn fwy na Penfro ond yn sylweddol uwch na’r ganran genedlaethol o 35.4%

Roedd Parciau Cenedlaethol Cymru i gyd o dan y cyfartaledd cenedlaethol o 9.8% yn nhermau aelwydydd a rentwyd gan awdurdodau lleol perthnasol. Roedd Parc Cenedlaethol Eryri yn llawer iawn îs gyda dim ond 4.9% o gartrefi yn rai a rentwyd gan yr Awdurdodau lleol.

Band Llydan Cyflym Iawn

Mae Rhaglen band llydan Cyflym Iawn Llywodraeth Cymru yn anelu at sicrhau mynediad at fand llydan (neu eang) cyflym iawn i’r rhan fwyaf o gartrefi a busnesau yng Nghymru.

Gyda chymorth arian Ewropeaidd, ynghyd ag arian cyhoeddus a’r sector breifat fe sicrhawyd lefel sylweddol o fuddsoddiad yn y rhaglen ac mae hon yn cael ei hystyried fel y bartneriaeth fwyaf o’i bath ar hyn o bryd yn y DU ac yn fuddsoddiad isadeiledd ar raddfa fawr.

Mae cyflwyno band llydan cyflym i ardaloedd gwledig ar raddfa fawr yn dasg beirianyddol fawr a chymhleth. Mae’r rhaglen yn golygu bod angen tua 3,000 o gypyrddau band llydan ffibr newydd ac oddeutu 17,500km o gebl ffibr optig i ddod â band llydan cyflym iawn i Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod Band llydan Cyflym Iawn yn mynd i drawsnewid y tirlun band llydan yng Nghymru a bydd yn hyrwyddo twf economaidd a swyddi cynaliadwy yng Nghymru. Maen nhw wedi amcangyfrif y gallai hyd at 2,500 o swyddi pellach amser llawn gael eu creu dros gyfnod o amser a bydd yn sicrhau bod Cymru ar flaen y gad yn yr economi ddigidol fyd-eang ac yn lle gwych i fyw, gweithio, buddsoddi ac i ymweld â hi.

Mae’r rhan fwyaf o gyfnewidfeydd yn Eryri, ar wahân i lond llaw (sydd wedi eu cysgodi mewn lliw pinc ar y map isod), erbyn hyn wedi cael eu huwchraddio i fand llydan cyflym iawn gyda’r llond llaw sy’n weddill o’r cyfnewidfeydd wedi cael eu trefnu i gael eu huwchraddio yn 2016.

Superfast Cymru