Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Thir Mynediad

Mae mynediad i gefn gwlad yn ffactor pwysig wrth gynnal iechyd a lles pobl. Mae’r Parc Cenedlaethol yn darparu hygyrchedd trwy ei dirweddau mynyddig, coetiroedd, dŵr a thirweddau arfordirol i’r cyhoedd, drwy rwydwaith helaeth o Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTC), ‘Tir Mynediad’ CGaHT a llwybrau eraill. Mae’r nodweddion hyn yn hwyluso mynediad i weithgareddau hamdden eraill yn y Parc, er enghraifft beicio, marchogaeth, chwaraeon dŵr, dringo, cael picnic ac ati, a hefyd rhwng aneddiadau. Mae’r defnydd a wneir o’r rhwydwaith hwn o lwybrau troed ac ati yn amrywio gyda’r ardal leol a’r tymor.

Hyd yr Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn y Parc Cenedlaethol: 2,742.6km
Hyd y llwybrau hygyrch ar gyfer cadeiriau olwyn: 22.3km

Cyflwynodd y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (2000) hawl newydd i bobl gerdded yn rhydd dros ‘Dir Mynediad’ (hynny yw, ardaloedd o gefn gwlad agored a thir comin cofrestredig) yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys ardaloedd wedi’u mapio o fynydd, gweundir, rhostir (a ddiffinnir gyda’i gilydd yn ‘cefn gwlad agored’) a thir comin cofrestredig, pan nad oedd mynediad at lawr ohono ynghynt. Mae Adran 16 o’r Ddeddf yn darparu ar gyfer cynllun ymroddiad gwirfoddol, gan ganiatáu tirfeddianwyr i neilltuo mynediad statudol i unrhyw gategori arall o dir am byth. Drwy’r mecanwaith hwn, ers 1999, mae cynigion wedi cael eu gwneud gan y Comisiwn Coedwigaeth i neilltuo hawliau mynediad cyhoeddus i’r rhan fwyaf o goetiroedd rhydd-ddaliadol sy’n eiddo i’r Cynulliad Cenedlaethol.

Yn Eryri, mae ardaloedd mawr o dir yn draddodiadol hygyrch i’r cyhoedd trwy gyfrwng cytundebau mynediad rhwng tirfeddianwyr ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Estynnodd y Ddeddf CGaHT fynediad cyhoeddus sylweddol ar draws y parc cenedlaethol, gyda dynodiad ‘Cefn Gwlad Agored’, ‘Tir Comin Cofrestredig’ a hefyd coedwigoedd. Mae’r data hwn yn cael ei gyflwyno isod:

Ardal y Parc Cenedlaethol a ddiffinnir fel cefn gwlad agored: 84,697ha
Ardal Tir Comin Cofrestredig gyda mynediad: 21,958ha
Ardal Tir Comisiwn Coedwigaeth gyda mynediad: 20,987ha
Cyfanswm mynediad wedi ei sicrhau o dan y Ddeddf CGaHT: 127,642ha
Canran ardal y Parc Cenedlaethol gyda mynediad CGaHT: 59.86%

Canolfannau Croeso

Mae APCE wedi gweithredu Canolfannau Croeso Aberdyfi, Beddgelert, Betws y Coed, Dolgellau a Harlech yn flaenorol. Yr oeddynt yn darparu ystod o wasanaethau i’r cyhoedd. Fel rhan o weithrediadau torri costau fe wnaeth yr Awdurdod gau Canolfan Groeso Harlech a Dolgellau yn barhaol ac mae oriau agor gydol y flwyddyn y rhai eraill wedi cael eu cwtogi. Mae’r newidiadau yn cynnwys:

  • Gweithredu patrwm agor tymhorol yng Nghanolfan Groeso Aberdyfi
  • Oriau agor 10-4yp yng Nghanolfan Groeso Betws y Coed yn y gaeaf
  • Agor y Ganolfan Groeso ym Meddgelert yn dymhorol, sy’n golygu agor o benwythnos y Pasg hyd y penwythnos olaf yn nhymor yr hydref.

Nifer Ymwelwyr Canolfannau Croeso
2009/10: 301,392
2010/11: 282,553
2011/12: 288,357
2012/13: 242,247
2013/14: 270,226
2014/15: 266,400
2015/16: 203,906 (175,719 o Ebrill i Hydref gan fod dwy ganolfan yn dymhorol)
2016/17: 217,816 (196,290 o Ebrill i Hydref gan fod dwy ganolfan yn dymhorol)


© APCE

Gwefan

Bydd ymwelwyr â’r ardal hefyd yn defnyddio dulliau eraill o gael gafael ar wybodaeth megis gwefan y Parc Cenedlaethol. Mae nifer o drawiadau neu “hits” unigryw ar y wefan yn cael eu dangos isod ynghyd â thrawiadau ar dudalennau gwe gwahanol o fewn y safle.

2011
Gwefan: 253,021
Tudalen: 1,539,435

2012
Gwefan: 336,276
Tudalen: 1,746,791

2013
Gwefan: 445,121
Tudalen: 2,301,844

2014
Gwefan: 490,247
Tudalen: 2,211,841

2015*
Ymweliadau tudalen unigryw: 1,291,284
Ymweliadau tudalen: 1,746,346

2016*
Ymweliadau tudalen unigryw: 1,322,233
Ymweliadau tudalen: 1,771,752

*Newid yn nhermau dadansoddi Google Analytics

Cerdded

Mae APCE yn monitro nifer o lwybrau poblogaidd i fyny’r Wyddfa a mynyddoedd eraill yn y Parc Cenedlaethol. Mae’r inffograffeg isod yn dangos y niferoedd at gyfer 2016.

Yr Wyddfa
2010: 430,258
2011: 404,188
2012: 365,944
2013: 449,312
2014: 455,241

Ogwen ac Idwal
2010: 128,148
2011: 122,481
2012: 111,834
2013: 123,181
2014: 116,655

Cader Idris
2010: 53,396
2011: 46,626
2012: 52,598
2013: 49,235
2014: 58,540

Llwybrau Monitro Ymwelwyr Un-ffordd Ffigyrau ddewiswyd

Beicio Mynydd

Mae Eryri yn rhoi cyfleoedd ar gyfer beicio mynydd, yn enwedig o fewn Coedwigoedd Gwydyr, Penmachno a Choed y Brenin. Mae nifer y bobl sy’n beicio mynydd o fewn Coedwigoedd Gwydyr, Penmachno a Choed y Brenin bron wedi treblu rhwng 2002 a 2003, cyn aros yn weddol gyson 2003 hyd 2008. Dangosir hyn yn Ffigur 43. Ers 2009 mae’r niferoedd sy’n beicio yn ardal Betws y Coed yn dangos bod y tuedd ar i lawr tra fo’r niferoedd yng Nghoed y Brenin wedi cynyddu o 2010. Mae’r ganolfan yng Nghoed y Brenin ynghyd â datblygiad a gwella’r cyfleusterau yn dilyn hynny wedi rhoi hwb i nifer yr ymwelwyr yn sylweddol, yn enwedig ymhlith ymwelwyr nad ydynt yn beicio. Mae Coed y Brenin wedi cael ei ddynodi fel canolfan rhagoriaeth. Gweler y Blwch isod:

Nifer y Beicwyr Mynydd sy’n Ymweld ag Ardal Betws y Coed a Choedwig Coed y Brenin (Ffynhonnell : Y Comisiwn Coedwigaeth, 2015)

©APCE