Ffigyrau Pennawd Steam 2015

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn ymfalchïo ei bod yn rhan arbennig o’r wlad lle mae pobl yn dod i ymlacio a mwynhau amrywiaeth eang o weithgareddau hamdden mewn amgylchedd ysblennydd. Mae twristiaeth a hamdden wedi dod yn un o’r prif gyfranwyr at yr economi a chyflogaeth o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r ddau yn agweddau hanfodol o’r dyfodol ar gyfer economi a lles y Parc.

Gwariant Twristiaid

Yn ôl y ffigyrau STEAM 2015 (a gynhyrchwyd ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri), cyfanswm y gwariant twristiaid oedd £475.69 miliwn (prisiau mynegai).

Mae’r ffigwr hwn wedi cynyddu’n sylweddol ers 2012, er bod y ffigwr 2015 yn is na’r lefel brig o £493m a welwyd yn 2011. Gwelwyd gostyngiad yn 2012; tuedd a welir hefyd yn y setiau data penodol twristiaeth eraill yn y rhan hon. Gallai rhesymau posibl am y gostyngiad cyflym gynnwys y ffaith bod mis Ebrill a mis Mehefin 2012 ymysg y misoedd gwlypaf ers i gofnodion ddechrau, gyda llifogydd led led Cymru yn ystod mis Mehefin. Yn ogystal, roedd mis Gorffennaf yn is o ran lefelau cyfartalog o heulwen a lefelau uwch na’r cyfartaledd o law.

Roedd cynnydd bychan (5.5%) yng ngwariant ymwelwyr rhwng 2014 a 2015.

Gwariant twristiaid yn ôl Categori

Mae’r siart isod yn rhoi dadansoddiad o wariant twristiaid ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac mae’n dangos mai’r sector dwristiaeth fwyaf gwerthfawr yw’r sector siopa. Canlyniad hyn oedd gwariant o tua £105 miliwn yn 2015, a oedd yn gynnydd o 4.8% o ffigyrau 2014.

Mae’r dadansoddiad o gategorïau gwariant o fewn y Parc Cenedlaethol ar gyfer 2015 yn cael ei ddangos isod.

Gwariant Twristiaeth o fewn y Parc Cenedlaethol 2015

Gwir gyfanswm (£ miliwn)
Gwariant anuniongyrchol: £121.7 miliwn
Siopa: £105.45 miliwn
Bwyd a diod:£73.7 miliwn
TAW: £59.0 miliwn
Llety: £50.1 miliwn
Cludiant: £37.1 miliwn
Hamdden: £28.7 miliwn

Cynnydd/Gostyngiad o 2014
Gwariant anuniongyrchol: +5.1%
Siopa: +4.8%
Bwyd a Diod: +5.8%
TAW: +5.6%
Llety: +2.1%
Cludiant: +7.9%
Hamdden: +11.9%

Er nad y sector hamdden oedd y sector gros uchaf, fe welwyd y twf canrannol uchaf rhwng ei lefelau perthnasol yn 2014 a 2015 gyda chynnydd o 11.9%. Byddai’n rhesymau posibl am hyn yn gallu bod yn sgil y cynnydd mewn lefelau o weithgareddau hamddena ar gael sydd ar gael bellach i dwristiaid yn ac o gwmpas y Parc (er enghraifft Bounce Below, Zip World, Tree Top Adventures, Surf Snowdonia, llwybrau beicio mynydd newydd ayyb).

Niferoedd Ymwelwyr

Mae ffigyrau STEAM yn dangos fod 3.67 miliwn o ymwelwyr â Pharc Cenedlaethol Eryri yn 2013. Mae’r ffigwr hwn wedi bod yn gostwng ers 2009, pan welwyd 4.27 miliwn o ymwelwyr yn dod i’r Parc. Mae hyn yn golygu fod gostyngiad o 14.1% wedi digwydd yn nifer yr ymwelwyr rhwng ffigyrau 2009 a 2013.

Niferoedd ymwelwyr yn ôl math o ymwelwyr

Mae ffigyrau yn dangos fod niferoedd ymwelwyr, sy’n ymwelwyr sy’n aros neu yn ymwelwyr sy’n aros mewn lletai wedi eu gwasanaethu neu ddim yn cael eu gwasanaethu, wedi cynyddu fymryn ers 2009.

Nifer y dyddiau ymwelwyr a dreuliwyd ym Mharc Cenedlaethol Eryri

Mae’r ffigwr yn dangos bod oddeutu 10.25 miliwn o ddyddiau twristiaid wedi cael eu treulio yn y Parc Cenedlaethol yn 2015. Rhwng 2008 a 2015 fe amcangyfrifir fod tua 81.1 miliwn o ddyddiau twristiaid wedi cael eu treulio yn Eryri.

Yn dilyn y tuedd a welwyd gyda niferoedd ymwelwyr, a fe wnaeth dyddiau ymwelwyr hefyd ostwng wedi 2011. Yn yr achos hwn fodd bynnag mae dyddiau ymwelwyr wedi cynyddu rhwng 2009 a 2011, cyn gostyngiad sylweddol rhwng 2011 a 2012. Fel y soniwyd eisoes, fe ellid dweud bod y gostyngiad hwn wedi digwydd am nifer o resymau. Mis Ebrill a mis Mehefin 2012 oedd y dyddiau gwlypaf iddynt fod ers i gofnodion ddechrau gael eu cadw, gyda llifogydd ar draws Cymru ym mis Mehefin. Yn ychwanegol at hynny, yr oedd mis Gorffennaf wedi gweld llai na’r lefelau cyfartalog o haul a lefelau uwch na’r lefelau cyfartalog o law.

Roedd mymryn o gynnydd (0.4%) mewn dyddiau ymwelwyr rhwng 2012 a 2013 cyn 5.2% o gynnydd rhwng 2014 a 2015.

Dyddiau ymwelwyr yn ôl y math o ymwelwyr

Mae’r tueddiadau a welir yn y ffigur (ar gyfer ymwelwyr yn aros neu ymwelwyr yn aros mewn lletai wedi eu gwasanaethu neu ddim yn cael eu gwasanaethu) yn gallu cael ei weld hefyd ar gyfer dyddiau ymwelwyr. Fodd bynnag fe wnaeth nifer y dyddiau ymwelwyr, yn nhermau ymwelwyr dydd, ostwng o 4% rhwng 2012 a 2013.

Mae’r dadansoddiad ar gyfer dyddiau ymwelwyr yn ôl y math o ymwelwyr yn y Parc Cenedlaethol, ar gyfer 2015 yn cael ei ddangos isod.

Gwir gyfanswm (£ miliwn)
Llety yn cael ei wasanaethu: 0.564
Llety ddim yn cael ei wasanaethu: 7.16
Aros gyda chyfeillion neu berthnasau: 0.095
Ymwelwyr sy’n aros: 7.82
Ymwelwyr dydd: 2.43

Cynnydd/Gostyngiad o 2014
Llety yn cael ei wasanaethu: -1.3%
Llety ddim yn cael ei wasanaethu: +7.3%
Aros gyda chyfeillion neu berthnasau: 0.0%
Ymwelwyr sy’n aros: +6.5%
Ymwelwyr dydd: +1.3%

Cyflogaeth mewn Twristiaeth neu hamdden

Mae cyflogaeth yn y Parc Cenedlaethol heddiw yn cael ei nodweddu gan ddibyniaeth gref ar ystod gyfyngedig o weithgareddau, yn enwedig y sector gwasanaeth, amaethyddiaeth a thwristiaeth.

Mae’r arolygon STEAM sy’n cael eu cyflawni yn flynyddol yng Ngogledd Cymru yn darparu ystod o wybodaeth am dwristiaeth yn y Parc Cenedlaethol gan gynnwys Cyflogaeth mewn Twristiaeth a Gwariant Twristiaid.