Mae’r adran Ymgysylltu yn gweithio i hyrwyddo rhinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol.
Mae’r adran Ymgysylltu yn dod o dan adain Gwasanaethau Corfforaethol yr Awdurdod. Mae gan yr adran gyfrifoldebau eang o waith cyfathrebu, polisi, mynediad, llesiant a thwristiaeth gynaladwy.
Cyfrifoldebau’r adran
- Datblygu cynlluniau cyfathrebu sy’n hyrwyddo a dathlu’r hyn sy’n gwneud Eryri yn le mor arbennig
- Ymchwilio, datblygu a chynhyrchu polisïau a chynllun rheoli statudol Parc Cenedlaethol Eryri
- Derbyn ymholiadau ac ymgysylltu gyda’r wasg a’r cyhoedd
- Rheoli a datblygu partneriaethau gyda sefydliadau a busnesau amrywiol
- Edrych ar faterion rheolaeth ymwelwyr gan anelu at hybu twristiaeth gynaladwy o fewn Eryri
- Rheoli canolfannau ymwelwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Helen Pye, Pennaeth Ymgysylltu
Dechreuodd Helen weithio gyda Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn 2013 fel Warden Yr Wyddfa—y fenyw gyntaf i weithio yn y rôl allweddol hwn. Ers hynny, mae Helen wedi bod wrth lyw sawl rôl arall o fewn yr Awdurdod gan gynnwys Uwch Warden y Gogledd a Rheolwr Partneriaethau’r Parc Cenedlaethol. Daeth yn Bennaeth Ymgysylltu yn 2019.