Daw’r adran Wardeiniaid o dan adain Gwasanaethau Corfforaethol. Mae gan yr adran gyfrifoldebau amrywiol sydd yn aml yn golygu gweithio yn yr awyr agored ar hyd a lled y Parc Cenedlaethol.

 

Cyfrifoldebau’r adran
  • Cynnal a chadw tirweddau a chynefinoedd amrywiol y Parc Cenedlaethol
  • Cydweithio gyda ffermwyr a pherchnogion tir ar faterion megis cadwraeth a rheolaeth ymwelwyr
  • Datblygu a chynnal cyfres o lwybrau ar draws y Parc Cenedlaethol
  • Delio â materion mynediad cyhoeddus o fewn y Parc Cenedlaethol
  • Cryfhau’r berthynas rhwng ymwelwyr i’r parc a’r cymunedau lleol
  • Strengthening the relationship between visitors to the park and its local communities
Gwaith yr adran

Mae’r adran Warden a Mynediad yn gweithio ar y rheng flaen o warchod Eryri.

Llwybrau Hyrwyddedig
Mae dros 50 o lwybrau wedi eu datblygu gan wardeiniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gan gynnwys llwybrau ar yr ucheldir, mewn coedwigoedd ac ar yr arfordir.
Llwybrau Cyhoeddus a Thir Agored
Cydweithio gyda chynghorau sir i gynnal a chadw llwybrau cyhoeddus o fewn y Parc Cenedlaethol yn ogystal â mynediad i dir agored.
Llyn Tegid
Goruchwylio llyn naturiol mwyaf Cymru, Llyn Tegid, sydd yn llyn hynod boblogaidd gyda phadl-fyrddwyr, canŵyr, nofwyr a physgotwyr.
Deorfa Afon Ddyfrdwy
Sefydlu deorfa brithyll brown fel rhan o brosiect LIFE Afon Ddyfrdwy sy’n anelu at adfer yr afon a’i hamgylchedd i’w cyflwr naturiol.
Cynnal a chadw Eryri
Mae’r adran wardeinio yn cynnal a chadw milltiroedd o lwybrau ar hyd a lled y Parc Cenedlaethol gan sicrhau fod Eryri’n ardal hygyrch i ymwelwyr a thrigolion.