Yr adran Gadwraeth, Coed ac Amaeth sy’n gyfrifol am warchod tirweddau a bywyd gwyllt y Parc Cenedlaethol. Mae gan yr adran gyfrifoldebau eang sy’n cynnwys datblygu strategaethau cadwraeth yn ogystal â mynd i’r afael a’r heriau sy’n wynebu Eryri heddiw.

Cyfrifoldebau’r adran

  • Arwain a chydweithio ag endidau a sefydliadau eraill ar brosiectau cadwraeth
  • Gwarchod a gwella tirwedd a bywyd gwyllt y Parc Cenedlaethol
  • Cydweithio gyda ffermwyr a’r sector amaeth ar faterion cadwraeth
  • Cynhyrchu a datblygu ‘Cynllun Bioamrywiaeth Lleol’ i Eryri sy’n manylu ar strategaethau i warchod a gwella bioamrywiaeth Eryri
  • Mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r Parc Cenedlaethol megis rhywogaethau ymledol a sgil effeithiau newid hinsawdd
Gwaith yr adran

Mae’r adran Cadwraeth, Coed ac Amaeth yn gyfrifol am gadwraeth gynaliadwy’r Parc Cenedlaethol.

Prosiectau Cadwraeth
Mae’r adran wedi cydweithio ac arwain ar nifer fawr o brosiectau cadwraeth o brosiectau cadw gwenyn i brosiectau difa rhywogaethau ymledol.
Coedwigoedd Glaw Celtaidd
Mae prosiect LIFE Coedwigoedd Glaw Celtaidd yn brosiect sy’n canolbwyntio ar warchod ac adfer coedwigoedd glaw hynafol y Parc Cenedlaethol.
Mawndiroedd
Mae mawndiroedd Eryri yn hanfodol ar gyfer lleihau effaith newid hinsawdd ac mae’r rhan helaeth wedi cael eu hadfer fel rhan o Brosiect Mawndiroedd Cymru.
Awyr Dywyll
Mae awyr dywyll Eryri yn hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt o bob math. Mae’r adran gadwraeth yn gweithio ar warchod yr awyr dywyll ac yn arwain ar y bartneriaeth Prosiect NOS.

Rhys Owen, Pennaeth Cadwraeth, Coed ac Amaeth

Ymunodd Rhys ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn 2002 fel Swyddog Cadwraeth Fferm, cyn symud ymlaen i arwain Rhaglen Tir Eryri—prosiect arloesol a oedd yn weithredol rhwng 2003–2008.

Daeth Rhys yn bennaeth adran yn 2008. Mae’r adran bellach wedi esblygu o’i ffurf gwreiddiol fel yr adran Ecoleg, Coedlannau a Choedwigaeth i’w ffurf gyfredol fel yr adran Gadwraeth, Coed ac Amaeth.