Mae’r adran Ymgysylltu yn dod o dan adain Gwasanaethau Corfforaethol yr Awdurdod. Mae gan yr adran gyfrifoldebau eang o waith cyfathrebu, polisi, mynediad, llesiant a thwristiaeth gynaladwy.

Cyfrifoldebau’r adran

  • Datblygu cynlluniau cyfathrebu sy’n hyrwyddo a dathlu’r hyn sy’n gwneud Eryri yn le mor arbennig
  • Ymchwilio, datblygu a chynhyrchu polisïau a chynllun rheoli statudol Parc Cenedlaethol Eryri
  • Derbyn ymholiadau ac ymgysylltu gyda’r wasg a’r cyhoedd
  • Rheoli a datblygu partneriaethau gyda sefydliadau a busnesau amrywiol
  • Edrych ar faterion rheolaeth ymwelwyr gan anelu at hybu twristiaeth gynaladwy o fewn Eryri
  • Rheoli canolfannau ymwelwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Gwaith yr adran

Mae’r adran Ymgysylltu yn gweithio i hyrwyddo rhinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol.

Cynllun Eryri
Lansio Cynllun Eryri yn 2020 ar ôl blynyddoedd o waith ymgysylltu ac ymholi gyda phartneriaid a’r cyhoedd.
Parcio a Thrafnidiaeth
Cydweithio gydag adrannau eraill o fewn yr Awdurdod i asesu a gwella isadeiledd parcio a thrafnidiaeth y Parc Cenedlaethol.
Economi Ymweld Gynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035
Datblygu economi ymweld er budd a lles pobl, amgylchedd, iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri.
Partneriaeth Yr Wyddfa
Sefydlu Partneriaeth Yr Wyddfa a arweiniodd at Gynllun Yr Wyddfa sy’n manylu ar strategaethau i warchod mynydd fwyaf poblogaidd Eryri.
Cynllun Llysgenhadon

Datblygu cynllun achredu llysgenhadon Eryri. Mae dros 600 o fusnesau ac unigolion bellach yn Llysgennad Aur, Arian neu Efydd.
Gwirfoddoli
Darparu a rheoli cyfleoedd gwirfoddoli ar draws y Parc Cenedlaethol.