Mae’r adran Cadwraeth, Coed ac Amaeth yn gyfrifol am gadwraeth gynaliadwy’r Parc Cenedlaethol.
Yr adran Gadwraeth, Coed ac Amaeth sy’n gyfrifol am warchod tirweddau a bywyd gwyllt y Parc Cenedlaethol. Mae gan yr adran gyfrifoldebau eang sy’n cynnwys datblygu strategaethau cadwraeth yn ogystal â mynd i’r afael a’r heriau sy’n wynebu Eryri heddiw.
Cyfrifoldebau’r adran
- Arwain a chydweithio ag endidau a sefydliadau eraill ar brosiectau cadwraeth
- Gwarchod a gwella tirwedd a bywyd gwyllt y Parc Cenedlaethol
- Cydweithio gyda ffermwyr a’r sector amaeth ar faterion cadwraeth
- Cynhyrchu a datblygu ‘Cynllun Bioamrywiaeth Lleol’ i Eryri sy’n manylu ar strategaethau i warchod a gwella bioamrywiaeth Eryri
- Mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r Parc Cenedlaethol megis rhywogaethau ymledol a sgil effeithiau newid hinsawdd
Rhys Owen, Pennaeth Cadwraeth, Coed ac Amaeth
Ymunodd Rhys ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn 2002 fel Swyddog Cadwraeth Fferm, cyn symud ymlaen i arwain Rhaglen Tir Eryri—prosiect arloesol a oedd yn weithredol rhwng 2003–2008.
Daeth Rhys yn bennaeth adran yn 2008. Mae’r adran bellach wedi esblygu o’i ffurf gwreiddiol fel yr adran Ecoleg, Coedlannau a Choedwigaeth i’w ffurf gyfredol fel yr adran Gadwraeth, Coed ac Amaeth.