Rhai o uchafbwyntiau diweddar gwaith yr Awdurdod ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Y prif gorff cyhoeddus sy'n gyfrifol am y Parc Cenedlaethol
Mae gwaith Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn delio ag ystod eang o faterion o’r maes cynllunio a datblygu i feysydd cadwraeth, coedwigaeth ac amaeth.
Yr Awdurdod yw’r prif gorff cyhoeddus sy’n gyfrifol am y Parc Cenedlaethol ac mae ganddo bwrpasau statudol sydd rhaid ei gyflawni.
Pwrpasau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn rhannu’r un pwrpasau a llawer o Awdurdodau eraill ar draws Cymru a Lloegr. Mae’r rhain yn bwrpasau statudol.
- Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol
- Hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau rhinweddau arbennig y Parciau Cenedlaethol
Wrth gyflawni’r dibenion hyn, mae’n ofynnol hefyd i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol geisio meithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol yn y Parc Cenedlaethol.
Cadwraeth, Coed ac Amaeth
Mae’r adran Gadwraeth, Coed ac Amaeth yn delio gyda materion cadwraeth ar draws y Parc Cenedlaethol gan gydweithio gyda phartneriaid i ymateb i rai o’r heriau sy’n wynebu Eryri heddiw.
Cadwraeth, Coed ac Amaeth
Wardeiniaid a Mynediad
Mae Wardeiniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gweithio ar draws y Parc Cenedlaethol gan ymgymryd mewn rolau amrywiol megis adfer tirweddau, ymgysylltu gyda chymunedau lleol a chydweithio gyda ffermwyr yr ardal.
Wardeiniaid a Mynediad
Cynllunio a Threftadaeth Diwylliannol
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gyfrifol am holl faterion cynllunio a datblygu o fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol. Maent yn sicrhau nad yw datblygiadau o fewn y Parc Cenedlaethol yn cael effaith negyddol ar rinweddau arbennig Eryri.
Cynllunio a Threftadaeth Diwylliannol
Ymgysylltu
Mae’r adran Ymgysylltu yn gyfrifol am hyrwyddo a dathlu rhinweddau arbennig Eryri i’r cyhoedd a thu hwnt. Maent hefyd yn cydweithio â phartneriaid i gynllunio am ddyfodol gynaladwy i’r Parc Cenedlaethol.
Ymgysylltu
Gwirfoddoli gyda’r Awdurdod
Mae llu o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael gyda’r nifer o gymdeithasau sy’n gweithio ar draws y Parc Cenedlaethol. Gall gwirfoddoli gyda’r Awdurdod neu gymdeithasau wneud gwahaniaeth mawr i ddyfodol Eryri.
Gwirfoddoli