Cydweithio i warchod a gwella Eryri am genedlaethau i ddod

Fforwm o sefydliadau o sawl sector bwysig ym Mharc Cenedlaethol Eryri gan gynnwys sectorau hamdden, cadwraeth, amaeth a thwristiaeth.

Beth yw Fforwm Eryri?

  • Mae fforwm Eryri yn gyfle i bawb sy’n ymwneud â llunio dyfodol Eryri i gydweithio yn y rhanbarth a thu hwnt.

    Mae’r fforwm yn cydweithio i sefydlu mecanweithiau ar y cyd ar gyfer datblygu, cyflawni a monitro amcanion a chamau gweithredu strategol o fewn Cynllun Partneriaeth Parc Cenedlaethol Eryri, Cynllun Eryri.

    Wrth wneud hynny, mae’r fforwm yn darparu ffordd newydd o weithio gyda phartneriaid perthnasol drwy gyflawni’r Dyletswyddau a nodir yn Adran 62 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995.

    Mae’r fforwm yn cyfarfod yn chwarterol i drafod cynnydd Cynllun Eryri, cytuno ar ddulliau gweithredu ar brosiectau ar y cyd ac i glywed y newyddion diweddaraf gan amrywiaeth o Bartneriaid. Mae’r rhai a gynrychiolir ar y fforwm yn cael eu cymeradwyo gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn flynyddol.

    Drwy hyn, mae Fforwm Eryri yn cyfrannu at gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol:

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Partneriaid Fforwm Eryri

Aelodau Fforwm Eryri

Mae’r mudiadau canlynol yn aelodau o Fforwm Eryri.

  • Cadw
  • CLA Cymru
  • Coed Cadw
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cymdeithas Eryri
  • Cyngor Bwrdeistref Conwy
  • Cyngor Gwynedd
  • Eryri Bywiol
  • Ffederasiwn busnesau bach Cymru
  • FUW
  • Grŵp Llandrillo Menai
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • NFU Cymru
  • Pen Llŷn a’r Sarnau SAC
  • RSPB
  • Un Llais Cymru
  • Y Bartneriaeth Awyr Agored
  • Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
  • Yr Ymddiredolaeth Genedlaethol
  • Ymddiriedolaeth John Muir