Fforwm o sefydliadau o sawl sector bwysig ym Mharc Cenedlaethol Eryri gan gynnwys sectorau hamdden, cadwraeth, amaeth a thwristiaeth.
Beth yw Fforwm Eryri?
- Mae fforwm Eryri yn gyfle i bawb sy’n ymwneud â llunio dyfodol Eryri i gydweithio yn y rhanbarth a thu hwnt.
Mae’r fforwm yn cydweithio i sefydlu mecanweithiau ar y cyd ar gyfer datblygu, cyflawni a monitro amcanion a chamau gweithredu strategol o fewn Cynllun Partneriaeth Parc Cenedlaethol Eryri, Cynllun Eryri.
Wrth wneud hynny, mae’r fforwm yn darparu ffordd newydd o weithio gyda phartneriaid perthnasol drwy gyflawni’r Dyletswyddau a nodir yn Adran 62 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995.
Mae’r fforwm yn cyfarfod yn chwarterol i drafod cynnydd Cynllun Eryri, cytuno ar ddulliau gweithredu ar brosiectau ar y cyd ac i glywed y newyddion diweddaraf gan amrywiaeth o Bartneriaid. Mae’r rhai a gynrychiolir ar y fforwm yn cael eu cymeradwyo gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn flynyddol.
Drwy hyn, mae Fforwm Eryri yn cyfrannu at gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol:
- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru sy’n fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Aelodau Fforwm Eryri
Mae’r mudiadau canlynol yn aelodau o Fforwm Eryri.
- Cadw
- CLA Cymru
- Coed Cadw
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cymdeithas Eryri
- Cyngor Bwrdeistref Conwy
- Cyngor Gwynedd
- Eryri Bywiol
- Ffederasiwn busnesau bach Cymru
- FUW
- Grŵp Llandrillo Menai
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- NFU Cymru
- Pen Llŷn a’r Sarnau SAC
- RSPB
- Un Llais Cymru
- Y Bartneriaeth Awyr Agored
- Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
- Yr Ymddiredolaeth Genedlaethol
- Ymddiriedolaeth John Muir