Mae’r Adran Cynllunio a Threftadaeth Ddiwylliannol yn gyfrifol am holl faterion cynllunio a datblygu o fewn y Parc Cenedlaethol yn ogystal ag am warchod treftadaeth ddiwylliannol Eryri.
Daw materion cynllunio, datblygu a threftadaeth ddiwylliannol o dan adain Cynllunio a Rheolaeth Tir.
Mae’r adran Cynllunio a Datblygu yn delio â materion caniatâd cynllunio o fewn y Parc Cenedlaethol tra bod yr adran Treftadaeth Ddiwylliannol yn gwarchod a gwella treftadaeth ddiwylliannol Eryri.
Cyfrifoldebau’r adrannau
- Derbyn a delio gydag ymholiadau a cheisiadau cynllunio a datblygu o fewn y Parc Cenedlaethol
- Cynhyrchu a datblygu Cynllun Datblygu Lleol sy’n adlewyrchu’r heriau sy’n wynebu’r Parc Cenedlaethol megis newid hinsawdd
- Datblygu polisïau cynllunio sy’n gwarchod a gwella rhinweddau arbennig Eryri
- Gwarchod a dathlu hanes a threftadaeth ddiwylliannol y Parc Cenedlaethol
Iona Roberts, Pennaeth Rheolaeth Datblygu a Chydymffurfiaeth
Dechreuodd Iona ei gyrfa gynllunio fel Swyddog Cynllunio Cynorthwyol yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn 2010 fel myfyriwr gradd BSc mewn ‘City and Regional Planning’ ac MA mewn ‘Urban Design’.
Symudodd Iona ymlaen o fewn y tîm cynllunio yn Eryri i fod yn Swyddog Cynllunio (Cydymffurfiaeth) yn 2012 ac yn ddiweddarach yn Uwch Swyddog Cynllunio (Rheolaeth Datblygu) yn 2016, cyn cael ei phenodi i’w rôl bresennol fel Pennaeth Rheolaeth Datblygu a Chydymffurfiaeth yn 2023.
Jade Owen, Pennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol
Daeth Jade yn Bennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol ym mis Tachwedd 2025. Cyn hynny, arweiniodd brosiectau er budd cymunedau lleol megis Llwyddo’n Lleol 2050 a Threftadaeth Ddisylw. Mae’n ymrwymedig i warchod treftadaeth Eryri a’i gwneud yn berthnasol i genedlaethau’r dyfodol.