Eryri yw’r pedwerydd Parc Cenedlaethol mwyaf o fewn teulu’r DU ac mae’n ofynnol yn gyfreithiol iddo gyflawni dau bwrpas statudol:

  • Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal.
  • Hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau rhinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol.

Mae gennym hefyd ddyletswydd i geisio meithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol o fewn y Parc.

Bydd y canllaw yma yn cynnig cyngor ymarferol i drefnwyr digwyddiadau ar sut i ymgymryd â’r gweithgareddau hyn mewn ffordd ddiogel, gyfrifol, gynaliadwy ac effeithlon fel nad ydynt yn niweidiol i bwrpasau’r Parc Cenedlaethol ac er mwyn sicrhau bod y rhinweddau arbennig hyn yn cael eu cynnal.