Profiad gwaith gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Mae lleoliadau profiad gwaith ar gyfer disgyblion ysgol a myfyrwyr addysg bellach ac uwch ar gael gyda’r Awdurdod mewn amryw o wahanol feysydd.  Mae lleoliadau ar gael ym meysydd:

  • cadwraeth a bioamrywiaeth
  • rheoli ymwelwyr
  • rheolaeth datblygu
  • gwasanaethau corfforaethol

Gwneud cais

Rydym yn eich cynghori i gwblhau a chyflwyno’r ffurflen gais i ymgeisio am leoliad cyn gynted ag y byddwch yn dod yn ymwybodol o’r cyfnod amser y disgwylir i chi ymgymryd â lleoliad profiad gwaith.

Nodwch os gwelwch yn dda, mae yna alw mawr am leoliadau gwaith gyda’r Awdurdod a dim ond nifer cyfyngedig o leoedd y gallwn eu cynnig bob blwyddyn.

Lawrlwytho Ffurflen Gais