Mae’r Adran Cynllunio a Threftadaeth Ddiwylliannol yn gyfrifol am holl faterion cynllunio a datblygu o fewn y Parc Cenedlaethol yn ogystal ag am warchod treftadaeth ddiwylliannol Eryri.
Daw materion cynllunio, datblygu a threftadaeth ddiwylliannol o dan adain Cynllunio a Rheolaeth Tir.
Mae’r adran Cynllunio a Datblygu yn delio â materion caniatâd cynllunio o fewn y Parc Cenedlaethol tra bod yr adran Treftadaeth Ddiwylliannol yn gwarchod a gwella treftadaeth ddiwylliannol Eryri.
Cyfrifoldebau’r adrannau
- Derbyn a delio gydag ymholiadau a cheisiadau cynllunio a datblygu o fewn y Parc Cenedlaethol
- Cynhyrchu a datblygu Cynllun Datblygu Lleol sy’n adlewyrchu’r heriau sy’n wynebu’r Parc Cenedlaethol megis newid hinsawdd
- Datblygu polisïau cynllunio sy’n gwarchod a gwella rhinweddau arbennig Eryri
- Gwarchod a dathlu hanes a threftadaeth ddiwylliannol y Parc Cenedlaethol
Jane Jones, Rheolwr Cynllunio Dros Dro
Hyfforddodd Jane i ddechrau i fod yn Syrfëwr Siartredig gan ennill HND mewn Gweinyddu Tir ac yna graddio yn 1996 gyda BSc (Anrh) mewn Rheolaeth Tir.
Yn 2005, symudodd Jane i Gymru a pharhaodd i ganolbwyntio ar orfodaeth cynllunio, gan weithio yn y maes yng Nghyngor Sir Powys a Chyngor Sir y Fflint cyn cymryd swydd yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ym mis Medi 2007. Ar hyn o bryd mae Jane yn Rheolwr Cynllunio Dros Dro yn y Parc .
Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol
Daeth Naomi yn Bennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol yn 2018. Dechreuodd yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn 2007 fel Swyddog Dehongli dros dro cyn symud ymlaen i fod yn Swyddog Prosiect Treftadaeth Ddiwylliannol, Rheolwr Prosiect Yr Ysgwrn ac yna’n Bennaeth Addysg a Chyfathrebu.