Yr Wyddfa yw’r mynydd mwyaf poblogaidd yn y Deyrnas Unedig. Mae’r effaith a gaiff hyn ar y bobl sy’n byw a gweithio yn yr ardal yn sylweddol.
Mae Partneriaeth Yr Wyddfa wedi bod yn cyd-weithio er mwyn creu cynllun rheoli ar gyfer y mynydd.
Y Bartneriaeth
Grŵp a sefydlwyd i greu a gweithredu cynllun rheoli newydd ar gyfer Yr Wyddfa yw Partneriaeth Yr Wyddfa.
Mae’r Bartneriaeth yn dod a sefydliadau a pherchnogion tir sy’n ymwneud â rheoli’r mynydd at ei gilydd. Gall gwaith aelodau’r bartneriaeth amrywio o fod yn waith cadwraeth a rheoli llwybrau i dwristiaeth, ffermio ac achub mynydd.




Rydym yn dechrau ar gyfnod diddorol o ran rheoli lleoedd arbennig fel Yr Wyddfa, ar adeg pan fo dealltwriaeth, parch a chonsensws ar y ffordd ymlaen yn allweddol…
–Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Cynllun Yr Wyddfa
Mae’r Wyddfa yn gartref i gymunedau bywiog, egnïol a llu o ffermydd mynydd. Mae’n ased cenedlaethol a hwn yw mynydd mwyaf poblogaidd y Deyrnas Unedig o ran ymwelwyr, yn denu pobl o bob cwr o Gymru, y Deyrnas Unedig a ledled y byd.
Gwaith cymhleth yw gofalu am Yr Wyddfa ac mae cydweithio agos yn hanfodol os am lwyddo. Mae Cynllun Yr Wyddfa yn nodi sut y gall sefydliadau, perchnogion tir a rhanddeiliaid eraill gydweithio i warchod y mynydd.
Cylchlythyr Partneriaeth Yr Wyddfa
Tanysgrifiwch i gylchlythyr Partneriaeth Yr Wyddfa i dderbyn diweddariadau ar waith y bartneriaeth.