Mae 15 Parc Cenedlaethol y DU yn gweithio gyda partneriaid cenedlaethol trwy Bartneriaeth y Parciau Cenedlaethol. Mae ein partneriaid yn daparu cefnogaeth hanfodol ar gyfer teulu’r Parciau Cenedlaethol er mwyn cynorthwyo ni i gynyddu ein dealltwriaeth, ein mwynhâd a gwerth ein tirweddau arbennig.
BMW UK
Mae Parciau Cenedlaethol y DU yn gweithio gyda BMW UK ar brosiect Ailwefrio mewn Natur. Mae'r bartneriaeth yn anelu wella darpariaeth rhwydwaith gwefru ceir trydanol ar draws y 15 Parc Cenedlaethol trwy ariannu prosiectau lleol mewn nifer o feysydd megis bioamrywiaeth, adfer natur, cynaladwyedd a llesiant.
Mwy o wybodaeth am ein partneriaeth gyda BMW UK
Santander UK
Mae Santander UK yn Bartner Craidd o strategaeth 'Natur Net Sero' sy'n diffinio rôl y Parciau Cenedlaethol yn yr ymdrech yn erbyn newid hinsawdd ac argyfwng bioamrywiaeth.
Mwy o wybodaeth am ein partneriaeth gyda Santander UK
The Estée Lauder Companies UK & Ireland
Mae Estée Lauder Companies UK & Ireland (ELC) yn Bartner Craidd o 'Revere', sy'n cefnogi arloesiant mewn prosiectau natur ar draws y Parciau Cenedlaethol.
Mwy o wybodaeth am ein partneriaeth gyda The Estée Lauder Companies UK & Ireland
Sykes Holiday Cottages
Mae Sykes Holiday Cottages yn cefnogi rhaglen Gwarchodwyr y Parciau Cenedlaethol sy'n cyflwyno amrywiaeth o brosiectau cadwraeth ar draws y Parciau.
Mwy o wybodaeth am ein partneriaeth gyda Sykes Holiday Cottages a'r ffordd all archebu gwyliau gefnogi ein gwaith hanfodol.
Spotty Otter
Mae Spotty Otter yn cyfrannu 15% o holl elw eu dillad ac esgididiau 'Forest Ranger' a 'Forest Leader' at Gronfa Teithio Addysg Parciau Cenedlaethol y DU. Felly bob tro y byddwch yn prynu'r eitemau yma, rydych yn galluogi i berson ifanc ymweld a'n Parciau Cenedlaethol!
Mwy o wybodaeth am ein partneriaeth gyda Spotty Otter