Mae 15 Parc Cenedlaethol y DU yn gweithio gyda partneriaid cenedlaethol trwy Bartneriaeth y Parciau Cenedlaethol. Mae ein partneriaid yn daparu cefnogaeth hanfodol ar gyfer teulu’r Parciau Cenedlaethol er mwyn cynorthwyo ni i gynyddu ein dealltwriaeth, ein mwynhâd a gwerth ein tirweddau arbennig.

BMW UK
Mae Parciau Cenedlaethol y DU yn gweithio gyda BMW UK ar brosiect Ailwefrio mewn Natur. Mae'r bartneriaeth yn anelu wella darpariaeth rhwydwaith gwefru ceir trydanol ar draws y 15 Parc Cenedlaethol trwy ariannu prosiectau lleol mewn nifer o feysydd megis bioamrywiaeth, adfer natur, cynaladwyedd a llesiant.
Mwy o wybodaeth am ein partneriaeth gyda BMW UK

Santander UK
Mae Santander UK yn Bartner Sefydlol Revere ac wedi ymrwymo cyllid sylweddol i adfer tirweddau hollbwysig, gyda phrosiectau wedi'u cynllunio i wella'r amgylchedd a hybu gwytnwch hirdymor i'r hinsawdd.
Mwy o wybodaeth am ein partneriaeth gyda Santander UK

The Estée Lauder Companies UK & Ireland
Mae Estée Lauder Companies UK & Ireland (ELC) yn Bartner Craidd o 'Revere', sy'n cefnogi arloesiant mewn prosiectau natur ar draws y Parciau Cenedlaethol.
Mwy o wybodaeth am ein partneriaeth gyda The Estée Lauder Companies UK & Ireland

Sykes Holiday Cottages
Mae Sykes Holiday Cottages yn cefnogi rhaglen Gwarchodwyr y Parciau Cenedlaethol sy'n cyflwyno amrywiaeth o brosiectau cadwraeth ar draws y Parciau.
Mwy o wybodaeth am ein partneriaeth gyda Sykes Holiday Cottages a'r ffordd all archebu gwyliau gefnogi ein gwaith hanfodol.

Forest Holidays
Mae Parciau Cenedlaethol y DU a Forest Holidays yn cydweithio ar fenter ‘Dyfodol Parciau Cenedlaethol’, sy’n ceisio cysylltu dros 20,000 o bobl ifanc â byd natur.
Darganfyddwch fwy

Pearl & Dean (Wild Spaces)
Rydym yn partneru â Pearl & Dean (Wild Spaces) – lleoliadau sinema newydd ar draws y DU sy’n ariannu prosiectau adfer natur yn ein Parciau Cenedlaethol.
Mwy o wybodaeth