Cynllun sy’n gwarchod Eryri am genedlaethau i ddod.
Wedi ei gynhyrchu drwy gydweithio agos ac ymgynghori eang, mae Cynllun Eryri yn gynllun arloesol sy’n manylu ar strategaethau i warchod, gwella a dathlu’r hyn sy’n gwneud Parc Cenedlaethol Eryri yn le mor arbennig.
Beth yw Cynllun Eryri?
Cynllun Rheolaeth Statudol yw Cynllun Eryri. Mae’n gynllun sy’n:
- Nodi’r hyn sydd yn gwneud Eryri yn le arbennig—rhinweddau arbennig Eryri
- Nodi sut y byddwn ni a’r holl sefydliadau sydd â chyfrifoldeb i ofalu am Eryri yn gweithio mewn partneriaeth i warchod rhinweddau arbennig Eryri i’r dyfodol.
Mae Cynllun Eryri yn adlewyrchu newid mawr ym meddylfryd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i greu eu Cynllun Rheolaeth.
Dyma gynllun sydd wedi cael ei ddatblygu yng ngwir ysbryd partneriaeth.
Sut cafodd Cynllun Eryri ei ddatblygu
Datblygwyd Cynllun Eryri trwy gydweithio agos gyda’r cymunedau, busnesau a’r holl sefydliadau sydd â dyletswydd statudol i warchod a gofalu am y Parc Cenedlaethol.
Fe wnaeth rhaglen ymgynghori helaeth nodi a blaenoriaethu heriau a chyfleoedd yn y rhanbarth.
Bydd Cynllun Eryri yn helpu i gyflawni swyddogaethau’r Parc Cenedlaethol a chyflawni llawer o amcanion a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Y mwyaf arwyddocaol o’r rhain yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd.
Mae’r cynllun terfynol yn canolbwyntio ar dri maes sydd â chysylltiad agos â phwrpasau craidd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sef:
- Amgylchedd
- Iechyd, Lles a Chymunedau
- Economi Eryri
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth ar Gynllun Eryri, cysylltwch â:
Angela Jones
Pennaeth Partneriaethau, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Swyddfa’r Parc Cenedlaethol
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6LF
Ffôn: 01766 772 510
Ffôn symudol: 07900 267526
Ebost: angela.jones@eryri.llyw.cymru