Mewn partneriaeth gydag Amgueddfa Cymru ac Awdurodau Parc Cenedlaethol Eryri ac Arfordir Penfro, mae’r Ysgwrn yn falch o gyhoeddi bod arddangosfa nodedig ‘Geiriau Diflanedig’ yn agor ei drysau i’r cyhoedd ar y 24ain o Fehefin.

Bydd yr arddangosfa deithiol, sy’n cael ei threfnu gan Compton Verney, Hamish Hamilton a Penguin Books, yn dod â gweithiau celf gwreiddiol Jackie Morris yn fyw gyfochr â barddoniaeth Saesneg gan Robert Macfarlane yn ogystal â barddoniaeth Gymraeg gan Mererid Hopwood.

Mae’r llyfr ei hun gan Macfarlane wedi ei ysgrifennu mewn ymateb i’r ffaith bod nifer o eiriau byd natur yn diflannu o eirfa ein plant sydd yn ei dro yn arwain at ddatgysylltiad rhwng meddyliau ein cenhedlaethau ieuengaf a rhyfeddodau ein hamgylcheddau naturiol.

Mi fydd y gweithiau celf yn pigo’r cydwybod ac yn annog y gynulleidfa i ymgysylltu â rhyfeddodau ein ieithoedd a datblygu gwerthfawrogiad tyfnach o natur.

Mae’r Ysgwrn, sef cartref y bardd coll, Hedd Wyn wedi’i leoli yng nghanol rhyfeddod byd natur yng  Cwm Prysor ac mae’n leoliad delfrydol i werthfawrogi’r arddangosfa a’r cysylltiad i fioamrywiaeth. Yn amgueddfa sydd wedi ymrwymo i warchod treftadaeth Gymreig a dathlu’r cysylltiad rhwng diwylliant unigryw yr ardal gyda’r dirwedd a’r bywyd gwyllt, mae’n cynnig ei hun yn berffaith ar gyfer cynnal celf o’r fath.

Dywedodd Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth Diwylliannol APCE;

“Rydym yn hynod falch o groesawu arddangosfa ‘Geiriau Diflanedig’ i’r Ysgwrn, mae’n fraint gallu cynnal dathliad o gyfuniad mawrhydedd geiriau, byd natur a threftadaeth Cymreig yma. Rydym yn gobeithio bydd hyn yn ysbrydoli pobl o bob cenhedlaeth i ailgysyslltu gyda’n hamgylchedd naturiol a meithrin y berthynas rhwng ein ieithoedd a bioamrywiaeth.”

Mi fydd yr arddangosfa ar agor tan y Gwanwyn 2024 a mi fydd rhaglen o weithgareddau yn cael ei chyhoeddi yn fuan. Bydd pecyn addysg hefyd ar gael i ysgolion mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a gyda chefnogaeth Artfund

Diwedd.

Nodyn i Olygyddion

  1. Mae gwybodaeth am yr Arddangosfa Geiriau Diflanedig i’w ganfod ar wefan Yr Ysgwrn
  2. Hawlfraint llun – Dandelions gan Jackie Morris
  3. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ioan Gwilym, Swyddog Cyfathrebu Gwasanaethau Corfforaethol APCE ar 01766 772253 / 07900267506 neu ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru