Nid yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cefnogi defnyddio llusernau a balŵns o fewn y Parc Cenedlaethol.

Perygl o Dân ac Aflonyddu Bywyd Gwyllt

Mae gan lusernau fflamau agored a gallant fod yn berygl tân os ydynt yn teithio ac yn glanio ger neu ar adeiladau a thir agored gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • adeiladau amaethyddol ac ysguboriau (a allai gynnwys gwair, gwellt, grawn, tanwydd neu beiriannau)
  • anheddau preifat
  • llethrau sych
  • mawn sych a mannau coediog

Gallant hefyd darfu ar fywyd gwyllt ac anifeiliaid pori gan arwain at broblemau difrifol i dirfeddianwyr.

Peryglon amgylcheddol

Mae llusernau neu falwnau sy’n cael eu rhyddhau yn arwain at sbwriel yng nghefn gwlad. Gall balwnau (hyd yn oed os ydynt yn fioddiraddadwy) fod yn beryglus os cânt eu bwyta gan anifeiliaid pori.

Peryglon hedfan

Mae’r Parc Cenedlaethol yn ardal sydd â chryn dipyn o awyrennau’n hedfan yn isel (gan gynnwys jetiau’n hedfan yn isel, hofrenyddion achub mynydd ac awyrennau eraill sy’n cael eu hedfan at ddibenion hyfforddi). Mae llusernau a balwnau yn gallu achosi problemau o ran diogelwch hedfan.

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â’r pwnc hwn, gallwch ymgynghori ymhellach â Rheolwr Mynediad a Lles Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Peter Rutherford
Rheolwr Mynediad a Lles, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
peter.rutherford@eryri.llyw.cymru
01766 772258