Defnyddio Dronau at Ddibenion Anfasnachol

Mae’r CAA wedi gosod rheolau sylfaenol y mae’n rhaid i bob defnyddiwr drôn eu dilyn. Mae’n ofynnol i bob gweithredwr dronau gael ID Hedfanwr ac ID Gweithredwr, boed yn ddefnydd preifat neu’n ddefnydd masnachol.

Mae yn erbyn y gyfraith hedfan drôn neu awyren fodel heb fod â’r IDau gofynnol. Gallwch hefyd gael dirwy am dorri’r gyfraith wrth hedfan.

Digwyddiadau

O ran defnydd yn yr awyr agored, mae nifer o ddigwyddiadau wedi’u trefnu neu ddigwyddiadau elusennol yn defnyddio dronau yn fwy rheolaidd ac mae’n bwysig i weithredwyr fod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau cyfreithiol.

Mynyddoedd

Dylid cymryd sylw a gofal wrth ddefnyddio dronau yn y mynyddoedd oherwydd y nifer uchel o gerddwyr. Ar yr Wyddfa, mae pob llwybr mynediad (sydd i gyd yn Hawliau Tramwy Cyhoeddus) i’r copa yn ddaearyddol yn goridorau llinol cul iawn â nifer uchel o gerddwyr. Gall ardal y copa fod yn brysur iawn yn enwedig dros fisoedd yr haf. Gallai mwy nag un drôn yn hedfan o gwmpas yn agos at y llall beri cryn bryder o ran diogelwch y cyhoedd.

Nodwch: Nid yw’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn caniatau hedfan dronau ar unrhyw eiddo megis Dyffryn Ogwen, y Carneddau a’r Glyderau (gan gynnwys Tryfan).

Cwestiynau Cyffredin Ymddiriedolaeth Genedlaethol (Uniaith Saesneg)

Awyrennau ac hofrenyddion

Dylid hefyd cadw mewn cof y gall fod awyrennau eraill yn hedfan yn isel yn yr ardal megis hofrenyddion chwilio ac achub neu’r rhai a ddefnyddir at ddibenion hyfforddiant milwrol. Felly, dylai gweithredwyr a threfnwyr feddwl yn ofalus wrth ddefnyddio dronau a’u potensial i achosi anafiadau difrifol a’ch rhwymedigaethau posibl yn dilyn hynny.

Anifeiliad a bywyd gwyllt

Dylai gweithredwyr hefyd nodi na ddylai dronau rwystro neu aflonyddu ar dda byw, anifeiliaid gwyllt (yn cynnwys adar), anifeiliaid domestig eraill neu anifeiliaid anwes pan fyddant yn cael eu defnyddio yng nghefn gwlad. Gallai gweithgareddau o’r fath ddod o dan ddeddfwriaeth arall ac fe allai arwain at erlyniad.

Defnyddio Dronau at Ddibenion Masnachol

Dylai defnyddwyr masnachol, boed yn defnyddio dronau dan 25kg neu dros 25kg, gael cymhwyster UAS (Systemau Awyrennau Di-griw) ffurfiol a achredwyd gan y CAA (yr Awdurdod Hedfan Sifil) ac mae’n rhaid i weithredwyr gael y caniatâd perthnasol gan y tirfeddiannwr.

Byddwch hefyd angen Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus a sicrwydd Atebolrwydd Yswiriant Hedfan. Lle bo angen, dylid cyflwyno tystiolaeth o’r dogfennau hyn. Gofynna Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (APCE) yn garedig i bob trefnydd drafod eu gweithgareddau â staff perthnasol yr Awdurdod ymlaen llaw er mwyn osgoi unrhyw anawsterau.

Bydd angen caniatâd a thrwydded i ddefnyddio dronau ar eiddo APC megis copa’r Wyddfa neu ardaloedd eraill sy’n eiddo i APCE megis y meysydd parcio. Gellir trefnu hyn drwy Adran Eiddo APCE yn Swyddfa’r Parc Cenedlaethol ym Mhenrhyndeudraeth.

Y Prif Reolau ar gyfer defnyddio Dronau ym Mharc Cenedlaethol Eryri

  • Ni ddylai beryglu unrhyw un neu unrhyw beth
  • Rhaid i’r gweithredydd ei gadw o fewn llinell welediad (500m yn llorweddol a 120m yn fertigol)
  • Ni ddylai fod dros neu o fewn 150m o ‘ardal brysur’ h.y. ardal breswyl, ardaloedd masnachol neu hamdden
  • Ni ddylai hedfan dros neu fod o fewn pellter o 150m o gynulliad wedi’i drefnu yn yr awyr agored (h.y. digwyddiad)
  • Ni ddylai fod o fewn 50m o unrhyw gynhwysydd neu strwythur
  • Ni ddylai fod o fewn 30m i unrhyw berson ac eithrio wrth godi a glanio
  • Dylai perchnogion a gweithredwyr gael, lle bo angen, y gofynion trwyddedu perthnasol
  • Dylai gweithredwyr dalu sylw i unrhyw ofynion o dan y Ddeddf Diogelu Data ar gyfer casglu, defnyddio, dosbarthu a storio unrhyw luniau / ffilmiau
Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio dronau yn Eryri, cysylltwch ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol neu ewch i wefan yr Awdurdod Hedfan Sifil.

Cysylltu gyda’r Awdurdod
Gwefan yr Awdurdod Hedfan Sifil (Uniaith Saesneg)