Mae tirlun, cymunedau a threftadaeth Parc Cenedlaethol Eryri wedi bod yn ysbrydoliaeth i feirdd, llenorion, cerddorion ac artistiaid ers canrifoedd lawer ac yn parhau heddiw yn ysbrydoliaeth i’r diwydiannau creadigol.

O dirwedd garw a chreigiog, corsydd eang ac anial, mwynder a thawelwch llynnoedd a choedlannau, ynghyd ag afonydd ac aberoedd godidog, mae gan amrywiaeth tirwedd Eryri rhywbeth i’w gynnig i bob llygad.

Mae’r Awdurdod yn cydnabod pwysigrwydd prosiectau ffilmio neu dynnu ffotograffau yn Eryri. Nid yn unig y daw presenoldeb y diwydiannau hyn â manteision economaidd i’r ardal, ond mae’r cynhyrchiad terfynol yn codi ymwybyddiaeth cynulleidfa eang o rinweddau arbennig Eryri.

Yn wahanol i nifer o Barciau Cenedlaethol eraill yn y byd, perchnogion preifat yw’r rhan fwyaf o berchnogion tir ac eiddo ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Os ydych yn dymuno ffilmio neu dynnu lluniau proffesiynol neu fasnachol ar dir preifat, bydd angen i chi sicrhau caniatâd y perchennog yn gyntaf.

Lleoliad

Felly, os ydych yn dymuno ffilmio neu dynnu lluniau proffesiynol yn y Parc, dyma’r camau i chi eu dilyn.

Ydych chi’n gwybod lle hoffech chi ei ddefnyddio?

  • Fe gewch chi ffilmio ar unrhyw dir cyhoeddus sy’n cynnwys priffyrdd cyhoeddus. Fodd bynnag, os bydd eich gwaith yn tarfu mewn unrhyw ffordd ar y priffyrdd, gwnewch yn siŵr fod gennych ganiatâd yr awdurdodau priffyrdd perthnasol yn gyntaf. (manylion cyswllt yma)
  • Os ydych am ddefnyddio eiddo’r Awdurdod e.e. un o’n meysydd parcio i barcio cerbydau neu Gopa’r Wyddfa, bydd angen caniatâd yr Awdurdod i chi wneud hyn. (Mwy o fanylion isod)
  • Os ydych yn defnyddio ardal sydd wedi ei ddynodi am resymau arbennig, e.e. Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig neu Ardal Gadwraeth Arbennig, bydd angen i chi gael caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyntaf. (manylion cyswllt yma)

Y peth pwysicaf i’w gofio: Rhaid cael caniatâd y perchennog yn gyntaf. Bydd angen i chi ddod i gytundeb yn uniongyrchol gyda’r perchennog am unrhyw ffioedd sy’n ddyladwy.

Ydych chi’n chwilio am syniadau am leoliadau?

Gall Sgrin Cymru roi cymorth i chi ffeindio lleoliadau addas ar gyfer eich cynhyrchiad.

Arwyn Williams, Swyddog Sgrin Cymru
Ffôn: +44 (0) 300 025 2341
Symudol: +44 (0) 7786 271 680
Ebost: arwyn.williams31@llyw.cymru

Os ydych chi’n chwilio am fanylion perchnogion tir preifat o fewn ardal Parc Cenedlaethol Eryri, gallwch gael hyd iddynt ar wefan y Gofrestrfa Tir EM, sydd yn eich galluogi i chwilio am wybodaeth am eiddo yng Nghymru a Lloegr.

Cyn ffilmio sicrhewch eich bod wedi derbyn caniatâd  y perchenog tir.

Ffioedd ar gyfer ffilmio ar eiddo’r Awdurdod

  • Mae’r ffi yn dibynnu ar y math o gynhyrchiad a’r math o ddarlledwr. Fel arfer, byddwn yn codi ffi fesul diwrnod, a gofynnwn am gael ein digolledu os defnyddir unrhyw un o’n meysydd parcio.
  • Os oes angen aelod o staff ar leoliad oherwydd natur y cynhyrchiad, byddwn yn gofyn am ffi am ei amser. Byddwn hefyd yn gofyn am ffi os defnyddir amser aelod o’n staff i chwilio a threfnu lleoliad.
  • Gofynnwn yn garedig i chi brynu a ffynonellu eich bwyd yn lleol pan fyddwch yma ac i fynd â’ch sbwriel adref efo chi.

Os ydych yn gwybod eich bod eisiau ffilmio ar dir Yr Awdurdod, lawrlwythwch ein Ffurflen Gais am Gytundeb Lleoliad a’i yrru at eiddo@eryri.llyw.cymru

Os yw eich ymholiad yn ymwneud a ffilmio gyda aelod o staff neu un o brosiectau’r Awdurdod cysylltwch gyda Ioan Gwilym. Pennaeth Cyfathrebu ar ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru

Defnyddio dronau

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r rheoliadau defnyddio dronau yn y Parc Cenedlaethol i’w weld ar dudalen Defnyddio Dronau.

Defnyddio Dronau