Hunaniaeth Ddiwylliannol
Mae treftadaeth ddiwylliannol yn fras yn cynnwys nodweddion corfforol o bwys yn hanesyddol (statudol ac anstatudol ill dau), eu gosodiad a hefyd eu cymeriad hanesyddol a thirwedd yr ardal. Mae nodweddion allweddol yn cynnwys Henebion wedi eu Rhestru, Adeiladau Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth, Parciau Hanesyddol a Gerddi, a safleoedd sydd wedi eu rhestru ar y Cofnod Safleoedd a Henebion a gwaddodion archeolegol.
Nifer a Chyflwr Henebion wedi eu Rhestru
Rhestru yw’r broses lle mae safleoedd a henebion pwysig yn genedlaethol yn cael gwarchodaeth gyfreithiol trwy gael eu rhoi ar atodlen. Mae henebion yn cynnwys yr ystod gyfan o safleoedd archeolegol ac nid ydynt bob amser yn y golwg nac yn safleoedd sy’n bodoli uwch ben y ddaear. Mae Tabl 17 yn dangos y nifer o Henebion Rhestredig yng Nghymru ac yn Eryri gyda dosraniad Henebion wedi eu Rhestru yn y Parc Cenedlaethol yn cael eu dangos o dan Ffigwr 14.
Nifer yr Henebion wedi eu Rhestru
Cymru: 4,183
Eryri: 374
Mae’r tabl isod yn dangos beth yw cyflwr yr Henebion wedi eu Rhestru yn y Parc Cenedlaethol. Er nad yw’r holl Henebion wedi eu Rhestru yn y Parc Cenedlaethol yn cael eu hasesu o ran eu cyflwr, ystyriwyd fod dros 97% mewn cyflwr ‘sefydlog’. Credir fod y dirywiad yn y safleoedd eraill wedi digwydd yn bennaf yn sgil dirywiad naturiol, erydu gan dda byw, gweithrediadau amaethyddol, ymwelwyr a gordyfiant a llystyfiant.
Cyflwr Henebion wedi eu Rhestru (1996 – 2003)
Canran mewn cyflwr “Wedi gwella”: 1.55%
anran mewn cyflwr “Sefydlog”: 97.2%
Canran mewn cyflwr “Wedi gwaethygu”: 1.25%
Ffynhonnell: Cadw
Uchod: Safleoedd SAM fewn Parc Cenedlaethol Eryri
Yr Amgylchedd Adeiledig
Adeiladau Rhestredig
Mae’r broses restru yn sicrhau bod adeiladau o ‘ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig’ yn cael eu rhoi ar restr ac yn cael eu diogelu’n statudol. Mae’r nifer a graddfa’r Adeiladau Rhestredig yn Eryri yn cael ei ddangos isod. Mae Cadw wrthi yn ail-arolygu ardaloedd Cynghorau Cymuned o fewn y Parc Cenedlaethol. Mae chwe ardal yn parhau i gael eu harolygu a disgwylir i nifer yr Adeiladau Rhestredig godi i tua 1900.
Adeiladau ‘Mewn Perygl’
Mae adeiladau ‘Mewn Perygl’ yn cael eu diffinio fel rhai Rhestredig, neu adeiladau traddodiadol gyda theilyngdod pensaernïol pwysig, sydd dan fygythiad. Mae nifer yr adeiladau ar y gofrestr a gedwir gan yr Awdurdod yn amrywio fel mae’r adeiladau yn cael eu hatgyweirio ac yn cael eu tynnu oddi ar y gofrestr ac arolygon yn dangos adeiladau pellach sydd mewn perygl.
Ardaloedd Cadwraeth
Mae Ardaloedd Cadwraeth yn ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, ac mae eu cymeriad neu eu hymddangosiad o fath sy’n ddymunol i’w cadw. Maent yn ddynodiad statudol ac maent yn helpu i sicrhau rheolaeth bositif o’r adeiladau sydd ynddynt a’u cymeriad.
Mae pedwar ar ddeg o Ardaloedd Cadwraeth yn Eryri. Y rhain yw
- Betws y Coed
- Beddgelert
- Nantmor
- Dolbenmaen
- Maentwrog
- Y Bala
- Harlech
- Dolgellau
- Abaty Cymer
- Pant y Rodyn
- Aberdyfi
- Abergwyngregyn
- Llanllechid
- Nant Peris
(Ffynhonnell : Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, 2005).
Meysydd Rhyfela Hanesyddol
Does dim o’r rhain yn y Parc Cenedlaethol.
Sgiliau a Phroffil Yr Iaith Gymraeg
Mae data cyfrifiad diweddaraf yn dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru wedi gostwng rhwng 2001 a 2011. Ym 1911 roedd y ffigur ar gyfer y nifer o bobl a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn agos at filiwn. Gostyngodd y ffigur yn ystod yr ugeinfed ganrif nes cyrraedd isafbwynt o 504,000 ym 1981. Bu cynnydd bach yn nifer y siaradwyr Cymraeg rhwng 1981 a 2001 cyn gostwng eto, er bod ffigur 2011 yn fwy na 1991.
Sgiliau Yr Iaith Gymraeg
Dim sgiliau Cymraeg
Gwir Nifer: 8,104
APCE Cyfrifiad 2011: 32.5%
APCE Cyfrifiad 2011: 30.2%
Cymru Cyfrifiad 2011: 73.3%
Cymru Cyfrifiad 2011: 71.6%
Yn deall y Gymraeg ar lafar yn unig
Gwir Nifer: 1,861
APCE Cyfrifiad 2011: 7.5%
APCE Cyfrifiad 2011: 6.1%
Cymru Cyfrifiad 2011: 5.3%
Cymru Cyfrifiad 2011: 4.9%
Yn gallu siarad Cymraeg
Gwir Nifer: 14,626
APCE Cyfrifiad 2011: 58.6%
APCE Cyfrifiad 2011: 62.1%
Cymru Cyfrifiad 2011: 19.0%
Cymru Cyfrifiad 2011: 20.5%
Yn gallu siarad Cymraeg ond ddim yn gallu darllen nac ysgrifennu Cymraeg
Gwir Nifer: 1,334
APCE Cyfrifiad 2011: 5.3%
APCE Cyfrifiad 2011: 5.3%
Cymru Cyfrifiad 2011: 2.7%
Cymru Cyfrifiad 2011: 2.8%
Yn gallu siarad a darllen Cymraeg ond ddim yn gallu ysgrifennu Cymraeg
Gwir Nifer: 834
APCE Cyfrifiad 2011: 3.3%
APCE Cyfrifiad 2011: 2.3%
Cymru Cyfrifiad 2011: 1.5%
Cymru Cyfrifiad 2011: 1.4%
Yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg
Gwir Nifer: 12,413
APCE Cyfrifiad 2011: 49.7%
APCE Cyfrifiad 2011: 54.5%
Cymru Cyfrifiad 2011: 14.6%
Cymru Cyfrifiad 2011: 16.3%
Cyfuniad o sgiliau Cymraeg eraill
Gwir Nifer: 413
APCE Cyfrifiad 2011: 1.7%
APCE Cyfrifiad 2011: 1.6%
Cymru Cyfrifiad 2011: 12.5%
Cymru Cyfrifiad 2011: 3%
Mae’r newid yn y siaradwyr Cymraeg yn y Parc Cenedlaethol yn gyson â’r duedd a welwyd ar y lefel genedlaethol. Bu gostyngiad o 3.5% yn y nifer o bobl a allai siarad yr iaith rhwng 2001 a 2011. Mae’r canran o ostyngiad yn fwy na’r cyfartaledd cenedlaethol o 2%. Bu newid sylweddol yng nghanran y bobl a allai siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg, gyda gostyngiad o 4.8%. Roedd cynnydd o 2.3% yng nghanran y bobl heb unrhyw sgiliau yn yr iaith Gymraeg o fewn Eryri.
Rhwng 2001 a 2011 er y bu cynnydd yn y nifer o blant (3-4) ac oedolion (20-44) oedd yn gallu siarad Cymraeg ar y lefel genedlaethol, bu gostyngiad ym mhob grŵp oedran arall. Roedd gostyngiad yn y nifer o bobl dros 3 oed oedd yn gallu siarad Cymraeg ym mron pob awdurdod lleol, gyda’r gostyngiadau mwyaf wedi digwydd mewn ardaloedd sydd â thraddodiad o lefel uchel o siaradwyr Cymraeg.
Mae yna nifer o resymau posibl dros y gostyngiad hwn. Ar lefel genedlaethol, bu nifer o newidiadau demograffig dros y blynyddoedd; newidiadau sydd hefyd yn berthnasol i lefel Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r rhesymau dros y newidiadau hyn yn cynnwys:
- llai o blant ifanc
- cynnydd mewn mewnfudo, o blith oedolion hŷn di-Gymraeg
- colli siaradwyr Cymraeg hŷn
- mfudo i rannau eraill o’r DU a
- hai wedi colli eu sgiliau iaith Gymraeg rhwng y ddau gyfrifiad (ee rhai a nododd bod ganddynt sgiliau yn y Gymraeg yn 2001, heb eu nodi yn 2011).
Ffynhonnell: Bwletin Ystadegol Llywodraeth Cymru