Gwerthoedd Craidd
Yma yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri mae ein gwerthoedd yn diffinio pwy ydym ni a’r ffyrdd yr ydym yn cydweithio i warchod y tirweddau arbennig. Mae nhw’n llywio ein gweithredoedd, ysbrydoli ein ymrwymiad ac yn siapio’r ffyrdd yr ydym yn cefnogi ein gilydd er mwyn gwneud ein gorau dros Eryri.

Anelu
“Rydym yn ymdrechu am ragoriaeth a rhoi ein gorau dros Eryri drwy gefnogi ein gilydd pob cam o’r ffordd”.

Parchu
“Rydym yn annog i gyflawni ein gorau trwy greu amgylchedd cynhwysol o ddealltwriaeth a chydweithio”.

Cymreictod
“Rydym yn falch o'r iaith Gymraeg a rhinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol. Rydym yn eu gwarchod a gwella ar gyfer cenhedlaethau’r dyfodol”.

Egni
“Rydym yn weithlu egniol, yn unfrydol wrth wynebu heriau trwy gyfathrebu’n bositif a phroffesiynol gyda’n gilydd”.