Mae Cadw yn gwahodd ceisiadau ar gyfer y Rhaglen Grant Cyfalaf Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Adeiladau Hanesyddol 2022-23.

Mae’r manylion ar wefan Cadw yn Grant Adeiladau Hanesyddol (cadw.llyw.cymru)

Mae asedau cymunedol sydd wedi’u rhestru oherwydd eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yn gwneud cyfraniad pwysig at les a bywiogrwydd cymunedau ledled Cymru. Mae eu hyfywdra a’u cadernid wrth i ni wynebu heriau’r newid yn yr hinsawdd yn cael ei danategu gan waith atgyweirio a chynnal a chadw rheolaidd. Felly, bwriad Rhaglen Grant Cyfalaf Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Adeiladau Hanesyddol 2022/23 yw cynnig cymorth ariannol tuag at gynnal a chadw ac atgyweirio asedau cymunedol hanesyddol, fel neuaddau pentref a chymunedol, sefydliadau, llyfrgelloedd, cofebion rhyfel ac addoldai sydd ar gael i’r gymuned ehangach eu defnyddio.

Mae grant o 75% o gost gwaith sy’n gymwys am grant, hyd at uchafswm o £25,000 yr eiddo, ar gael ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio bach amrywiol sy’n angenrheidiol i gadw asedau cymunedol mewn cyflwr da, fel:

  • glanhau cwteri dŵr glaw, cafnau a phibelli
  • atgyweirio neu newid rhannau o gafnau dŵr ac ati sydd wedi’u difrodi, mân atgyweiriadau i’r to, llechi/teils/cribau rhydd ac ati;
  • atgyweirio/adnewyddu gwaith plwm/caeadau plwm;
  • gwaith ailadeiladu bach, e.e. cyrn simnai/parapetau;
  • atgyweirio neu ailbwyntio ardaloedd bach o waith maen;
  • atgyweirio ac ailaddurno gwaith coed;
  • atgyweirio gwydr ffenestri/drysau;
  • atgyweirio gwaith plastro;
  • atgyweirio waliau a rheiliau ffin;

Dylai’r gwaith gael ei wneud gan gontractwr gyda sgiliau cadwraeth / profiad o adeiladau hanesyddol ac yn dibynnu ar gymhlethdod y gwaith, dylai gael ei nodi gan bensaer neu syrfëwr siartredig sydd wedi’i achredu i wneud gwaith cadwraeth.