Bwriad y Gronfa Llesiant Cymunedol yw cynorthwyo pobl sy’n byw o fewn y Parc Cenedlaethol i ddechrau prosiectau fydd o fudd i’w cymunedau a’u hamgylchedd lleol. Bydd unrhyw brosiectau sy’n gwella’r amgylchedd neu’r gymuned leol ac yn cwrdd â nod ac amcanion Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gymwys i’w hariannu. Cefnogir yn benodol y prosiectau hynny sy’n ceisio cynnwys meini prawf cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol Awdurdod y Parc Cenedlaethol mewn ffyrdd y gellir arddangos eu bod yn gynaladwy.

Amodau Ariannu

  • Mae’n rhaid i’r prosiectau fod wedi’u lleoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri
  • Dylai prosiectau geisio defnyddio deunyddiau a chynnyrch lleol pan fo hynny’n bosibl
  • Dylai prosiectau gael y caniatâd cynllunio perthnasol; pan fo hynny’n angenrheidiol
  • Dylid dangos ymrwymiad i hyfywedd hir dymor y cynllun trwy gyfrwng rheolaeth a chynnal a chadw
  • Rhoddir ystyriaeth arbennig i geisiadau sy’n dangos amcanion a chanlyniadau iechyd a lles.

Pwy all ymgeisio?

Gall cynghorau cymuned, grwpiau gwirfoddol, grwpiau ieuenctid, grwpiau merched (Sefydliad y Merched, Merched y Wawr) ac ysgolion wneud cais. Nid yw unigolion, busnesau na chyrff statudol yn gymwys i ymgeisio.

Bydd y grant a ddyfernir rhwng £100 a £500 fel rheol ac ni fydd yn fwy na 50% o gyfanswm costau’r prosiect. Gall 50% o gyfran y prosiect gynnwys llafur gwirfoddolwyr a amcangyfrifir gyda chyfradd costau o £8.21 yr awr o ran dibenion y grant.

Nodiadau Arweiniol: Cronfa Llesiant Cymunedol (PDF, 141 KB)
Ffurflen Gais: Cronfa Llesiant Cymunedol (Microsoft Word, 76 KB)

Rhagor o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag:

Etta Trumper
Swyddog Gwirfoddoli a Lles, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Swyddfa’r Parc Cenedlaethol
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6LF

Ffôn: 01766 772215
Ebost: etta.trumper@eryri.llyw.cymru