Bwriad y Gronfa Llesiant Cymunedol yw cynorthwyo pobl sy’n byw o fewn y Parc Cenedlaethol i ddechrau prosiectau fydd o fudd i’w cymunedau a’u hamgylchedd lleol. Bydd unrhyw brosiectau sy’n gwella’r amgylchedd neu’r gymuned leol ac yn cwrdd â nod ac amcanion Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gymwys i’w hariannu. Cefnogir yn benodol y prosiectau hynny sy’n ceisio cynnwys meini prawf cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol Awdurdod y Parc Cenedlaethol mewn ffyrdd y gellir arddangos eu bod yn gynaladwy.
Amodau Ariannu
- Mae’n rhaid i’r prosiectau fod wedi’u lleoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri
- Dylai prosiectau geisio defnyddio deunyddiau a chynnyrch lleol pan fo hynny’n bosibl
- Dylai prosiectau gael y caniatâd cynllunio perthnasol; pan fo hynny’n angenrheidiol
- Dylid dangos ymrwymiad i hyfywedd hir dymor y cynllun trwy gyfrwng rheolaeth a chynnal a chadw
- Rhoddir ystyriaeth arbennig i geisiadau sy’n dangos amcanion a chanlyniadau iechyd a lles.
Pwy all ymgeisio?
Gall cynghorau cymuned, grwpiau gwirfoddol, grwpiau ieuenctid, grwpiau merched (Sefydliad y Merched, Merched y Wawr) ac ysgolion wneud cais. Nid yw unigolion, busnesau na chyrff statudol yn gymwys i ymgeisio.
Bydd y grant a ddyfernir rhwng £100 a £500 fel rheol ac ni fydd yn fwy na 50% o gyfanswm costau’r prosiect. Gall 50% o gyfran y prosiect gynnwys llafur gwirfoddolwyr a amcangyfrifir gyda chyfradd costau o £8.21 yr awr o ran dibenion y grant.
Nodiadau Arweiniol: Cronfa Llesiant Cymunedol (PDF, 141 KB)
Ffurflen Gais: Cronfa Llesiant Cymunedol (Microsoft Word, 76 KB)
Rhagor o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag:
Etta Trumper
Swyddog Gwirfoddoli a Lles, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Swyddfa’r Parc Cenedlaethol
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6LF
Ffôn: 01766 772215
Ebost: cronfa.llesiant@eryri.llyw.cymru