Cymunedau Eryri, Cymunedau Cydnerth
Ysbrydoli, Cefnogi, Mentro

Am y gronfa

Mae Cronfa Cymunedau Eryri yn gronfa fydd yn ymateb i gynorthwyo cymunedau o fewn ac o amgylch Eryri i gynnal a gwella ansawdd bywyd preswylwyr ac adeiladu cymunedau cydnerth.

Sefydlwyd y gronfa drwy gytundeb rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Llywodraeth Cymru. Yr Awdurdod fydd yn gweinyddu’r gronfa.

Mae’r gronfa yn benodol ar gyfer prosiectau cyfalaf yn unig, gyda cyfanswm o £75,000 ar gael yn y flwyddyn ariannol 2024/25. Bydd y gronfa gyfalaf ar gael i gymunedau lleol a grwpiau/cymdeithasau gwirfoddol at ddibenion cydnerthedd economaidd-gymdeithasol ar gyfer prosiectau rhwng £5,000–£20,000.

Dylai ceisiadau flaenoriaethu’r themâu canlynol,

  • seilwaith gwyrdd
  • gwell mynediad at hamdden ar gyfer iechyd a lles
  • cynhyrchu ynni
  • gwelliannau amgylcheddol lleol megis rheoli sbwriel a gwastraff
  • datblygu cymunedol
  • ffyniant yr iaith Gymraeg
  • Datgarboneiddio

Ceisiadau

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 2024/2025 fydd 13 Mai 2024. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nogfen amodau’r grant neu gallwch gysylltu gyda Swyddog Cronfa Cymunedau Eryri ar e-bost cronfacymunedaueryri@eryri.llyw.cymru.

Canllawiau Cronfa Cymunedau Eryri

Lawrlwytho Ffurflen Gais

Cydlyniant Cymunedol

Un o rinweddau arbenning Parc Cenedlaethol Eryri yw yr ymdeimlad cadarn o gydlyniant cymunedol, a bywiogrwydd sy’n cyfuno i roi ymdeimlad cryf o le.

Un o rinweddau arbenning Parc Cenedlaethol Eryri yw yr ymdeimlad cadarn o gydlyniant cymunedol, a bywiogrwydd sy’n cyfuno i roi ymdeimlad cryf o le.

Mae ein cymunedau wedi cael eu ffurfio a’u siapio gan eu hamgylchedd gwydn a hardd. Ein gobaith yw i gryfhau hunaniaeth ein cymunedau a bwriad Cronfa Cymunedau Eryri yw i gyfrannu tuag at hyn drwy gefnogi prosiectau bydd yn buddio cymuedau Eryri.

Canlyniadau allweddol cysylltiedig o Gynllun Eryri:

  • bod iaith, diwylliant a threftadaeth Eryri yn cael eu dathlu, eu cefnogi a’u cryfhau.
  • cefnogir cymunedau lleol i ffynnu ym mhob agwedd ar lesiant

Rhagor o wybodaeth am ganlyniadau Cynllun Eryri

Prosiectau llwyddiannus y gorffennol

Cynlluniwyd a chynhyrchwyd arwyddion newydd i’w gosod yn Tŷ Hyll gyda’r nod o ymgysylltu trigolion lleol ac ymwelwyr â’r Tŷ Hyll – yr hanes lleol, treftadaeth, tirwedd ac yr iaith yn y rhan unigryw hon o Eryri.

Nod y prosiect hwn oedd cyflwyno negeseuon allweddol, dwyieithog i ymwelwyr am barchu a gofalu am y cynefinoedd a’r tirweddau ar draws y Parc Cenedlaethol. Mae’r arwyddion yn rhan bwysig o waith Cymdeithas Eryri fel ymateb i’r pandemig Covid a’r pwysau o ymwelwyr cynyddol ar y Parc Cenedlaethol. Fel rhan o’r gwaith ar y prosiect partneriaeth Caru Eryri, adnabuwyd angen i gynyddu ymwybyddiaeth a pharch ymwelwyr o’r ardal, ei chymunedau a’i rhinweddau arbennig. Bydd yr arwyddion hyn yn cyfrannu at y gwaith codi ymwybyddiaeth hwn mewn lleoliad poblogaidd ac enwog o fewn y Parc.

https://awdurdod.eryri.llyw.cymru/wp-content/uploads/2023/04/cce-ty-hyll.jpg

Mae Y Ganolfan Abergynolwyn yn elusen sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr. Mae’n ganolbwynt i gymuned Abergynolwyn gyda grwpiau’n cyfarfod bob wythnos, y band pres a’r côr yn ymarfer yn y neuadd, nosweithiau cwis, sgitls a chyngherddau.

Mae gan Abergynolwyn ganran uchel o drigolion oedrannus ac felly prif nod y prosiect hwn oedd caniatáu mynediad i neuadd bentref Abergynolwyn i rai â symudedd cyfyngedig. Roedd y botymau agor awtomatig wedi torri rhai blynyddoedd yn ôl, ac nid oeddent yn ddigon da i basio safonau modern.

Yn ogystal â chael caffi a chanolfan ar gyfer y gymuned, mae gan Y Ganolfan arddangosfa fawr o ffotograffau hanesyddol o Abergynolwyn a’r cyffiniau a’r chwarel lechi, ac yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr i’r ardal.

Gyda grant gan Dîm Cronfa Cymunedol Eryi mae’r drysau bellach wedi eu trwsio ac yn gwbl weithredol. Mae diweddaru a moderneiddio’r mynediad i’r neuadd wedi bod yn brosiect bach sydd wedi cael effaith fawr ar wneud neuadd y pentref yn hygyrch i bawb.

https://awdurdod.eryri.llyw.cymru/wp-content/uploads/2023/04/cce-y-ganolfan.jpg

Prif bwrpas y prosiect oedd ymateb i sefyllfa Covid 19 ac ail feddwl yn sylfaenol am y dull o gynnal cyfarfodydd cymdeithasol, ac i wneud hyn trwy wneud y gorau o dechnoleg i gyflawni’r newidiadau.

Roedd yna angen i ail gynllunio cyfleusterau’r Neuadd Bentref yn llwyr, fel bo modd cynnal cyfarfodydd a digwyddiadau mewn aml gyfrwng, a thrigolion yr ardal yn cael y dewis o fynychu’r digwyddiad yn y neuadd neu ymuno ar sgrin o gartref. Gwelwyd yr angen hefyd i gael cyfleusterau o safon uchel (offer sain a goleuadau ayyb) er mwyn galluogi perfformiadau byw gan gwmnïau drama a bandiau.

Mae’r prosiect wedi gwireddu ei amcanion o brynu a gosod sustemau sain a golau, sustem loop ar gyfer y trwm eu clyw, a sgriniau teledu mawr ar gyfer cyfarfodydd rhithiol. Mae’r offer wedi ei osod a’r defnydd ohono wedi cychwyn. Mae’r manteision i’w gweld yn barod gydag Eisteddfodau yn cael eu cynnal yn y neuadd a chyfarfodydd hybrid y Cyngor Cymuned wedi cychwyn.

Mae’r prosiect a’r cyfleusterau newydd o fudd i:

  • Bobl ynysig sydd wedi colli hyder i gymdeithasu dros gyfnod Covid‐19.
  • Bobl hŷn neu fregus fydd yn manteisio o ymuno mewn cyfarfodydd ‘hybrid’.
  • Fudiadau fydd yn medru cadw mewn cysylltiad â’u haelodau mewn cyfnod anodd, ac o bosibl ehangu eu hapêl i gynulleidfa ehangach.
  • Berfformwyr – cwmnïau drama, bandiau a chorau etc fydd yn manteisio ar y dechnoleg newydd.

Prif bwrpas y grant oedd i dderbyn cyfraniad tuag at brynu adeilad yr hen Spar ar Stryd Fawr Bethesda i’w adnewyddu fel canolfan fanwerthu, bwyty a chanolfan dreftadaeth.

Fel rhan o’r prosiect ehangach, mae cynllun bws gwennol trydan i gasglu twristiaid o Ganolfan yr Hen Bost i’w cario i Lyn Ogwen ac yn ôl. Mae hyn yn rhan o’r weledigaeth o greu twristiaeth gynaliadwy yn y Dyffryn yn ogystal â gwasanaeth llogi beiciau trydan Beics Ogwen o’r ganolfan gan roi opsiynau teithio llesol a chynaliadwy i dwristiaid a phobl leol.

Mae’r prosiect hwn o fudd mawr i Ddyffryn Ogwen ar sawl lefel:

  • Bydd y ganolfan newydd yn gwella cynnig twristaidd Bethesda a’r cynnig i bobl leol
  • Bydd y ganolfan newydd yn cynnig unedau gweithdy/stiwdio i grefftwyr lleol a gofod amlbwrpas i gynnal gweithdai hyfforddiant. Bydd y ganolfan newydd felly’n cyfrannu tuag at atgyfnerthu’r economi leol yn y Dyffryn.
  • Bydd y ganolfan newydd hefyd yn atgyfnerthu’r iaith a diwylliant gyda ffocws ar ddatblygu canolfan dreftadaeth leol
https://awdurdod.eryri.llyw.cymru/wp-content/uploads/2023/04/cce-ogwen.jpg

Llwyddodd Cyngor Cymuned Bro Machno i sicrhau grant trwy Gronfa Cymunedau Eryri er mwyn gwella seilwaith cymunedol. Gyda ffocws ar hygyrchedd a chyfleustra technolegol, mae’r grant wedi hwyluso trawsnewid toiledau cyhoeddus ac yn hybu cysylltedd yn yr ardal.

Agwedd allweddol o’r prosiect oedd uwchraddio cyfleusterau toiledau cyhoeddus y pentref i sicrhau cynhwysiant i holl aelodau’r gymuned. Mae gosod pwyntiau mynediad RADAR yn rhoi darpariaeth i unigolion ag anableddau, yn ogystal â hyrwyddo hygyrchedd. Hefyd, mae integreiddio dulliau talu digyswllt, gan gynnwys cerdyn ac Apple Pay, yn symleiddio’r broses, ac yn cynnig cyfleustra i drigolion ac ymwelwyr. Mae’r dyraniad grant hefyd wedi ymestyn i wella cysylltedd digidol o fewn y gymuned.

https://awdurdod.eryri.llyw.cymru/wp-content/uploads/2024/03/20231104_125939-scaled.jpg

Mae Cronfa Cymunedau Eryri wedi darparu cyllid hanfodol yn ddiweddar ar gyfer gosod paneli solar ar do Clwb Golff Y Bala. Mae’r datblygiad arwyddocaol hwn nid yn unig yn amlygu ymrwymiad y clwb i gynaladwyedd ond hefyd yn dod â manteision niferus i’r gymuned wledig y mae’n ei gwasanaethu.

Mewn ardal wledig fel hon, mae mannau cymunedol fel clybiau golff yn chwarae rhan hanfodol wrth feithrin cysylltiadau cymdeithasol a darparu cyfleoedd hamdden. Mae’r prosiect yma yn sicrhau y gall y clwb barhau i weithredu gan gynnig lle i drigolion ymgynnull a mwynhau gweithgareddau awyr agored.

Bydd gosod paneli solar ar do’r clwb yn cael effaith sylweddol ar ddefnydd ynni’r clwb golff a’r costau cysylltiedig. Trwy harneisio pŵer yr haul, bydd y clwb yn lleihau ei ddibyniaeth ar ffynonellau ynni traddodiadol yn sylweddol, gan arwain at arbedion ar filiau ynni. Yna gellir ail-fuddsoddi’r arbedion hyn i gynnal cyfleusterau’r clwb, gan wella’r profiad cyffredinol i aelodau ac ymwelwyr.

https://awdurdod.eryri.llyw.cymru/wp-content/uploads/2024/03/Clwb-Golff-Bala.jpg