Am y gronfa
Mae Cronfa Cymunedau Eryri yn gronfa fydd yn ymateb i gynorthwyo cymunedau o fewn ac o amgylch Eryri i gynnal a gwella ansawdd bywyd preswylwyr ac adeiladu cymunedau cydnerth.
Sefydlwyd y gronfa drwy gytundeb rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Llywodraeth Cymru. Yr Awdurdod fydd yn gweinyddu’r gronfa.
Mae’r gronfa yn benodol ar gyfer prosiectau cyfalaf yn unig, gyda cyfanswm o £75,000 ar gael yn y flwyddyn ariannol 2024/25. Bydd y gronfa gyfalaf ar gael i gymunedau lleol a grwpiau/cymdeithasau gwirfoddol at ddibenion cydnerthedd economaidd-gymdeithasol ar gyfer prosiectau rhwng £5,000–£20,000.
Dylai ceisiadau flaenoriaethu’r themâu canlynol,
- seilwaith gwyrdd
- gwell mynediad at hamdden ar gyfer iechyd a lles
- cynhyrchu ynni
- gwelliannau amgylcheddol lleol megis rheoli sbwriel a gwastraff
- datblygu cymunedol
- ffyniant yr iaith Gymraeg
- datgarboneiddio
Ceisiadau
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 2024/2025 oedd 13 Mai 2024.
Prif bwrpas y prosiect oedd ymateb i sefyllfa Covid 19 ac ail feddwl yn sylfaenol am y dull o gynnal cyfarfodydd cymdeithasol, ac i wneud hyn trwy wneud y gorau o dechnoleg i gyflawni’r newidiadau.
Roedd yna angen i ail gynllunio cyfleusterau’r Neuadd Bentref yn llwyr, fel bo modd cynnal cyfarfodydd a digwyddiadau mewn aml gyfrwng, a thrigolion yr ardal yn cael y dewis o fynychu’r digwyddiad yn y neuadd neu ymuno ar sgrin o gartref. Gwelwyd yr angen hefyd i gael cyfleusterau o safon uchel (offer sain a goleuadau ayyb) er mwyn galluogi perfformiadau byw gan gwmnïau drama a bandiau.
Mae’r prosiect wedi gwireddu ei amcanion o brynu a gosod sustemau sain a golau, sustem loop ar gyfer y trwm eu clyw, a sgriniau teledu mawr ar gyfer cyfarfodydd rhithiol. Mae’r offer wedi ei osod a’r defnydd ohono wedi cychwyn. Mae’r manteision i’w gweld yn barod gydag Eisteddfodau yn cael eu cynnal yn y neuadd a chyfarfodydd hybrid y Cyngor Cymuned wedi cychwyn.
Mae’r prosiect a’r cyfleusterau newydd o fudd i:
- Bobl ynysig sydd wedi colli hyder i gymdeithasu dros gyfnod Covid‐19.
- Bobl hŷn neu fregus fydd yn manteisio o ymuno mewn cyfarfodydd ‘hybrid’.
- Fudiadau fydd yn medru cadw mewn cysylltiad â’u haelodau mewn cyfnod anodd, ac o bosibl ehangu eu hapêl i gynulleidfa ehangach.
- Berfformwyr – cwmnïau drama, bandiau a chorau etc fydd yn manteisio ar y dechnoleg newydd.
Prif bwrpas y grant oedd i dderbyn cyfraniad tuag at brynu adeilad yr hen Spar ar Stryd Fawr Bethesda i’w adnewyddu fel canolfan fanwerthu, bwyty a chanolfan dreftadaeth.
Fel rhan o’r prosiect ehangach, mae cynllun bws gwennol trydan i gasglu twristiaid o Ganolfan yr Hen Bost i’w cario i Lyn Ogwen ac yn ôl. Mae hyn yn rhan o’r weledigaeth o greu twristiaeth gynaliadwy yn y Dyffryn yn ogystal â gwasanaeth llogi beiciau trydan Beics Ogwen o’r ganolfan gan roi opsiynau teithio llesol a chynaliadwy i dwristiaid a phobl leol.
Mae’r prosiect hwn o fudd mawr i Ddyffryn Ogwen ar sawl lefel:
- Bydd y ganolfan newydd yn gwella cynnig twristaidd Bethesda a’r cynnig i bobl leol
- Bydd y ganolfan newydd yn cynnig unedau gweithdy/stiwdio i grefftwyr lleol a gofod amlbwrpas i gynnal gweithdai hyfforddiant. Bydd y ganolfan newydd felly’n cyfrannu tuag at atgyfnerthu’r economi leol yn y Dyffryn.
- Bydd y ganolfan newydd hefyd yn atgyfnerthu’r iaith a diwylliant gyda ffocws ar ddatblygu canolfan dreftadaeth leol

Llwyddodd Cyngor Cymuned Bro Machno i sicrhau grant trwy Gronfa Cymunedau Eryri er mwyn gwella seilwaith cymunedol. Gyda ffocws ar hygyrchedd a chyfleustra technolegol, mae’r grant wedi hwyluso trawsnewid toiledau cyhoeddus ac yn hybu cysylltedd yn yr ardal.
Agwedd allweddol o’r prosiect oedd uwchraddio cyfleusterau toiledau cyhoeddus y pentref i sicrhau cynhwysiant i holl aelodau’r gymuned. Mae gosod pwyntiau mynediad RADAR yn rhoi darpariaeth i unigolion ag anableddau, yn ogystal â hyrwyddo hygyrchedd. Hefyd, mae integreiddio dulliau talu digyswllt, gan gynnwys cerdyn ac Apple Pay, yn symleiddio’r broses, ac yn cynnig cyfleustra i drigolion ac ymwelwyr. Mae’r dyraniad grant hefyd wedi ymestyn i wella cysylltedd digidol o fewn y gymuned.

Mae Cronfa Cymunedau Eryri wedi darparu cyllid hanfodol yn ddiweddar ar gyfer gosod paneli solar ar do Clwb Golff Y Bala. Mae’r datblygiad arwyddocaol hwn nid yn unig yn amlygu ymrwymiad y clwb i gynaladwyedd ond hefyd yn dod â manteision niferus i’r gymuned wledig y mae’n ei gwasanaethu.
Mewn ardal wledig fel hon, mae mannau cymunedol fel clybiau golff yn chwarae rhan hanfodol wrth feithrin cysylltiadau cymdeithasol a darparu cyfleoedd hamdden. Mae’r prosiect yma yn sicrhau y gall y clwb barhau i weithredu gan gynnig lle i drigolion ymgynnull a mwynhau gweithgareddau awyr agored.
Bydd gosod paneli solar ar do’r clwb yn cael effaith sylweddol ar ddefnydd ynni’r clwb golff a’r costau cysylltiedig. Trwy harneisio pŵer yr haul, bydd y clwb yn lleihau ei ddibyniaeth ar ffynonellau ynni traddodiadol yn sylweddol, gan arwain at arbedion ar filiau ynni. Yna gellir ail-fuddsoddi’r arbedion hyn i gynnal cyfleusterau’r clwb, gan wella’r profiad cyffredinol i aelodau ac ymwelwyr.

Cymdeithas Enweirio Prysor (PAA)
Nod y cynllun oedd adfywio Canolfan Prysor sef yr hen glwb cymdeithasol ar lan Llyn Trawsfynydd.
Adnewyddwyd yr adeilad yn sylweddol gan gynnwys to newydd i ran o’r adeilad a gosod paneli solar 50kW ar y to.
Mi oedd y gost ariannol ac amgylcheddol o ddefnydd helaeth y ganolfan o ynni ffosil yn uchel felly mi oedd gosod paneli solar ar do sy’n wynebu’r de yn gwneud synnwyr perffaith. Mae hyn wedi galluogi’r Ganolfan i ostwng eu hôl troed carbon o 8 tunnell.

Menter Gymunedol Llanuwchllyn
Drwy gefnogaeth Cronfa Cymunedau Eryri 2024-25, gosodwyd cyfanswm o 31 panel a batri, ac mae’r system yn gallu cynhyrchu hyd at 13.795KW.
Mae defnydd yr Eagles o drydan yn uchel oherwydd yr holl offer trydanol sydd ar y safle, ac mae gosod y paneli yma yn allweddol i leihau’r ddibyniaeth ar drydan o’r grid.
Mi fydd hyn yn arwain at leihau ôl troed carbon yr adeilad, ac yn arbed costau sylweddol ar yr un pryd, gan wneud yr adeilad yn fwy cynaliadwy ymhob ystyr.
Mae’r gwaith wedi codi ansawdd yr adeilad, ac wedi codi hyder y pwyllgor, gan arwain at brosiectau eraill o fewn y dafarn a’r gymuned ehangach. Mae’r cynllun hefyd wedi arwain at gynyddu cydlyniant cymunedol trwy ddod a phobl at ei gilydd i ddatblygu’r prosiect, ac yna trwy wella adnodd cymunedol yr Eagles – yn dod a phobl at ei gilydd i gymdeithasu, boed hynny yn y dafarn, yn y siop, neu’r tŷ bwyta.
