Pam Gwirfoddoli?

Mae’r Wardeiniaid Gwirfoddol yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy trwy gynorthwyo Gwasanaeth Wardeiniaid y Parc Cenedlaethol gyda thasgau fel cynghori a darparu gwybodaeth i ymwelwyr, casglu sbwriel a chynnal a chadw llwybrau.

Bydd Wardeiniaid Gwirfoddol yn elwa o:

  • Gyfle i fod yn rhan o dîm a chwrdd â phobl newydd.
  • Gwella’u profiad o fynydda.
  • Gwella’u sgiliau Cymraeg trwy ein cynllun ‘bydi’.
  • Amrywiaeth o gyrsiau a theithiau cerdded gydag arbenigwyr lleol e.e. Cymorth Cyntaf, Hanes Lleol a Daeareg yn Eryri.
  • Profiad arbennig all gynorthwyo i sicrhau cyflogaeth yn y dyfodol.
  • Gwella’u gwybodaeth a phrofiad o reolaeth cefn gwlad.
  • Cyfle i gyfrannu i ddyfodol cynaliadwy Eryri.
Wardeiniaid Gwirfoddol Yr Wyddfa

Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar lwybrau’r Wyddfa, gan roi blaenoriaeth i’r llwybrau mwyaf prysur- Llwybr Llanberis, Pyg a’r Mwynwyr. Am wybodaeth bellach am y cynllun cysylltwch ag Alun, warden Yr Wyddfa alun.jones@eryri.llyw.cymru

Wardeiniaid Gwirfoddol De Eryri

Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar ardaloedd yn Ne Eryri sydd yn cynnwys y llwybrau prysuraf ar Gader Idris- Minffordd a Tŷ Nant, Llywbr Cynwch, Llwybr Mawddach, Llwybr Panorama, Llyn Tegid a Llangywer. Am wybodaeth bellach am y cynllun yn Ne Eryri cysylltwch â David Uwch Warden y De david.jones2@eryri.llyw.cymru

Mae’r broses ymgeisio ar gyfer tymor 2024 bellach ar gau.