Ymunwch â ni yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a dewch yn rhan o dîm angerddol sy’n ymroddedig i warchod harddwch syfrdanol, diwylliant cyfoethog, a chymunedau bywiog parc cenedlaethol mwyaf Cymru.
Mae gwaith Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cwmpasu ystod eang o feysydd, gan gynnwys rheoli ymwelwyr, cadwraeth, coedwigaeth, yn ogystal â chynllunio a datblygu.
Rydym yn blaenoriaethu cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith ac yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr i sicrhau bod ein staff yn ffynnu – yn broffesiynol ac yn bersonol.
Mae ein gwerthoedd yn diffinio pwy ydym ni a sut rydym yn cydweithio i warchod Eryri, gan arwain ein gweithredoedd, ysbrydoli ein hymrwymiad, a siapio’r ffordd yr ydym yn cefnogi ein gilydd.
Dyma drosolwg o sut mae ein proses recriwtio yn gweithio a rhai awgrymiadau i’ch helpu gyda’ch cais.
I’ch helpu gyda’ch cais, rydym wedi rhoi cyngor ymarferol at ei gilydd.
Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri undegwyth aelod. Penodir yr aelodau gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd a Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal i bob ymgeisydd wrth wneud cais am rôl.