Yr Her Tri Chopa gwreiddiol (Yr Wyddfa, Scafell Pike a Ben Nevis) a Her y Tri Chopa Cymreig (Yr Wyddfa, Cader Idris a Phen y Fan)

Mae’r Wyddfa yn rhan o’r Tri Chopa Gwreiddiol a’r Tri Chopa Cymreig.

Mae pobl yn cyrraedd Yr Wyddfa yn hwyr yn y nos neu’n gynnar iawn yn y bore i ymgymryd â Her y Tri Chopa. Mae’n hanfodol bod cyfranogwyr sy’n cyrraedd Pen Y Pass neu Llanberis ar adegau o’r fath yn gwneud hynny gyda’r lleiafswm o aflonyddwch (h.y. sŵn a goleuadau) i westeion yn yr Hostel Ieuenctid cyfagos neu drigolion Llanberis. Peidiwch â gadael i’ch cerbydau rwystro’r maes parcio ar gyfer ymwelwyr dydd eraill ac ar ôl cwblhau’r rhain dylid gwagio’r mannau parcio cyn gynted â phosibl.

Peidiwch â defnyddio ardaloedd preswyl Llanberis fel mannau parcio, gollwng a throi o gwmpas ar gyfer ceir neu fysiau mini. Mae hyn yn aflonyddu’n fawr ar drigolion lleol. Trefnwch i ollwng neu godi cyfranogwyr oddi ar y brif ffordd A4086 mewn lleoliad diogel ac nad yw’ch cerbydau yn dod yn berygl traffig. Dylai hyn fod yn ystyriaeth yn eich gwaith cynllunio’r digwyddiad.

O ystyried y potensial o dagfeydd ym maes parcio Pen Y Pass, yn enwedig ar benwythnosau misoedd yr haf, ystyriwch ymgymryd â’r her hon ganol wythnos i leihau problemau yn y fan hon  a hefyd ym meysydd parcio Ben Nevis a Wasdale Head.

Gellir dod o hyd i gyngor gwybodaeth ychwanegol ar gyfer HERTC ar wefan Partneriaeth Three Peaks Partnership

Partneriaeth Three Peaks Partnership