Pam Gwirfoddoli?
Mae’r Wardeiniaid Gwirfoddol yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy trwy gynorthwyo Gwasanaeth Wardeiniaid y Parc Cenedlaethol gyda thasgau fel cynghori a darparu gwybodaeth i ymwelwyr, casglu sbwriel a chynnal a chadw llwybrau.
Bydd Wardeiniaid Gwirfoddol yn elwa o:
- Gyfle i fod yn rhan o dîm a chwrdd â phobl newydd.
- Gwella’u profiad o fynydda.
- Gwella’u sgiliau Cymraeg trwy ein cynllun ‘bydi’.
- Amrywiaeth o gyrsiau a theithiau cerdded gydag arbenigwyr lleol e.e. Cymorth Cyntaf, Hanes Lleol a Daeareg yn Eryri.
- Profiad arbennig all gynorthwyo i sicrhau cyflogaeth yn y dyfodol.
- Gwella’u gwybodaeth a phrofiad o reolaeth cefn gwlad.
- Cyfle i gyfrannu i ddyfodol cynaliadwy Eryri.
Wardeiniaid Gwirfoddol Yr Wyddfa
Mae’r cynllun hwn yn canolbwyntio ar lwybrau’r Wyddfa, gan roi blaenoriaeth i’r llwybrau prysuraf: Llwybr Llanberis, Llwybr Pyg, a Llwybr y Mwynwyr.
Am fwy o wybodaeth am gynllun Warden Gwirfoddol Yr Wyddfa, cysylltwch ag Alun Jones, Warden Yr Wyddfa: alun.jones@eryri.llyw.cymru
Wardeiniaid Gwirfoddol De Eryri
Mae’r cynllun hwn yn cynnwys de Eryri, gan gynnwys y ddau lwybr mwyaf poblogaidd i fyny Cader Idris — Llwybr Minffordd a Thŷ Nant. Mae hefyd yn cynnwys ardaloedd allweddol megis Llwybr Cynwch, Llwybr Mawddach, Llwybr Panorama, Llyn Tegid, a Llangower.
Am fwy o wybodaeth am gynllun Warden Gwirfoddol De Eryri, cysylltwch ag David Jones, Uwch Warden y De: david.jones2@eryri.llyw.cymru
Polisïau ac Adnoddau Wardeniaid Gwirfoddol
Cliciwch yma i gael mynediad at bolisïau hanfodol, canllawiau a dogfennau ategol ar gyfer Wardeiniaid Gwirfoddol (wedi’u diogelu gan gyfrinair).
Archwiliwch bolisïau ac adnoddau ar gyfer Wardeiniaid Gwirfoddol