Dosbarthiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD)

Mae’r ffordd yr asesir cyrff dŵr wedi newid yn sylweddol o ganlyniad i gyflwyno’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Yn flaenorol, defnyddiwyd y cynllun Asesiad Ansawdd Cyffredinol (AAC) i asesu ansawdd dŵr afonydd o ran cemeg, bioleg a maetholion. Mae dosbarthiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn edrych ar dros 30 o wahanol fesurau, wedi’u grwpio o dan ddau brif bennawd:

  • statws ecolegol (mae hyn yn cynnwys bioleg yn ogystal â ffactorau eraill megis ffosfforws a pH) a
  • statws cemegol (‘sylweddau â blaenoriaeth’, e.e. arian byw).

Yn ogystal ag afonydd, mae’r WFD hefyd yn cynnwys aberoedd, dyfroedd arfordirol, dŵr daear a llynnoedd. O ganlyniad, bu rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru ddiweddaru’r technegau asesu presennol a datblygu rhai newydd ar gyfer y dangosyddion hynny a aseswyd yn flaenorol.

Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd

O dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, mae’n ofynnol i Gyfoeth Naturiol Cymru gynhyrchu Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd (CRhBA) sy’n disgrifio’r pwysau sy’n wynebu’r amgylchedd dŵr ym mhob un o’r tair ardal basn afon yng Nghymru6 ar gyfres o gylchoedd cynllunio chwe blynedd. Bwriedir cyhoeddi ail gyfran y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd ym mis Rhagfyr 2015.

Mae pob cynllun yn amlinellu’r camau gweithredu sydd eu hangen i wella’r amgylchedd dŵr. Maent hefyd yn rhestru’r manteision y gellir eu cyflawni. a phwy sydd yn y sefyllfa orau i’w cyflawni. Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gorwedd yn rhannol yn ABA Gorllewin Cymru ac yn rhannol yn ABA Dyfrdwy.

Gweld statws cyrff dŵr yn Eryri

Statws y dalgylchoedd yn Eryri

Gellir gweld statws cyrff dŵr Eryri yn: Arsylwi Dyfroedd Cymru

Allwedd y Map

Drwg
Da
Uchel 
Cymedrol
Heb ei asesu eto
Gwael
Corff dŵr arfordirol wedi’i ddileu

Rhesymau dros Fethiant Cyrff Dŵr yn Eryri

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio gwybodaeth rhesymau dros fethiant (RFF) i nodi’r prif ffactorau a materion sy’n effeithio ar amgylchedd dŵr Cymru. Gallai rhai methiannau gael eu hachosi gan faterion i fyny’r afon (e.e. gor-echdynnu neu reoleiddio llif) neu i lawr yr afon (e.e. rhwystrau megis coredau ac argaeau atal mudo pysgod). Mae’r materion hyn yn digwydd ar draws dalgylchoedd a chyrff dŵr.

Y prif resymau dros fethiant y dylai Awdurdodau Lleol allu ymdrin â hwy yw:

  • Rhwystrau artiffisial i fudo pysgod
  • Mwyngloddiau segur a thir halogedig
  • Gollyngiadau carthion
  • Amddiffyn rhag llifogydd a draenio tir
  • Datblygiad trefol a thrafnidiaeth

Dengys y tabl isod yr holl resymau dros fethiant y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi eu nodi ar gyfer cyrff dŵr ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mewn sawl achos, mae’r cyrff dŵr yn methu am resymau lluosog.

Rheswm dros Fethiant a’u nifer
Mwyngloddiau segur a thir halogedig: 33
Asideiddio: 27
Llygredd amaethyddol: 9
Rhwystrau i fudo pysgod: 10
Amddiffyn rhag llifogydd a draenio tir: 5
Coedwigaeth: 15
Arllwysiadau diwydiannol: 33
Amodau naturiol: 3
Tanciau septig: 19
Gollyngiadau carthion: 1
Tynnu dŵr wyneb: 3
Datblygiad Trefol a Thrafnidiaeth: 1
Arall: 1
Anhysbys: 5

Er mwyn ennill statws Da, mae angen i lawer o wahanol gyd-gyflwynwyr weithredu, gan ddefnyddio mecanweithiau a mesurau presennol, lle bo hynny’n bosibl, i sicrhau gwelliannau cynaliadwy cost-effeithiol i’r cyrff dŵr dan sylw.

6 Mae ‘ardal basn afon’ yn grŵp o ddalgylchoedd sy’n cynnwys casgliad o afonydd, llynnoedd, cronfeydd dŵr daear wrth gefn a dyfroedd arfordirol.

Dyfroedd Arfordirol

Asesir ansawdd dŵr mewn safleoedd dŵr ymdrochi dynodedig yng Nghymru gan Gyfoeth Naturiol Cymru. O fis Mai i fis Medi, mae asesiadau wythnosol yn mesur yr ansawdd dŵr presennol, ac mewn nifer o safleoedd cyhoeddir rhagolygon risg o lygredd o ddydd i ddydd. Mae graddau blynyddol yn dynodi pob safle fel un ardderchog, da, digonol neu’n wael, yn seiliedig ar fesuriadau a gymerir dros gyfnod o bedair blynedd.

Yn 2014, roedd yr holl ddyfroedd ymdrochi yng Nghymru yn cydymffurfio â’r Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi. Dyma’r canlyniad cyffredinol gorau yn y DU Ansawdd Dŵr Ymdrochi

Mae Cymru wedi gweld cynnydd yn y nifer o Wobrau Baner Las rhyngwladol7 gyda 41 o draethau ac un marina yng Nghymru yn ennill Gwobr y Faner Las – wyth yn fwy na’r llynedd. Enillodd 30 o draethau pellach Wobr Arfordir Glas a chafodd 102 o draethau ar draws Cymru Wobr Glan Môr am ansawdd da eu dŵr a chyfleusterau.

Cafodd traethau tawelach yng Nghymru hefyd eu cydnabod gyda’r Wobr Arfordir Glas. Yn gyffredinol, enillwyr y wobr hon yw’r traethau llai poblogaidd, yn aml mewn lleoliadau mwy golygfaol sy’n cymhwyso gyda’r safon uchaf o ran ansawdd dŵr, ond sy’n fwy adnabyddus am eu hamgylchedd naturiol, heb ei ddifetha.

Mae’r Wobr Glan Môr yn dathlu traethau sydd â chyfleusterau cyhoeddus, ansawdd dŵr, diogelwch a rheolaeth dda. Yng Nghymru, rheolir y gwobrau hyn gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus.

7 Mae’r wobr baner las yn cael ei chyhoeddi gan y Sefydliad ar gyfer Addysg Amgylcheddol (FEE), sy’n graddio traethau ar gategorïau gan gynnwys diogelwch, cyfleusterau, a rheoli amgylcheddol, yn ogystal ag ansawdd y dŵr ac mae’n rhedeg mewn 48 o wledydd ledled y byd.

Rhwydwaith Monitro Dyfroedd Asid y Deyrnas Unedig (UKAWMN)

Sefydlwyd Rhwydwaith Monitro Dyfroedd Asid y Deyrnas Unedig (UKAWMN) yn 1988 i fonitro effaith ecolegol dyddodiad asid yn yr ardaloedd hynny y credir eu bod yn sensitif i asideiddio. Mae’r gronfa ddata yn darparu cofnod tymor hir o gemeg a bioleg dŵr sy’n unigryw i systemau dŵr croyw ucheldir yn y DU. Caiff dau lyn yn Eryri (Llyn Llagi ger Cnicht a Llyn Cwm Mynach yn y Rhinogydd) eu monitro o dan y cynllun hwn. Mae monitro biolegol a chemegol yn digwydd yn chwarterol, ac mae’r diatomau epithilig ac infertebratau benthig yn cael eu samplu bob blwyddyn. Caiff y canlyniadau eu cyhoeddi bob blwyddyn gan y Rhwydwaith.

Nododd Adroddiad 10 Mlynedd Rhwydwaith Monitro Dyfroedd Asid y Deyrnas Unedig 1988 – 1998 (March 2000) y canlynol (Ffynhonnell: UKAWMN www.ukawmn.ucl.ac.uk):

  • Mae tystiolaeth gref o Lyn Llagi o adferiad cemegol a biolegol hirdymor o asideiddio. Nododd Adroddiad Deongliadol 20 Mlynedd Rhwydwaith Monitro Dyfroedd Asid y DU fod adferiad sylweddol parhaus o asideiddio yn y safle hwn.
  • Mae creiddiau gwaddod Llyn Cwm Mynach yn dangos fod asideiddio’n digwydd tan yn gymharol ddiweddar, a’i fod yn cael ei waethygu gan goedwigaeth o fewn y dalgylch. Ychydig o newidiadau clir yng nghemeg y llyn a ddigwyddodd yn y cyfnod o 10 mlynedd hyd at 1998. Ychydig o dystiolaeth o adferiad o asideiddio a ganfuwyd gan Adroddiad Deongliadol 20 Mlynedd Rhwydwaith Monitro Dyfroedd Asid y DU mwy diweddar.

Er bod crynodiadau llygryddion wedi gostwng mewn ymateb i reoliadau allyriadau, mae adferiad ecosystemau Eryri o asideiddio yn cymryd mwy o amser ac mae’r lefelau cyfredol o lygryddion (megis nitrad ac osôn) yn dal yn debygol o gael effaith negyddol ar gynefinoedd lled-naturiol .Mae osgoi effeithiau o’r fath yn yrrwr allweddol y tu ôl i Strategaeth Ansawdd Aer y DU sy’n gosod amcanion ansawdd aer ar gyfer nifer o lygryddion pwysig, i’w cyflawni erbyn 2020.