Er y gall newidiadau yn yr hinsawdd ddigwydd yn naturiol, mae consensws gwyddonol cyffredinol bod gweithredoedd dynol yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd a hefyd cynhesu byd-eang. Mae gweithgareddau sy’n cynnwys allyrru nwyon tŷ gwydr fel carbon deuocsid (CO2) i’r atmosffer, yn bennaf trwy losgi tanwydd ffosil ar gyfer ynni, yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.

Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth ynglŷn a newid hinsawdd, rhagolygon ar gyfer y dyfodol a mesurau addasu a lliniaru drwy ar wefan Parc Cenedlaethol Eryri.

Newid Hinsawdd

Mae data o Eryri yn cyfrannu’n rhagweithiol at fonitro effeithiau newid yn yr hinsawdd, er mwyn sicrhau hyblygrwydd yn y dyfodol.

Mae Rhwydwaith Newid Amgylcheddol y DU (ECN), ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn monitro newid yn yr hinsawdd a’i effeithiau posibl ar fioamrywiaeth, priddoedd a dŵr croyw ar safle ar yr Wyddfa.

Tymheredd Cyfartaledd Blynyddol2 a Glawiad

Cafwyd newidiadau cymedrol i’r hinsawdd yn Eryri, a chafwyd tystiolaeth o hyn trwy fonitro ar yr Wyddfa. Daeth hyn i’r amlwg ers yr 1960au a’r 1970au. Gwelwyd patrwm o dymheredd aer yn y Gwanwyn yn cynyddu tra bod gaeafau wedi dod yn llai eithafol. Hefyd cynyddodd isafswm tymheredd pridd a glaswellt. Yn cyd-fynd â’r newidiadau hyn, bu cynnydd mewn cyfansymiau blynyddol gwlybaniaeth ers 1995. Fodd bynnag, mae maint y codiad tymheredd ar y cyfan ers dechrau cofnodi yn 1995 wedi gostwng oherwydd effeithiau gaeafau caled diweddar ac oherwydd yr amrywiadau yn yr hinsawdd o flwyddyn i flwyddyn.

Yn ogystal, mae Eryri yn un o’r ardaloedd sy’n cyfrannu at raglen ymchwil MONARCH (Modelu Ymatebion Adnoddau Naturiol i Newid yn yr Hinsawdd). Nod MONARCH yw gwerthuso effeithiau newid yn yr hinsawdd ar gadwraeth natur (yn cynnwys bywyd gwyllt a nodweddion geomorffolegol) ym Mhrydain ac Iwerddon. Bydd canlyniadau’r astudiaeth hon yn adeiladu’n raddol ar ein dealltwriaeth o’r rhyngweithio cymhleth rhwng newid yn yr hinsawdd, gorchudd tir, rhywogaethau a’u cynefinoedd.

Dyluniwyd model MONARCH 3 i ragweld yn fwy cywir y newidiadau ar lefel cynefin neu gymuned, trwy archwilio ystod eang o rywogaethau a gwneud gwelliannau pellach i bŵer proffwydol y broses fodelu. Un rhywogaeth o’r fath sy’n berthnasol i Eryri yw’r Grugiar Ddu (Tetrao tetrix)

Dengys y canlyniadau y cafwyd adferiad diweddar ym mhoblogaethau’r Grugiar Ddu yng ngogledd Cymru oherwydd ymyrraeth a gwell rheolaeth ar ardaloedd yr ucheldir gan amrywiaeth o asiantaethau, megis Cyfoeth Naturiol Cymru a’r RSPB.

Ffynhonnell: Lloyd, D.S., Turner, A.J., Skates, J. Easter, J. & Bowmaker, V. (2011) Yr Wyddfa Snowdon Environmental Change Network: 15 years of monitoring on Yr Wyddfa/ Snowdon. Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Bangor.

2 I leoliad penodol mae cyfartaledd tymheredd dyddiol uchaf ac isaf am fis unigol dros nifer o flynyddoedd yn rhoi’r tymheredd dyddiol uchaf ac isaf ar gyfer y mis hwnnw.Cyfartaledd y gwerthoedd hyn yw’r tymheredd misol cymedrig. Mae’r tymheredd cymedrig misol, wedi’i gyfartaleddu drwy’r flwyddyn, yn rhoi’r tymheredd blynyddol cymedrig.

3 Mae gwerthoedd Ellenberg N yn amcangyfrif y sefyllfa ar hyd graddiant argaeledd cynhyrchiant/ macro-faetholion lle mae’r rhywogaeth yn cyrraedd digonedd brig. Mae’r Mynegai Ellenberg N yn cynnwys dyrannu sgôr N i bob rhywogaeth o blanhigion, fel bod y sgôr cymedrig cyffredinol ar gyfer y gymuned yn gorwedd ar raddfa o faetholion gwael (1) i faetholion cyfoethog (10). Mae cyfrifo gwerthoedd cymedrig i lystyfiant a samplwyd yn caniatáu casglu newidiadau gofodol neu amserol mewn cynhyrchiant. Cefnoga llawer o astudiaethau graddnodi ddibynadwyedd y gwerthoedd hyn i ganfod arwydd, ond mae priodoli’r newid i achos penodol yn anodd oherwydd fod y gwerthoedd N yn integreiddio ystod o effeithiau.

Defnyddio Ynni

Mae effeithlonrwydd egni yn un ffordd o frwydro newid hinsawdd. Trwy ddefnyddio egnio yn fwy effeithlon a lleihau’r angen ar gyfer egni yn ein cartrefi, nid yn unig y byddem yn arbed arian, ond mi fyddem yn lleihau’r allyriad nwy tŷ gwydr o’r genhedlaeth trydan.

Nid oes dadansoddiad manwl o ddefnydd nwy a thrydan ar gael ar gyfer ffiniau’r Parc Cenedlaethol. Fodd bynnag mae ffigyrau ar gael ar gyfer Gwynedd a Chonwy.

Ffynhonnellau: Defnydd o Ynni Domestig (InfoBaseCymru)

Tra bod defnydd nwy yng Ngwynedd a Chonwy yn is na’r cyfartaledd cendlaethol mae defnydd domestig o drydan yng Ngwynedd a Chonwy yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Yn fwy na thebyg mae hyn yn ganlyniad o nifer o ffactorau megis yr hinsawdd, oed eiddo a’r defnydd uwch o drydan er mwyn cynhesu eiddo oddi ar y grid nwy.

Ffordd arall o ddangos defnydd domestig o egni yw’r  Ôl-troed Eco mewn Tai. Mae’r Ôl-troed Eco mewn Tai yn mesur defnydd egni tai uniongyrchol o wres, dŵr poeth, goleuo a nwyddau trydanol yn ogystal ag effaith cynnal a chadw tai ac adeiladu tai.

Ôl Troed Eco Tai

Roedd Ôl-troed Eco Tai ar gyfer Cymru yn 2008 wedi ei ragfynegi i fod yn 1.45 gha/capita4.

Rhagfynegwyd y byddai gan Gwynedd a Chonwy Ôl-troed Eco Tai o 128 – 1.33 gha/capita.

Ffynhonnell: Wales’ Ecological Footprint Scenarios to 2020. Stockholm Environment Institute 2008.

 

Gwastraff Ailgylchu

Mae lleihau cynhyrchu gwastraff ac ailddefnyddio, ailgylchu ac adennill ynni o wastraff yn gwarchod deunyddiau crai, yn lleihau allyriadau ac yn arbed ynni. Mae’n rhan annatod o fyw’n gynaliadwy ac mae’n cyfrannu at frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Mae’r rhan fwyaf o’r gwastraff a gynhyrchir yn y Parc Cenedlaethol yn cael ei drin a’i waredu y tu allan i ffin y Parc. Gydag Awdurdodau Lleol wedi derbyn targedau heriol gan Lywodraeth Cymru ynglŷn ag ailddefnyddio gwastraff a chyfraddau ailgylchu a lleihau tirlenwi i sero, gwelir y perfformiad yn gwella o flwyddyn i flwyddyn.

Canran o Wastraff gafodd ei Ailddefnyddio/Ailgylchu/Compostio o 2014 i 2016

Ailgylchu ym mhob Tŷ 2014͏/15
Gwynedd: 20.5%
Conwy: 24.3%

Ailgylchu ym mhob Tŷ 2015/16
Gwynedd: 20.8%
Conwy: 25.5%

Compostio ym mhob tŷ 2014/15
Gwynedd: 0.4%
Conwy: 0.3%

Compostio ym mhob tŷ 2015/16
Gwynedd: 0.3%
Conwy: 0.3%

Ynni Adnewyddadwy

Er mwyn brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, mae angen gostyngiad parhaus mewn allyriadau carbon deuocsid a nwyon tŷ gwydr eraill. Un ffordd o wneud hyn yw lleihau’r defnydd o danwydd ffosil yn y broses o gynhyrchu trydan a symud tuag atffynonellau ynni mwy cynaliadwy, adnewyddadwy. Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn chwarae ei ran i gwrdd â’r dyheadau hyn.

Er nad yw pob math o dechnolegau ynni adnewyddadwy yn briodol mewn tirweddau dynodedig fel Eryri, dengys y map at waelod y dudalen yr holl geisiadau ynni adnewyddadwy a gafodd ganiatâd cynllunio ers mabwysiadu CDLl Eryri (Gorffennaf 2011 hyd Mehefin 2015). Rhoddwyd caniatâd i 136 o geisiadau cynllunio i gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn ystod y cyfnod hwn.

Mae’r inffograffeg isod yn crynhoi y nifer o geisiadau ynni adnewyddadwy newydd a ganiatawyd yn y Parc Cenedlaethol ers mabwysiadu’r C.D.Ll