Am y gronfa

Pwrpas y Gronfa Lles Cymunedol yw cynorthwyo prosiectau bach cynaliadwy a fydd o fudd economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol i gymunedau Parc Cenedlaethol Eryri. Bydd y grantiau a ddyfernir rhwng £100 a £500.

Prosiectau cymwys

Bydd unrhyw brosiectau sy’n gwella’r amgylchedd lleol a lles y gymuned ac sy’n bodloni nodau ac amcanion Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gymwys ar gyfer cyllid. Mae angen i’r prosiectau allu dangos eu bod yn cyfrannu at o leiaf un o’r canlynol:

Er enghraifft prosiectau sy’n gwella neu’n gwarchod yr amgylchedd lleol trwy dirlunio, plannu coed brodorol, prosiectau bioamrywiaeth eraill, adfer / adnewyddu nodweddion o ddiddordeb lleol neu brosiectau sy’n datblygu sgiliau traddodiadol priodol.

Er enghraifft, digwyddiadau llesiant cymunedol sy’n canolbwyntio ar gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o’r amgylchedd lleol, neu hanes a threftadaeth ddiwylliannol y Parc Cenedlaethol a’i gymunedau.

Er enghraifft, gweithgareddau neu brosiectau gan gynnwys byrddau gwybodaeth, cylchlythyrau cymunedol, rhaglenni mentora a datblygu ieuenctid, gerddi cymunedol, gwyliau celfyddydau a diwylliant lleol, digwyddiadau iechyd a lles cymunedol, rhaglenni cynaliadwyedd megis mentrau diwastraff.

Prosiectau rydym wedi eu cefnogi

Dyma rai enghreifftiau o brosiectau rydyn ni wedi’u cefnogi drwy’r Gronfa Llesiant Cymunedol dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn 2025, derbyniodd y Ganolfan Dysgu Awyr Agored Pen y Bryn grant o £473.40 gan ein Cronfa Lles Cymunedol i gynnal sesiynau nofio gwyllt yng Ngwynedd. Defnyddiwyd y cyllid i ddarparu offer diogelwch hanfodol, talu am yswiriant y prosiect, ac ariannu treuliau gwirfoddolwyr.

Wedi’i arwain gan unigolyn mewn adferiad o gaethiwed, cefnogodd y prosiect 47 o bobl leol hefyd mewn adferiad. Cynhaliwyd y sesiynau rhwng Hydref 2024 a Mawrth 2025 yn Llyn Padarn ac Afon Ogwen.

https://awdurdod.eryri.llyw.cymru/wp-content/uploads/2025/04/IMG_20241013_152411-scaled.jpg

Derbyniodd y prosiect cymunedol ‘Lle i enaid orffwys’ gefnogaeth gan ein Cronfa Llesiant Cymunedol i drawsnewid rhan o Gae Brenin Siôr V yn Harlech.

Defnyddiwyd y grant i blannu bylbiau a blodau gwyllt brodorol Cymreig, gan gefnogi rhywogaethau prin a chreu lle heddychlon i’r gymuned. Fe’i dyluniwyd gan fyfyrwyr Ysgol Ardudwy ac fe’i gwireddwyd gan dîm ymroddedig o wirfoddolwyr – gan droi’r ardal yn hafan fywiog i bobl a bywyd gwyllt.

“Ni fyddai’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl heb grant Lles Cymunedol Parc Cenedlaethol Eryri,” meddai Joe Patton, Arweinydd y Prosiect, “Mae wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r amgylchedd ac i bawb sy’n ymweld â lle arbennig hwn.”

https://awdurdod.eryri.llyw.cymru/wp-content/uploads/2025/04/Image-22-scaled.jpg

Pwy all wneud cais?

Fe all y mathau canlynol o sefydliadau wneud cais am gyllid ar yr amod bod eu prosiectau’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd:

  • Grwpiau cymunedol gwirfoddol
  • Cynghorau Cymuned / Tref
  • Mentrau cymdeithasol ar yr amod eu bod yn gweithredu ar sail nid-er-elw (gan gynnwys undebaucredyd)
  • Sefydliadau cydweithredol
  • Cwmnïau cymdeithasol
  • Mentrau sy’n eiddo i’r gymuned
  • Cwmnïau cyfyngedig drwy warant
  • Cwmnïau budd cymunedol ac ymddiriedolaethau datblygu
  • Elusennau
  • Sefydliadau trydydd sector

Rhaid i bob ymgeisydd fod â chyfansoddiad a chyfrif banc o leiaf.

Nid yw unigolion, busnesau na chyrff statudol yn gymwys i wneud cais.

Barod i ymgeisio?

Os yw eich prosiect yn bodloni’r meini prawf ac rydych yn barod i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eich cymuned a’r amgylchedd lleol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Ffurflen Gais: Cronfa Llesiant Cymunedol

Gallwch hefyd glicio ar y ddolen isod i gwblhau’r ffurflen gais:

Grantiau Llesiant Cymunedol – Ffurflen Gais

Rhagor o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag:

Etta Trumper
Swyddog Gwirfoddoli a Lles, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Swyddfa’r Parc Cenedlaethol
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6LF

Ffôn: 01766 772215
E-bost: cronfa.llesiant@eryri.llyw.cymru

Community-Wellbeing-Fund-logo