Cydweithio i ofalu am Yr Wyddfa

Yr Wyddfa yw’r mynydd mwyaf poblogaidd yn y Deyrnas Unedig. Mae’r effaith a gaiff hyn ar y bobl sy’n byw a gweithio yn yr ardal yn sylweddol.

Mae Partneriaeth Yr Wyddfa wedi bod yn cyd-weithio er mwyn creu cynllun rheoli ar gyfer y mynydd.

Y Bartneriaeth

Grŵp a sefydlwyd i greu a gweithredu cynllun rheoli newydd ar gyfer Yr Wyddfa yw Partneriaeth Yr Wyddfa.

Mae’r Bartneriaeth yn dod a sefydliadau a pherchnogion tir sy’n ymwneud â rheoli’r mynydd at ei gilydd. Gall gwaith aelodau’r bartneriaeth amrywio o fod yn waith cadwraeth a rheoli llwybrau i dwristiaeth, ffermio ac achub mynydd.

Cynllun Yr Wyddfa

Mae Partneriaeth Yr Wyddfa yn adolygu Cynllun Yr Wyddfa ar hyn o bryd gyda’r gobaith o gyhoeddi cynllun diwygiedig cyn haf 2025. Am fwy o wybodaeth am y broses, ac am adroddiad llawn o waith y bartneriaeth ers sefydlu’r cynllun gwreiddiol yn 2018, cliciwch y ddolen isod. 

Darllen y Cynllun (Gwefan Partneriaeth Yr Wyddfa)

Cylchlythyr Partneriaeth Yr Wyddfa

Tanysgrifiwch i gylchlythyr Partneriaeth Yr Wyddfa i dderbyn diweddariadau ar waith y bartneriaeth.

Cylchlythyr Partneriaeth Yr Wyddfa