Ym mis Tachwedd 2021, sefydlodd Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri bartneriaeth arloesol i ddiogelu a gwarchod dyfodol cynaliadwy Gwynedd ac Eryri.
Bydd y cydweithio yn arwain at greu Cynllun Economi Ymwelwyr Cynaliadwy ar gyfer Gwynedd ac Eryri, gan sicrhau a gwarchod dyfodol cynaliadwy’r ardal.
Beth yw Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri?
Strategaeth arloesol newydd yw Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 sy’n cyflwyno dull hollol wahanol o fesur effaith twristiaeth yng Ngwynedd ac Eryri. Trwy drafodaethau agored a gonest gyda’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal, mae’r cynllun yn sefydlu cyfres newydd o egwyddorion sy’n anelu at unioni’r cydbwysedd yn yr ardal, ac yn rhoi cymunedau wrth galon y rhai sy’n elwa o’r economi ymwelwyr.
Bydd y cynllun yn cydnabod pwysigrwydd economi ymweld Gwynedd ac Eryri tra hefyd yn gwarchod y rhinweddau sy’n gwneud yr ardal yn unigryw.
Pwy sy’n cydweithio i ddatblygu’r cynllun?
Mae Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi sefydlu partneriaeth newydd gyda’r rhai sy’n cynrychioli’r sector twristiaeth; y sector busnes; arweinwyr cymunedol; sector yr amgylchedd; y sector cyhoeddus; addysg a iaith. Dyma osod safon newydd ar gyfer partneriaethau yn y dyfodol a ffordd gydweithredol o lunio cynlluniau gweithredu ac ymdrin â’r heriau a’r cyfleoedd y mae’r economi ymweld yn eu cyflwyno.
Bydd y bartneriaeth yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu a chytuno ar gynllun sy’n sefydlu “economi ymweld er budd a lles pobl, amgylchedd, iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri.”
Ym mis Tachwedd 2021, arwyddodd Cyngor Gwynedd ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol ‘Femorandwm o Ddealltwriaeth’ sy’n nodi sut y byddant yn cydweithio gyda’i gilydd a phartneriaid eraill i ddatblygu cynlluniau gweithredu a mesur, rhannu arfer da a chytuno ar Gynllun Economi Ymweld Cynaliadwy.
Egwyddorion ac amcanion yr economi ymweld cynaliadwy
Mae Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cytuno ar gyfres o egwyddorion ac amcanion a fydd yn ffurfio economi ymweld gynaliadwy’r ardal. Mae’r egwyddorion hyn wedi’u datblygu ar ôl trafodaethau ag aelodau etholedig, cymunedau a sefydliadau o fewn y diwydiant ymwelwyr.
- Economi ymweld ym mherchnogaeth ein cymunedau gyda phwyslais ar falchder yn ein bro
- Economi ymweld sy’n arweinydd byd mewn dreftadaeth, iaith, diwylliant a’r awyr agored
- Economi ymweld sy’n parchu ein hamgylchedd naturiol ac adeiledig ac sy’n ystyried goblygiadau datblygiadau economi ymweld ar ein hamgylchedd heddiw ac i’r dyfodol
- Economi ymweld sy’n arweinydd byd mewn datblygiadau ac isadeiledd cynaliadwy a charbon isel ac wrth ymateb i’r argyfwng newid hinsawdd.
- Economi ymweld sy’n sicrhau bod seilwaith ac adnoddau yn cyfrannu at lesiant y gymuned drwy gydol y flwyddyn
- Economi ymweld sy’n ffynnu er lles trigolion a busnesau Gwynedd ac Eryri ac sy’n cynnig cyfleoedd cyflogaeth o safon i bobl leol drwy’r flwyddyn.
- Economi ymweld sy’n hybu perchnogaeth leol ac yn cefnogi cadwyni cyflenwi a chynnyrch lleol
Beth yw nod y cynllun?
Nod y cynllun yw sefydlu economi ymweld cynaliadwy yng Ngwynedd ac Eryri. Byddai hyn yn golygu bod ffactorau megis lles y bobl a chymunedau, stâd yr amgylchedd naturiol a chryfder yr iaith a diwylliant Cymraeg yn cael eu hystyried ochr yn ochr â ffactorau ariannol y diwydiant ymweld. Yn syml, byddai economi ymweld cynaliadwy o fudd i bobl, amgylchedd a diwylliant Gwynedd ac Eryri.
Mae hon yn weledigaeth sy’n seiliedig ar syniadau rhyngwladol a lleol o sut y gall economi ymweld gynaliadwy edrych.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r cynllun, lawrlwythwch y ddogfennaeth.
Gwybodaeth bellach
Am wybodaeth bellach ar Gynllun Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035, cysylltwch â Rheolwr Partneriaethau Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Angela Jones
Pennaeth Partneriaethau, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
angela.jones@eryri.llyw.cymru