Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw’r corff cyhoeddus annibynnol sydd â chyfrifoldeb statudol i warchod y Parc Cenedlaethol.
Mae gwaith yr Awdurdod wedi gweld llawer llwyddiant gan gynnwys agor Hafod Eryri, y ganolfan ymwelwyr ar gopa’r Wyddfa, ac wedi ymateb i sawl her dros y degawdau.
Yr Awdurdod
Er bod Eryri wedi ei dynodi’n Barc Cenedlaethol ers 1951, dim ond yn 1996 ddaeth Awdurdod y Parc yn gorff annibynnol ac yn Awdurdod Cynllunio Lleol fel y mae heddiw.
Hydref 18, 1951, oedd yr union ddyddiad dynodwyd Eryri’n Barc Cenedlaethol swyddogol yn dilyn cyhoeddi Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949.
Fe gafodd ffiniau’r Parc Cenedlaethol eu sefydlu ym 1950 yn dilyn argymhellion Comisiwn y Parc Cenedlaethol lle gwasanaethodd Syr Clough Williams-Ellis fel aelod.
Daeth trafodaethau ar sut y dylai’r Parc Cenedlaethol weithredu i ben yn 1952 gyda rhai yn awgrymu y dylai bwrdd annibynnol redeg y Parc tra bod eraill yn ffafrio rhoi pwerau i’r Cynghorau Sirol.
Cyrhaeddodd y trafodaethau gyfaddawd a sefydlwyd Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol. Dechreuodd y Parc Cenedlaethol weithredu o ddifrif yn 1953 wrth i faterion godi megis diboblogi gwledig, dirywiad y diwydiannau traddodiadol a safonau byw isel.
Roedd y 50au yn gyfnod pwysig yn hanes y Parc Cenedlaethol gan gynnwys dynodi Cwm Idwal fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol a dewis logo i’r Parc Cenedlaethol, sydd mewn defnydd hyd heddiw.
Agorwyd Canolfan Wybodaeth gyntaf y Parc yn Llanrwst gyda Dolgellau yn agor yn 1959 ac yn denu 3,000 o ymwelwyr trwy’r haf. Adeiladwyd maes parcio a gwylfan yn Nant Gwynant i geisio lliniaru problemau parcio.
Sefydlwyd y Gwasanaeth Wardeinio yn 1961 gyda Gwilym Owen a Warren Martin yn cael eu hapwyntio fel y wardeiniaid cyntaf.
Penderfynwyd fod Yr Wyddfa i’w dynodi fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol wedi trafodaethau rhwng y Parc Cenedlaethol a’r Warchodaeth Natur.
Agorwyd Canolfan Wybodaeth Y Bala a chofnodwyd dros 1,500 o ymwelwyr yn ystod ei thymor cyntaf. Cymerodd y Parc Cenedlaethol gyfrifoldeb am Lyn Tegid ar ôl i Gyngor Sir Meirionydd ei brynu yn 1964.
Prynwyd Plas Tan y Bwlch, sef Canolfan Astudiaethau Amgylcheddol y Parc am £30,000 ac yn gynwysedig roedd gerddi, coedlannau a llynnoedd.
Agorwyd Canolfannau Croeso ym Mlaenau Ffestiniog a Llanberis gyda thros 18,000 yn ymweld â chanolfan Llanberis yn ystod ei thymor cyntaf. Prynwyd hefyd yr hen reilffordd rhwng Pont y Wern Ddu a Morfa Mawddach a thros y blynyddoedd datblygwyd y llwybr hwn yn Llwybr Mawddach sydd bellach yn ymestyn i Ddolgellau.
Yn dilyn ad-drefniant Llywodraeth Leol yn y 70au cynnar, daeth Parc Cenedlaethol Eryri yn adran o Gyngor Sir Gwynedd.
Yn 1974 daeth cyfrifoldeb am gynllunio a datblygu o dan adain y Parc Cenedlaethol gydag unrhyw geisiadau cynllunio y o fewn i’w ffiniau i’w bennu gan Bwyllgor y Parc Cenedlaethol.
Prynodd y Parc Cenedlaethol dir mewn nifer o safleoedd poblogaidd er mwyn cynnig gwasanaethau i ymwelwyr gan gynnwys Llyn Cwellyn, Llynnau Mymbyr, Betws-y-Coed, Beddgelert a Nant Peris. Yn dilyn gwaith adfer agorodd Plas Tan y Bwlch fel canolfan astudio yn 1975.
Lansiwyd cynllun bws Sherpa’r Wyddfa i ddatrys problemau parcio mewn safleoedd poblogaidd drwy gludo cerddwyr i fannau cychwyn y teithiau.
Dechreuodd yr 80au ar nodyn uchel wrth i Bencampwriaeth Canŵio Byd gael ei gynnal yn y Bala gan ddenu pobl o bob cwr o’r byd i Eryri. Roedd hyrwyddo’r Parc Cenedlaethol yn bwysig iawn ac fe aeth y Swyddog Cyswllt Ieuenctid ac Ysgolion â neges y Parc i’r trefi megis Lerpwl, Manceinion a Birmingham.
Yn 1983 prynodd Parc Cenedlaethol Eryri’r adeilad ar gopa’r Wyddfa gan y rheilffordd er mwyn rhoi cymorth â’r gwaith atgyweirio cyn ei brydlesu’n ôl i’r cwmni rheilffordd wedi gorffen y gwaith.
Meithrinwyd mes o goedlannau Plas Tan y Bwlch a thyfwyd egin-blanhigion a rhoddwyd i Erddi Kew i ymdrin â dinistr corwynt 1987.
Yn 1989, i ddathlu 40 mlynedd ers sefydlu Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad fe seiclodd tîm o Eryri i Chatsworth i ddathlu’r achlysur.
Gyda Deddf yr Amgylchedd 1995 daeth mwy o gyfrifoldeb ar Barciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr drwy ychwanegu gwarchod a gwella bywyd gwyllt a diwylliant yr ardal a dyletswydd i feithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau yn y Parc.
Agorodd swyddfeydd newydd y Parc Cenedlaethol ym Mhenrhyndeudraeth wedi ei adeiladu o ddeunyddiau naturiol.
Yn 1996, daeth Eryri yn Awdurdod Lleol annibynnol ac yn Awdurdod Cynllunio Lleol.
Ffurfiwyd Partneriaeth Llwybrau’r Ucheldir i ymladd yn erbyn erydiad ar rai o lwybrau mwyaf poblogaidd Eryri gyda’r Wyddfa, Cwm Idwal a Chader Idris yn elwa o’r gwaith.
Dathlodd Parc Cenedlaethol Eryri ei hanner can mlwyddiant yn 2001 a cynhaliwyd cynhadledd i holl Barciau Cenedlaethol Cymru. I gyd-fynd â’r achlysur, fe gafodd Canolfan Wybodaeth Betws-y-Coed ei hadnewyddu a’i hagor yn swyddogol ar Hydref 18fed, union 50 mlynedd ers sefydlu’r Parc.
Fe brofodd 2001 yn flwyddyn anodd wrth i glwy’r Traed a’r Genau unwaith eto fygwth y diwydiant amaethyddol yn ogystal â’r diwydiant twristiaeth.
Cafodd llawer o ddathlu ym mis Mehefin wrth i ledaeniad y clefyd arafu pan agorwyd rhan helaeth o lwybrau Eryri.
Roedd y 12eg o Fehefin 2009 yn ddiwrnod pwysig yn hanes Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gydag agoriad swyddogol Hafod Eryri, canolfan ymwelwyr newydd copa’r Wyddfa. Fe agorwyd Hafod Eryri gan y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan AC, Prif Weinidog Cymru ar y pryd. Dyluniwyd y ganolfan gan y pensaer Ray Hole ac fe’i hadeiladwyd i wrthsefyll tywydd garw o wyntoedd 150mya i isafswm tymheredd −20℃.
Ym Mawrth 2012, dathlodd yr Awdurdod eu bod wedi prynu Yr Ysgwrn, Trawsfynydd, gan sicrhau dyfodol y ffermdy a’r symbol o hanes cenedlaethol am flynyddoedd lawer i ddod.
Yn 2014, mae Lôn Gwyrfai, llwybr aml-ddefnyddwyr newydd o Ryd-ddu i Feddgelert yn cael ei hagor fel rhan o Gylchdaith yr Wyddfa.
Sefydlwyd Partneriaeth Yr Wyddfa yn 2018 a chyhoeddwyd Cynllun Yr Wyddfa yn ei sgîl yr un flwyddyn gan gyflwyno strategaethau traws-sefydliadol mewn ymateb i heriau megis poblogrwydd yr ardal.
Roedd 2020 yn flwyddyn heriol nid yn unig i’r Parc Cenedlaethol ond i bawb dros y byd wrth i bandemig COVID-19 ledaenu’n rhyngwladol a thrawsnewid bywydau dydd i ddydd dros nos.
Bu’n rhaid i Awdurdod y Parc Cenedlaethol gymryd camau heb ei debyg o’r blaen i sicrhau diogelwch a lles y cyhoedd a staff y Parc Cenedlaethol gan gynnwys cau ardaloedd agored o fewn Eryri.
Gwelodd y Parc Cenedlaethol ei diwrnod prysuraf mewn hanes yn ystod haf 2020, pan laciwyd rhai o’r cyfyngiadau a roddwyd i rym yn sgîl y pandemig. Daeth heriau newydd i’r Awdurdod a oedd yn ymwneud â pharcio a thrafnidiaeth yn ogystal â gor-dwristiaeth.
Ar ddiwedd 2020, lansiwyd cynllun rheoli statudol y Parc Cenedlaethol, Cynllun Eryri. Adlewyrchodd y gwaith newid sylweddol ym meddylfryd yr Awdurdod wrth lunio’r cynllun gan ddod a chydweithio a phartneriaethau i wraidd y gwaith o warchod a gwella’r Parc Cenedlaethol.
Er gwaetha’r heriau syfrdanol, dathlodd yr Awdurdod 70 mlynedd ers dynodi Eryri yn Barc Cenedlaethol ar Hydref 18, 2021. Trefnwyd taith o ogledd y Parc yng Nghonwy i dde y Parc yn Aberdyfi i ddathlu’r achlysur gydag aelodau a staff yn cerdded, beicio, padl-fyrddio a nofio rhannau penodol o’r daith.