Gweithio gyda ni

Yn yr Awdurdod, rydym yn blaenoriaethu cefnogi ein staff i gael cydbwysedd personol rhwng bywyd a gwaith sy’n meithrin brwdfrydedd, ymrwymiad, a boddhad yn eu bywydau proffesiynol a phersonol.

Gwyliau

Byddwch yn dechrau gyda 24 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata ar gyfer staff rhan-amser), a fydd yn cynyddu hyd at 29 diwrnod ar ôl pum mlynedd o wasanaeth.

  • Gwyliau Banc: Yn ddibynnol ar eu rôl, mae gan staff hawl i Wyliau Banc.
  • Gwyliau Statudol: Mae ein pencadlys ym Mhenrhyndeudraeth yn cau rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, gan gynnig tri diwrnod ychwanegol o wyliau. Mae’r Awdurdod hefyd yn cydnabod Dydd Gŵyl Dewi, gan gynnig diwrnod i ffwrdd naill ai’r dydd Gwener cyn neu’r dydd Llun canlynol, yn dibynnu ar y calendr.
  • Prynu Gwyliau Blynyddol: Mae gennych yr opsiwn i brynu hyd at bythefnos ychwanegol o wyliau blynyddol, gyda didyniadau misol wedi’u gwasgaru dros 12 mis.
  • Diwrnodau Gofal Personol: Gall gweithwyr ofyn am hyd at dri diwrnod gofal personol, yn ôl disgresiwn eu rheolwr llinell, ar gyfer adferiad o ddigwyddiadau trawmatig neu amser segur personol.
Trefniadau Gweithio Hyblyg

Manteisiwch ar oriau hyblyg a threfniadau gweithio hybrid i gefnogi eich cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Ein polisi fflecsi
Yn ddibynnol ar eich rôl, mwynhewch oriau gwaith hyblyg gyda'r opsiwn i weithio rhwng 7yb a 7yh, sydd yn caniatáu i chi reoli'ch amserlen yn well.
Gweithio hybrid
Ar gyfer rhai swyddi, mae opsiynau gweithio o bell ar gael, yn amodol ar drafodaeth gyda'ch rheolwr llinell.

Dysgu a datblygu

  • Rhaglen Sefydlu: Mae pob aelod newydd o staff yn cael cyfnod anwytho cynhwysfawr gan eu rheolwr llinell ac AD, gan gynnwys cwblhau’r cwrs Llysgenhadon Eryri i ddysgu am Rinweddau Arbennig Parc Cenedlaethol Eryri.
  • System ELMS: Mynediad i ystod eang o gyrsiau — o Seiberddiogelwch i Ffordd Iach o Fyw — sydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Secondiadau: Mae secondiadau yn fuddiol ar gyfer datblygiad a chynnydd staff o fewn y sefydliad, a gallant hefyd fod yn ddefnyddiol i gynorthwyo anghenion tymor byr wrth lenwi swyddi.

Buddion ychwanegol

  • Cynllun Beicio i’r Gwaith: Cymryd rhan yn ein cynllun Beicio i’r Gwaith i brynu beic drwy aberthu cyflog.
  • Cynllun Prynu Car: Cael cymorth i brynu car trwy ddidyniadau cyflog misol.
  • Ap Llwybrau’r Wyddfa: Lawrlwythwch yr ap hwn am ddim i gael gwybodaeth am y chwe llwybr i gyrraedd copa’r Wyddfa.
  • Parcio ar y safle
  • Dillad gwaith
  • Ap Lles 360: Mae ap Lles 360 yn ap cyffredinol sy’n gynnig llawer o fanteision i’r holl staff a’u teuluoedd. Mae’r ap yn cynnwys gwasanaeth meddygon teulu 24/7, gostyngiadau ar siopa’r stryd fawr, fideos ymarfer corff, syniadau am ryseitiau iach, a gwasanaeth cwnsela.
  • Canolfannau Hamdden Byw’n Iach: Manteisiwch ar ostyngiadau misol yn y Canolfannau Hamdden Byw’n Iach sydd wedi’u lleoli ledled Gwynedd, o Fangor i Borthmadog. Bydd staff yn gallu cael canran i ffwrdd yng Nghanolfan Hamdden Byw’n Iach ar y cynllun aelodaeth fisol.
  • Canolfannau Croeso a’r Ysgwrn: Mwynhewch 20% oddi ar eitemau (ac eithrio nwyddau sy’n seiliedig ar gomisiwn) gyda’ch cerdyn adnabod staff.