Mae gwaith adnewyddu tô 17eg ganrif ar adeilad y Sosban yn Nolgellau wedi cipio gwobr genedlaethol am ei rhinweddau traddodiadol prin gan ddefnyddio Llechi Cymru.

Cyhoeddwyd mai’r cwmni o Sir Fôn, Greenough & Sons oedd enillwyr y categori ‘Defnydd gorau o lechi ar gyfer tô treftadaeth’ yng ngwobrau Toeau ar Oleddf 2020 allan o saith cwmni o gontractwyr oedd ar y rhestr fer.

Roedd y gwaith a barhaodd am 10 wythnos ar adeilad gradd II rhestredig Caffi’r Sosban yng nghanol tref Dolgellau yn cynnwys gwaith oedd unwaith yn draddodiadol i’r ardal ond sydd bellach yn brin iawn i’w weld.

Defnyddiwyd llechi glaslwyd Cwt y Bugail Llechi Cymru ar hap er mwyn dyblygu patrwm y tô gwreiddiol, oedd wedi ei  beintio a bitwmen wedi ceisiadau aflwyddianus blaenorol i’w atgyweirio.

Roedd y gwaith adfer yn rhan o Brosiect Treftadaeth Treflun Dolgellau ariannir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cadw, oedd wedi adnabod yr adeilad fel un o dri adeilad yn y dref oedd wedi ei blaenoriaethu i gael eu hatgyweirio.

Dywedodd y Pensaer, Rhys Llwyd Davies said:

“Roedd y tô gwreiddiol yn cynnwys patrymau manwl oedd yn draddodiadol i’r ardal. Bu’r tîm dylunio’n cydweithio er mwyn dod i gytundeb bod rhaid defnyddio llechi mawr ar tô isaf a chynnydd yn y gorgyffyrddiad er mwyn darparu amddiffyniad yn erbyn y gwynt a’r glaw ond oedd hefyd yn ymdebygu i’r edrychiad gwreiddiol”.

Dywedodd Jon Greengough, Rheolwr Gyfarwyddwr Greengough:

“Mae’r math yma o dô nad yw’n cynnwys unrhyw fath o blygiad plwm yn anodd tu hwnt i’w gael yn iawn, a dim ond y gweithwyr mwyaf profiadol gyda cymorth arbenigedd lleol fyddai wedi gallu llwyddo i gyflawni’r nodweddion hyn yn ogystal a chadw’r glaw i ffwrdd”.

“Roedd llechi ar hap Cwt y Bugail yn berffaith ar gyfer y gwaith. Roedd ansawdd y llechi yn rhoi hyder i’r gweithwyr eu bod yn defnyddio’r cynnyrch gorau ac yn darparu’r cleient gyda to sydd a gwydnwch heb ei ail.”

Ychwanegodd John Ellis, Rheolwr Prosiect Treftadaeth Treflun Dolgellau:

“Mae adnewyddu’r adeilad wedi bod yn lwyddiant mawr ac mae cipio’r wobr genedlaethol yma yn glôd i’r contractwyr a’r holl ymchwil, gwaith caled a sgil ddefnyddiwyd gan bawb oedd yn ymwneud a’r prosiect.”

Yn ogystal a’r tô, adnewyddwyd gweddill yr adeilad gan gynnwys ail bwyntio gyda mortar calch, atgyweirio’r ffenestri, gosod landeri haearn a chyflwyno arwyddion cydweddol o gwmpas perimedr yr adeilad.

Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Toeau ar Oleddf mewn seremoni rhithiol nos Wener 26ain o Chwefror 2021.

Nodyn i Olygyddion

  1. 2020 Cyhoeddiad Gwobrau Toeau ar Oleddf
  2. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ioan Gwilym, Swyddog Cyfathrebu Gwasanaethau Corfforaethol APCE ar 01766 772 253 neu ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru